Absenoldeb oherwydd salwch y GIG: adroddiad ansawdd
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw'r ystadegau hyn?
Mae'r ystadegau hyn yn cyflwyno gwybodaeth chwarterol am absenoldeb staff oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru yn ôl sefydliad a grŵp staff y GIG.
Ffynhonnell y data a'r fethodoleg
Mae’r data yn y datganiad hwn a thablau cysylltiedig StatsCymru yn dod o'r Cofnod Staff Electronig (ESR) a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). System gyflogres ac adnoddau dynol ar gyfer cyflogeion y GIG yng Nghymru a Lloegr yw'r ESR. Caiff detholiad ei lawrlwytho’n fisol o Warws Data yr ESR sy'n rhoi manylion nifer y diwrnodau calendr Cyfwerth ag Amser Llawn sydd ar gael a nifer y diwrnodau calendr Cyfwerth ag Amser Llawn o absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer pob aelod o staff y GIG yng Nghymru ar yr ESR. Yna cyfrifir cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer GIG cyfan Cymru, grwpiau staff a sefydliadau unigol. Cyfrifir y gyfradd hon drwy rannu'r nifer o ddiwrnodau Cyfwerth ag Amser Llawn o absenoldeb oherwydd salwch â'r nifer o ddiwrnodau Cyfwerth ag Amser Llawn sydd ar gael.
Cyfrifir cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch gan ddefnyddio diwrnodau calendr Cyfwerth ag Amser Llawn ac maent yn cynnwys diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau gwaith, sef 365 diwrnod y flwyddyn (366 diwrnod am flwyddyn naid). Gall hyn arwain at ychydig o dangyfrif yn y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch a gyfrifir fel hyn o gymharu â chyfraddau absenoldeb oherwydd salwch a gyfrifir gan ddefnyddio diwrnodau gwaith Cyfwerth ag Amser Llawn yn unig, gan fod diwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau gwaith, fel penwythnosau, wedi'u cynnwys yn y rhifiadur (os cânt eu cynnwys mewn cyfnod o salwch a gofnodwyd) a’r enwadur. Fel arfer, ni fydd pob diwrnod nad yw'n ddiwrnod gwaith a gollir oherwydd salwch wedi cael ei adrodd gan gyflogai ac felly'n cael ei gofnodi ar yr ESR.
Mae defnyddio'r term Cyfwerth ag Amser Llawn yn y cyd-destun hwn yn golygu, er enghraifft, os yw aelod llawn amser o staff yn sâl am 5 diwrnod (gan gynnwys unrhyw ddiwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau gwaith) yna'r rhifiadur ar gyfer y gyfradd=5, a'r enwadur=365. Fodd bynnag, os yw aelod hanner amser o staff yn sâl am 5 diwrnod (gan gynnwys unrhyw ddiwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau gwaith) yna'r rhifiadur=5 a'r enwadur=182.5.
Mae'r fethodoleg hon yn gyson drwy’r gyfres gyhoeddi fel bod modd cymharu gwahanol sefydliadau a grwpiau staff y GIG yn gywir dros gyfres amser. Defnyddir yr un fethodoleg hefyd gan NHS Digital ar gyfer adrodd am Gyfraddau Absenoldeb oherwydd Salwch y GIG yn Lloegr. Fodd bynnag, dylid bod yn ofalus wrth gymharu'r cyfraddau hyn â'r rhai sy'n defnyddio methodolegau gwahanol.
Cwmpas
Mae ystadegau absenoldeb oherwydd salwch yn ymwneud â'r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru yn ystod y cyfnodau cofnodi. Mae staff a gyflogir yn uniongyrchol ar absenoldeb mamolaeth/tadolaeth, absenoldeb salwch neu seibiant gyrfa wedi'u cynnwys. Nid yw staff asiantaeth na banc wedi'u cynnwys. Caiff staff gofal sylfaenol fel y rhai a gyflogir mewn practisau meddygol cyffredinol a phractisau deintyddol y GIG eu heithrio. Mae practisau gofal sylfaenol wedi’u contractio’n wahanol i staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG.
Cofnodir staff a gyflogir yn uniongyrchol ar yr ESR sy'n gweithredu fel ffynhonnell ddata ar gyfer ystadegau chwarterol Staff y GIG a'r ystadegau Absenoldeb oherwydd salwch.
Cyflwynir ystadegau bob chwarter o ddechrau blwyddyn galendr ymlaen.
Cyhoeddir data sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad ar StatsCymru.
