Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â phresenoldeb disgyblion o oedran ysgol gorfodol (11 i 15 oed) mewn ysgolion canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir. Mae'r data yn deillio o'r ffurflenni statudol a ddarparwyd gan awdurdodau lleol yn dilyn gŵyl y banc ddiwedd mis Mai 2023/24. Nid yw'r data yn cwmpasu'r flwyddyn ysgol gyfan oherwydd yr effaith ar bresenoldeb mewn arholiadau cyhoeddus sy'n digwydd ddiwedd mis Mai a mis Mehefin.

Cafodd y gwaith o gasglu'r data hwn ei atal ar ddechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020 ac nid oes data ar gael ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 a 2021/22.

Ers mis Medi 2020 rydym wedi bod yn casglu ac yn cyhoeddi data presenoldeb dyddiol gan ysgolion. Caiff y data hwn ei dynnu'n uniongyrchol o Systemau Gwybodaeth Rheoli Ysgolion (MIS) unwaith yr wythnos. Cesglir y data hwn fel gwybodaeth reoli ac nid yw'n cael ei ddilysu na'i gytuno gydag ysgolion neu awdurdodau lleol. Felly, nid oes ganddo'r un lefel o sicrwydd ansawdd â'r data presenoldeb blynyddol a gynhwysir yn y datganiad hwn. Mae data wythnosol a blynyddol y ddau ar gael ar gyfer blwyddyn ysgol 2023/24, ond am y rhesymau uchod nid oes modd cymharu'n llwyr er bod canlyniadau cyffredinol ar gyfer blwyddyn academaidd lawn ar lefel Cymru yn gyson.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol ffynonellau swyddogol data presenoldeb a chyngor ar ba un dylid eu defnyddio a phryd, gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Cafodd casglu a chyhoeddi data absenoldeb o ysgolion cynradd hefyd ei atal yn ystod pandemig y COVID-19. Mae bellach wedi'i adfer a bydd data ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24 yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2024.

Ysgolion arbennig a gynhelir

Cesglir data ar gyfer ysgolion arbennig a gynhelir ar lefel ysgolion cyfanredol ac nid yw'r rhan fwyaf o'r data ar absenoldeb yn ôl nodweddion disgyblion ar gael i ddisgyblion yn yr ysgolion hyn. Bydd unrhyw ddata a ffigurau isod sy'n cynnwys ysgolion arbennig yn cael eu nodi felly. Os nad oes nodyn ar y sylwedd, yna bydd y data ond yn cynnwys ysgolion canol ac uwchradd a gynhelir.

