Mae'r data ar gyfer disgyblion sy’n absennol yn gyson ac absenoldeb yn ôl rhyw, ethnigrwydd, prydau ysgol am ddim ac anghenion addysgol arbennig ar gyfer Medi 2017 i Awst 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Absenoldeb o ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion
Mae’r data hwn yn adrodd ar absenoldeb o ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion. Mae’n defnyddio data ar lefel disgyblion sy'n cysylltu data o’r Cofnod Presenoldeb Disgyblion i ddata ar nodweddion y disgyblion o'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD), ac yn cwmpasu’r cyfnod 2012/13 i 2017/18.
Nodwch fod y ffordd y mae anghenion addysgol arbennig disgyblion yn cael eu casglu a'u cofnodi yn wahanol i flynyddoedd blaenorol ac felly nid yw'r ffigurau yn uniongyrchol gymharol.
Disgyblion sy’n absennol yn gyson
Disgyblion sy’n absennol yn gyson yw disgyblion a oedd yn absennol am o leiaf 20% o nifer modd y sesiynau hanner diwrnod lle’r oedd ysgolion yn agored i ddisgyblion.
- Yn 2017/18, roedd 1.7% o ddisgyblion ysgol gynradd yn absennol yn gyson, cynnydd o 0.2 pwynt canran o 2016/17. Dros y tymor hir mae’r canran wedi haneru o’r 3.4% yn 2008/09.
- Roedd 4.1% o ddisgyblion ysgol uwchradd yn absennol yn gyson, cynnydd o 0.1% dros 2016/17. Mae’r canran wedi mwy na haneru o’r 9.3% yn 2008/09.
- Yn Sir Gaerfyrddin oedd y canran uchaf o ddisgyblion sy’n absennol yn gyson o ysgolion cynradd, ac yng Nghasnewydd oedd y canran uchaf yn ysgolion uwchradd.
- Roedd dros hanner o’r holl absenoldebau gan bob disgybl oherwydd salwch, a chwarter oherwydd rhesymau anawdurdodedig. Roedd disgyblion sy’n absennol yn gyson yn fwy tebygol o fod yn absennol oherwydd rhesymau anawdurdodedig.
- Roedd y gyfradd absenoldeb anawdurdodedig ymysg disgyblion sy’n absennol yn gyson yn uwch yn ysgolion uwchradd nac ysgolion cynradd.
Nodweddion disgyblion
- Roedd absenoldeb cyson yn fwy cyffredin ymysg disgyblion a’r hawl i brydau ysgol am ddim ac anghenion addysgol arbennig.
- Er bod cyfraddau absenoldeb wedi cynyddu yn ddiweddar ar gyfer disgyblion a’r hawl i brydau ysgol am ddim, mae’r cyfraddau dal yn is nag yn 2011/12.
- Roedd absenoldeb cyson yn uwch ymysg bechgyn yn ysgolion cynradd ond yn uwch ymysg merched yn ysgolion uwchradd.
- Mae absenoldeb cyffredinol yn is ymysg disgyblion a chefndir ethnig du neu Tseiniaidd, and yn uchaf ymysg disgyblion o gefndir ethnigrwydd gwyn.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Absenoldeb o ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion, Medi 2017 i Awst 2018: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 83 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.