Ar gyfer data sy'n ymwneud â chyfnod pandemig y coronafeirws (COVID-19), nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu yn cael eu cyfrif fel bod yn absennol oherwydd salwch ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr ystadegau. Mewn ymateb i’r pandemig, sefydlwyd casgliad data ar wahân o wybodaeth reoli (StatsCymru) ar absenoldeb oherwydd salwch staff y GIG. Roedd y wybodaeth reoli yn rhoi syniad mwy amserol o gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ond nid oedd yn cael ei gasglu ar yr un sail â’r ystadegau Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG ac nid oedd wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd. Am y rhesymau hyn, bydd y data yn y ddau gasgliad yn wahanol a dylai’r ystadegau swyddogol yn y datganiad Absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG gael eu hystyried y ffynhonnell awdurdodol o ddata ar absenoldeb oherwydd salwch staff GIG Cymru.
Sut y gallai’r ystadegau hyn gael eu defnyddio?
Bydd yr ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:
- cyngor i weinidogion
- llywio trafodaeth yn y Senedd a thu hwnt
- monitro a gwerthuso lefelau staffio yn y GIG yng Nghymru
Pwy yw prif ddefnyddwyr posibl y data hwn?
Y prif ddefnyddwyr yw:
- gweinidogion, aelodau o'r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Senedd
- sefydliadau'r GIG
- y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru
- meysydd eraill yn Llywodraeth Cymru
- y gymuned ymchwil
- myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
- dinasyddion unigol a chwmnïau preifat
Os ydych chi'n ddefnyddiwr ac nid ydych chi’n teimlo bod y rhestr uchod yn eich cwmpasu'n ddigonol, neu os hoffech chi gael eich ychwanegu at ein rhestr ddosbarthu, rhowch wybod i ni drwy e-bostio ystadegau.iechyd@llyw.cymru.
Cryfderau a chyfyngiadau'r data
Cryfderau
- Mae data yn cwmpasu holl sefydliadau'r GIG ar gyfer staff a gyflogir gan y GIG yng Nghymru.
- Mae data ar gael yn ôl grŵp staff er bod rhai ychydig yn wahanol i’r rhai a ddefnyddir i adrodd yn chwarterol ar niferoedd Staff y GIG.
- Dangosir cyfartaledd symudol o 12 mis mewn adroddiadau i ddarparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch gan fod amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn.
- Er bod data'n cael eu cyhoeddi bob chwarter, mae'r cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch a ddarperir drwy ein gwefan StatsCymru yn ddata misol.
Cyfyngiadau
- Mae absenoldeb oherwydd salwch yn destun amrywiad tymhorol amlwg ond mae adroddiadau'n dangos cyfartaledd symudol o 12 mis i ddangos tuedd hirdymor yn gliriach.
- Er bod cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch, yn gyffredinol, yn dangos lefelau is o absenoldeb oherwydd salwch, dylid nodi y gall cyfraddau is hefyd nodi bod absenoldeb oherwydd salwch yn cael ei dangofnodi.
Cylch prosesu data
Cyflwynir data gan AaGIC ar daenlenni Excel drwy Afon, system ddiogel Llywodraeth Cymru ar gyfer trosglwyddo data gwe.
Ystadegwyr Llywodraeth Cymru sy'n cynnal gwiriadau dilysu, ac mae ymholiadau'n cael eu cyfeirio at AaGIC a chysylltiadau GIG lle bo angen.
Ar ôl eu dilysu, cyhoeddir data yn unol â datganiad ar gyfrinachedd a mynediad data bob chwarter.
Ar hyn o bryd, cyhoeddir ystadegau mewn tudalen we html gyda dadansoddiad a sylwebaeth fer, yn ogystal â thablau fformat data agored a gyhoeddir ar StatsCymru.
Cyhoeddir data yn ôl grŵp staff ar lefel bwrdd iechyd lleol a chenedlaethol cyfanredol, heb fawr ddim risg o ddatgelu gwybodaeth am unrhyw unigolyn. Dangosir yr holl ffigurau i un lle degol.
Gwybodaeth am ansawdd
Caiff ein hystadegau eu cynhyrchu i safonau proffesiynol uchel a nodir yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Maent yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau ansawdd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Fe'u cynhyrchir heb unrhyw ymyrraeth wleidyddol.
Caiff data ar nifer y Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru (a elwir hefyd yn ddata’r cyfrifiad ar staff y GIG) eu cyhoeddi bob chwarter. Mae mân wahaniaethau yn y grwpiau staff y caiff eu cynnwys yn y data absenoldeb oherwydd salwch a chyfrifiad staff yn hynny:
- mae staff locwm yn cael eu tynnu o ddata'r cyfrifiad staff ar sail eu cod meddiannaeth, ond mae rhai staff locwm yn parhau yn y data absenoldeb salwch.