Prif bwyntiau

  • Mae canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd gan ddisgyblion oed ysgol uwchradd bron wedi dyblu i 12% rhwng 2023/24 a 2018/19. Mae wedi gostwng ychydig o 12.5% yn 2022/23.
  • Collodd disgyblion oed ysgol uwchradd sy'n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim (PYD) 20.1% o sesiynau hanner diwrnod yn 2023/24, tra bod disgyblion oedran ysgol uwchradd nad ydynt yn gymwys i gael PYD wedi colli 9.8% o sesiynau hanner diwrnod. Mae'r ddau ffigur bron dwbl canrannau'r absenoldebau yn 2018/19, ond maent wedi gwella ychydig ers 2022/23 pan oeddent yn 20.6% a 10.2% o'r sesiynau wedi'u colli yn y drefn honno.
  • Roedd canran y sesiynau hanner diwrnod a fethwyd gan ddisgyblion blwyddyn 11 yn 2023/24 yn 14.7%, gan aros ddwywaith y 6.8% o'r sesiynau yn 2018/19. Fodd bynnag, disgyblion ym mlwyddyn 11 welodd y gostyngiad mwyaf mewn absenoldeb ers 2022/23 o unrhyw grŵp blwyddyn ysgol uwchradd, i lawr 0.9 pwynt canran o 15.5% yn 2022/23.
  • Ar gyfer disgyblion blwyddyn 7, cafodd 8.9% o sesiynau hanner diwrnod eu colli yn 2023/24, i lawr o 9.4% o'r sesiynau yn 2022/23
  • Mae canran y disgyblion oed ysgol uwchradd a oedd yn absennol yn gyson (absennol am 10% neu fwy o sesiynau hanner diwrnod) wedi mwy na dyblu i 37.1% rhwng 2023/24 a 2018/19. Fodd bynnag, mae hyn i lawr o 40.1% o ddisgyblion yn 2022/23.
  • Roedd 61.4% o ddisgyblion oed ysgol uwchradd a oedd yn gymwys i PYD yn absennol yn gyson yn 2023/24, mae hyn i lawr o 64.3% yn 2022/23. Yn 2018/19, roedd 35.5% o ddisgyblion sy'n gymwys i gael PYD yn absennol yn gyson.
  • Roedd 30.9% o ddisgyblion uwchradd nad oeddent yn gymwys i gael PYD yn absennol yn gyson, i lawr o 33.9% yn 2022/23. Yn 2018/19, roedd 13.4% o ddisgyblion nad oeddent yn gymwys i gael PYD yn absennol yn gyson.
  • Roedd 45.2% o ddisgyblion blwyddyn 11 yn absennol yn gyson yn 2023/24, i lawr o 49.0% yn 2022/23.  Yn 2018/19, roedd 18.8% o ddisgyblion blwyddyn 11 yn absennol yn gyson.
  • Roedd 28.2% o ddisgyblion blwyddyn 7 yn absennol yn gyson yn 2023/24, i lawr o 31.2% yn 2022/23. Yn 2018/19 roedd 12.5% o ddisgyblion blwyddyn 7 yn absennol yn gyson.

Absenoldeb cyffredinol

Ffigur 1: Canran y sesiynau hanner diwrnod yn absennol o'r ysgol gan ddisgyblion oed ysgol uwchradd, 2013/14 i 2023/24

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart llinell sy'n dangos absenoldeb rhwng 2013/14 a 2023/24. Dangosir absenoldeb, absenoldeb awdurdodedig ac absenoldeb heb awdurdod. Bu cynnydd sydyn yn absenoldeb cyffredinol, gan ddyblu rhwng 2018/19 a 2022/23 yn dilyn pandemig y COVID-19. Yn 2023/24 er bod absenoldeb cyffredinol ac absenoldebau awdurdodedig wedi gostwng, cododd absenoldeb heb awdurdod (0.1 pwynt canran).

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2023/24 (yn cynnwys ysgolion canol, uwchradd ac arbennig)

[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22. Dyma'r ardal lwyd yn y siart.

Absenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn

Ffigur 2: Canran y sesiynau hanner diwrnod o absenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn rhwng 2018/19 a 2023/24

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Cyfres o fariau wedi'u pentyrru sy'n dangos cynnydd sydyn mewn absenoldeb ar draws pob grŵp blwyddyn yn dilyn pandemig y COVID-19. Fodd bynnag, yn 2023/24 mae'r cyfraddau absenoldeb ar draws pob grŵp blwyddyn yn is o'i gymharu â'r rhai yn 2022/23. Mae gan ddisgyblion Blwyddyn 11 yr absenoldeb uchaf yn 2018/19 a 2023/24 a'r cynnydd mwyaf rhwng y ddwy flynedd hynny.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2023/24 (yn cynnwys ysgolion canol ac uwchradd a gynhelir)

Absenoldeb yn ôl Prydau Ysgol am Ddim (PYD)

Mae disgyblion yn gymwys i gael PYD os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth

Bu newidiadau sylweddol yn ddiweddar yn y ddarpariaeth PYD yng Nghymru fel rhan o gyflwyno Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd. I gael rhagor o fanylion, gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

