Neidio i'r prif gynnwy

Mae data am absenoldeb disgyblion sy’n absennol yn gyson a phob disgybl oedran ysgol gorfodol (5 i 15) mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir ar gyfer Medi 2016 i Awst 2017.

Prif bwyntiau

  • Yn 2016/17 bu dim newid yn y canran y disgyblion sy’n absennol yn gyson o ysgolion cynradd o 2015/16, 1.5%, ond bu cynnydd o 0.1 pwynt canran, o 3.9% i 4.0%, yn ysgolion uwchradd.
  • Sir Gaerfyrddin oedd â’r canran uchaf o ddisgyblion sy’n absennol yn gyson o ysgolion cynradd yn 2016/17.
  • Caerffili oedd â’r ganran uchaf o ddisgyblion sy’n absennol yn gyson o ysgolion uwchradd yn 2016/17.
  • O fewn ysgolion cynradd prif ffrwd, roedd 36.3% o’r absenoldeb ar gyfer disgyblion sy’n absennol yn gyson yn absenoldeb heb awdurdod yn 2016/17, o’i gymharu â 22.1% ar gyfer holl ddisgyblion.
  • O fewn ysgolion uwchradd prif ffrwd, roedd 48.5% o’r absenoldeb ar gyfer disgyblion sy’n absennol yn gyson yn absenoldeb heb awdurdod yn 2016/17, o’i gymharu â 24.0% ar gyfer holl ddisgyblion.
  • Roedd rhesymau salwch, apwyntiadau deintyddol/meddygol a gwyliau teulu yn llai cyffredin fel rhesymau absenoldeb ymhlith disgyblion sy’n absennol yn gyson o’i gymharu â holl ddisgyblion.
  • Roedd absenoldeb cyson yn fwy cyffredin ymhlith disgyblion sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim neu â anghenion addysgol arbennig.
  • Roedd cyfraddau absenoldeb cyffredin yn uwch ymhlith disgyblion sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim neu â anghenion addysgol arbennig.

Nodiadau

Ceir gwybodaeth ansawdd ar gyfer y datganiad diweddar yn y daenlen Excel.

Nodwch fod y ffordd y mae anghenion addysgol arbennig disgyblion yn cael eu casglu a'u cofnodi yn wahanol i flynyddoedd blaenorol ac felly nid yw'r ffigurau yn uniongyrchol gymharol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Absenoldeb o ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion, Medi 2016 i Awst 2017: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 66 KB

ODS
66 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.