- ers 2018 mae'r rhan fwyaf o gynorthwywyr gofal iechyd sy'n gweithio mewn gwasanaethau nyrsio wedi cael eu hail-gategoreiddio, gan symud o'r grŵp cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth eraill i staff cymorth nyrsio. Mae'r staff cefnogi hynny sy'n gweithio mewn gwasanaethau nyrsio nad ydynt wedi cael eu hailgodio yn parhau o fewn y grŵp staff cynorthwywyr gofal iechyd a gweithwyr cymorth eraill o fewn y data absenoldeb salwch, ond o 2009 maent yn cael eu dangos fel staff cymorth nyrsio yn nata'r cyfrifiad staff i wneud cymariaethau dros y cyfnod hwnnw'n fwy ystyrlon.
- ychwanegir staff eraill (h.y. taliadau cyffredinol a staff anfeddygol eraill) at y grŵp staff 'gweinyddu ac ystadau' yn y datganiad absenoldeb oherwydd salwch; maent yn cael eu dangos ar wahân yn y datganiad a data cyfrifiad staff.
Caiff data Swyddi gwag ar gyfer staff a gyflogir yn uniongyrchol gan GIG Cymru eu cyhoeddi bob chwarter hefyd. Mae’r grwpiau staff a gynhwysir yno yn cael eu pennu gan y cod goddrychol o fewn ESR ac maent yn wahanol i’r rhai yn y data absenoldeb oherwydd salwch a cyfrifiad staff.
Perthnasedd
Yn 2009, cynhaliodd Swyddfa Archwilio Cymru adolygiad o absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Cymru. Gwnaeth yr adroddiad hwn nifer o argymhellion allweddol, gan gynnwys yr argymhelliad y dylid cyhoeddi tueddiadau absenoldeb oherwydd salwch a hefyd y tueddiadau ar gyfer sefydliadau a grwpiau staff.
Gellir defnyddio'r ystadegau hyn ar gyfer monitro lefelau absenoldeb oherwydd salwch fesul sefydliad y GIG yng Nghymru, a’u cymharu â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a sefydliadau nad ydynt yn rhan o'r sector cyhoeddus, er dylid cymryd gofal i sicrhau bod modd cymharu methodolegau.
Rydym yn annog y rheini sy’n defnyddio’r ystadegau i gysylltu â ni i roi gwybod sut y maent yn defnyddio'r data.
Cywirdeb
Gan fod y Cofnod Staff Electronig yn system fyw a bod rhannau o ddata'n cael eu cymryd ohono, gellir diwygio’r data a gyflwynir mewn rhifynnau o'r datganiad ystadegol yn y dyfodol. Yn benodol, gellir gwneud diwygiadau i ddata fesul grŵp staff, gan fod gwaith yn mynd rhagddo i wella codau galwedigaethau staff yn GIG Cymru.
Mae pob rhifyn o'r datganiad yn cyflwyno data ar gyfer y chwarter diweddaraf a data diwygiedig ar gyfer y chwarter blaenorol.
O’r adeg pan cyhoeddwyd y datganiad ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2016, cafodd y broses ar gyfer cynhyrchu'r datganiad absenoldeb oherwydd salwch a thablau StatsCymru eu diwygio. Mae'r fethodoleg yn aros yr un fath ar gyfer cyfrifo'r cyfraddau. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r newid yn y broses, cafodd y data a oedd ar gael ar StatsCymru eu diwygio ychydig a daeth is-setiau pellach o'r data ar gael h.y. cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad a grŵp staff.
O’r adeg pan gyhoeddwyd y datganiad ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2023, defnyddir y detholiad misol ar gyfer diwedd y cyfnod cyfeirio (h.y. Mehefin 2023) i gyfrifo’r ystadegau swyddogol. Cyflwynwyd y newid hwn i wneud ystadegau'n fwy amserol. Cyn hyn, defnyddiwyd y detholiad ar gyfer y mis ar ôl diwedd y cyfnod cyfeirio i gynnwys unrhyw oedi wrth adrodd am absenoldeb oherwydd salwch. Fodd bynnag, wrth brofi defnyddio'r data ar gyfer y cyfnod cyfeirio dan sylw, roedd effaith ymylol i ddim effaith ar gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch cyhoeddedig. Mae ystadegau hefyd yn cael eu hadolygu yn y chwarter canlynol, felly byddai unrhyw gofnod hwyr o absenoldeb oherwydd salwch yn cael ei gofnodi yno. Bydd unrhyw newidiadau sylweddol a achosir gan ddefnyddio'r data diwygiedig yn cael eu nodi yn y datganiad ystadegol.