Ffigur 3: Canran y sesiynau hanner diwrnod o absenoldeb yn ôl cymhwysedd PYD rhwng 2018/19 a 2023/24

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Bariau wedi'u pentyrru'n dangos cynnydd sydyn mewn absenoldeb i ddisgyblion sy'n gymwys a ddim yn gymwys i gael PYD yn dilyn pandemig y COVID-19. Mae'r absenoldeb cyffredinol ar gyfer y ddau grŵp wedi dyblu rhwng 2018/19 a 2022/23, fodd bynnag, mae gan ddisgyblion sy’n gymwys i gael PYD gyfran sylweddol uwch o absenoldeb heb awdurdod. Mae'r cyfraddau absenoldeb ar gyfer y ddau grŵp wedi gwella ychydig yn 2023/24 o'i gymharu â 2022/23.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2023/24 (yn cynnwys ysgolion uwchradd a chanol)

Mae Ffigur 3 yn dangos bod disgyblion sy'n gymwys a ddim yn gymwys i gael PYD wedi gweld eu habsenoldeb cyffredinol yn dyblu rhwng 2018/19 a 2023/24 ac mae'r ddau grŵp wedi gweld cynnydd mewn absenoldeb heb awdurdod fel cyfran o'u habsenoldeb cyffredinol.

  • Roedd disgyblion nad oedd yn gymwys i gael PYD yn absennol am 9.8% o'r holl sesiynau ysgol yn 2023/24. Mae hyn i lawr o 10.2% yn 2022/23 ond i fyny o 5.3% yn 2018/19. Yn 2023/24 roedd 32% o'r absenoldebau hyn heb awdurdod.
  • Roedd disgyblion sy'n gymwys i gael PYD yn absennol am 20.1% o'r holl sesiynau ysgol yn 2023/24, i lawr o 20.6% yn 2022/23 ond bron i ddwbl y 10.5% o'r holl sesiynau yn 2018/19. Yn 2023/24 roedd 49% o'r absenoldebau hyn heb awdurdod.
  • Rhwng 2013/14 a 2018/19 roedd y ffigurau presenoldeb ar gyfer pob grŵp blwyddyn yn sefydlog.

Cymwys am PYD a grŵp blwyddyn

Nid yw'r patrwm rhwng disgyblion sy'n gymwys ac ddim yn gwmwys am PYD yr un fath ar draws grwpiau blwyddyn.

Ffigur 4: Bwlch pwynt canran rhwng canrannau’r sesiynau hanner diwrnod o absenoldeb disgyblion sy’n gymwys ac nad ydynt yn gymwys am PYD yn ôl grŵp blwyddyn rhwng 2018/19 a 2023/24

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar yn dangos bwlch sy’n cynyddu mewn absenoldeb rhwng disgyblion sy'n gymwys a ddim yn gymwys am PYD wrth i'r grŵp blwyddyn gynyddu. Mae'r patrwm yn ymddangos yn 2018/19, ond mae'n fwy amlwg yn 2023/24. Yn 2023/24, mae'r bwlch pwynt canran wedi gostwng i ddisgyblion ym mlynyddoedd 10 ac 11 o'i gymharu â 2022/23.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2023/24 (yn cynnwys ysgolion canol ac uwchradd a gynhelir)

Mae'r bwlch rhwng disgyblion sy'n gymwys a ddim yn gymwys am PYD wedi bron dyblu ar draws pob grŵp blwyddyn rhwng 2018/19 a 2023/24. Rhwng 2013/14 a 2018/19 roedd y bwlch yn gyson rhwng 3.7 a 6.0 pwynt canran.

Mae'r gwahaniaeth rhwng y bwlch ar gyfer disgyblion blwyddyn 7 a disgyblion blwyddyn 11 wedi ehangu rhwng 2018/19 a 2023/24, o 1.8 pwynt canran yn 2018/19 i 3.9 pwynt canran yn 2023/24.