Mae data fesul grŵp staff yn seiliedig ar fapio codau galwedigaethau ar gyfer staff unigol. Mae gwybodaeth am grwpiau staff ar gael yn Llawlyfr Codau Galwedigaethol y GIG.
Mae’n annhebygol y bydd data anghywir yn cael eu cyhoeddi, ond os byddai hyn yn digwydd byddai diwygiadau'n cael eu gwneud a byddai defnyddwyr yn cael eu hysbysu yn unol â’n trefniadau Diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.
Amseroldeb a phrydlondeb
Cyhoeddir ystadegau cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfnod amser perthnasol. Mae'r holl ddatganiadau’n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer drwy gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw drwy'r Calendr. At hynny, pe bai angen gohirio datganiad byddai hyn yn dilyn ein trefniadau Diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.
Cydlyniaeth a chymaroldeb
Caiff y data absenoldeb oherwydd salwch eu casglu drwy'r un system Adnoddau Dynol/cyflogres, Cofnod Staff Electronig (ESR), sy'n cwmpasu holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru ac yn cynnwys yr holl staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yng Nghymru.
Sefydlwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar 1 Hydref 2018 fel Awdurdod Iechyd Arbennig o fewn GIG Cymru. Mae’n bosibl y bydd cynnwys cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch ar gyfer y sefydliad hwn yn effeithio ar y dadansoddiad o gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff.
Sylwer bod y ddarpariaeth gwasanaeth iechyd ar gyfer trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr wedi symud o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf ar 1 Ebrill 2019. Cadarnhawyd enwau'r byrddau iechyd mewn datganiad ysgrifenedig, gydag enw Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac enw Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae'r hen Fyrddau Iechyd Lleol a'r rhai newydd yn ymddangos ar StatsCymru, fel sy’n briodol ar gyfer y cyfnodau dan sylw.
Cyn mis Ionawr 2021 cofnodwyd holl staff Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (PCGC) dan Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Rhwng Ionawr a Mai 2021 cofnodwyd staff PCGC penodol (gan gynnwys deintyddion sylfaen, hyfforddeion F1 a chofrestrwyr arbenigol) ar wahân fel staff PCGC. O fis Mehefin 2021 cofnodwyd holl staff PCGC ar wahân. Nid yw data ar lefel Cymru gyfan wedi’i effeithio gan y newidiadau hyn.
Mae data ar gyfer Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Awdurdod Iechyd Arbennig, ar gael o 1 Ebrill 2021.
Gall newidiadau dros amser i godau galwedigaethau’r GIG a’r codau newydd a roddir i staff effeithio ar ffigurau yn ôl grŵp staff, ond nid effeithir ar y cyfraddau cyffredinol.
Gellir defnyddio'r ystadegau hyn ar gyfer monitro lefelau absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliadau'r GIG yng Nghymru, a chymariaethau â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a sefydliadau nad ydynt yn rhan o'r sector cyhoeddus er y dylid cymryd gofal i sicrhau y gellir cymharu methodolegau.
NHS Digidol sy’n cyhoeddi cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn GIG Lloegr. Cyfrifir cyfraddau Lloegr gan ddefnyddio'r un fethodoleg â ffigurau Cymru yn y datganiad hwn.
Hygyrchedd
Cyhoeddir yr ystadegau mewn modd hygyrch, trefnus a hynny ymlaen llaw ar wefan Llywodraeth Cymru am 9.30am ar y diwrnod cyhoeddi. Rhoddir cyhoeddusrwydd i ddatganiadau ystadegol ar Twitter ac maent ar gael i'w lawrlwytho am ddim.
Mae data manylach ar gael ar yr un pryd ar wefan StatsCymru a gellir eu trin ar-lein neu eu lawrlwytho'n daenlenni i'w defnyddio all-lein.
Defnyddir Cymraeg clir gymaint â phosibl yn ein datganiadau, ac yn cydymffurfio â pholisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddir holl benawdau ein tudalennau gwe yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Lledaenu datganiadau
Cyhoeddir datganiad ystadegol byr gyda chrynodebau lefel uchel a chyhoeddir tablau data rhyngweithiol pellach ar StatsCymru.
Gwerthuso
Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn, a gellir gwneud hynny drwy anfon neges e-bost i ystadegau.iechyd@llyw.cymru.