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli'r wybodaeth hon. Nid yw o reidrwydd yn wir, ar gyfer grŵp o ddisgyblion sy'n symud ymlaen trwy grwpiau blwyddyn yn y dyfodol, y bydd eu bwlch PYD yn ehangu i'r radd uchod. Mae'n bosibl bod pandemig COVID-19 wedi effeithio ar grwpiau blwyddyn yn wahanol.

Absenoldeb yn ôl nodweddion pellach

Absenoldeb yn ôl rhyw

Yn 2023/24 collodd disgyblion benywaidd 11.5% o sesiynau hanner diwrnod ar gyfartaledd a chollodd disgyblion gwrywaidd 12.5% o sesiynau hanner diwrnod ar gyfartaledd mewn ysgolion canol, uwchradd ac arbennig. Mae'r ffigurau hyn wedi gostwng 0.5% o bwyntiau canran o'i gymharu â 2022/23.

Absenoldeb yn ôl cefndir ethnig

Mae pob grŵp ethnig wedi gweld cynnydd mewn absenoldeb rhwng 2018/19 a 2023/24.

Yn 2023/24 disgyblion sy'n nodi eu bod yn Deithwyr sydd â'r gyfradd uchaf o absenoldeb, yn absennol am 32.6%, i lawr o 36.7% yn 2022/23 a disgyblion sy'n nodi fel Tsieineaidd neu Brydain Tsieineaidd y gyfradd isaf o absenoldeb gyda 3.7% o sesiynau, i fyny o 3.5% yn 2022/23.

Absenoldeb yn ôl Anghenion Addysgol Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA/ADY)

Yn 2023/24 cafodd 17.2% o sesiynau hanner diwrnod eu colli gan ddisgyblion â darpariaeth AAA/ADY o'i gymharu ag 11.2% heb ddarpariaeth AAA/ADY. Mae'r ddwy gyfradd absenoldeb hyn wedi gostwng ychydig ers 2022/23 (0.3% pwynt).

Absenoldeb yn ôl rheswm

Salwch oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb gan gyfrif am 42.1% o'r holl absenoldebau yn 2023/24, o'i gymharu â 45% yn 2022/23 a 54% yn 2018/19.

Absennol yn gyson

Nid yw'n ofynnol i bob disgybl fod yn yr ysgol ar gyfer yr un nifer o sesiynau. Cau ysgolion, symud ysgol, diwrnodau HMS, ac ati... yn achosion lle nad oes angen i ddisgybl fynychu'r ysgol o bosibl, tra bod disgyblion eraill yn dal i fod yn bresennol.

Yn hanesyddol, diffinnir absenoldeb cyson fel absenoldeb am 20% o'r nifer fwyaf cyffredin o sesiynau gofynnol. Felly, os yw'n ofynnol i'r rhan fwyaf o ddisgyblion fod yn yr ysgol am 300 sesiwn hanner diwrnod yn y flwyddyn, y trothwy ar gyfer absenoldeb cyson yw 60 sesiwn. Nid oes angen i'r sesiynau hyn fod yn barhaus er mwyn i ddisgybl gael ei ystyried yn absennol yn gyson.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi newid y trothwy swyddogol ar gyfer absenoldeb cyson i 10% o’r nifer mwyaf cyffredin o sesiynau gofynnol. 

Y trothwy 10% ar gyfer absenoldeb cyson ar gyfer disgyblion oedran ysgol uwchradd yn 2023/24 yw 31 sesiwn.

Ffigur 5: Canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd yn absennol yn gyson, 2013/14 i 2023/24

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart llinell yn dangos bod canran y disgyblion oedran ysgol uwchradd sy'n absennol yn gyson wedi aros rhwng 19% a 15.9%  rhwng 2013/14 a 2018/19. Yn dilyn pandemig y COVID-19, mae absenoldeb cyson wedi mwy na dyblu rhwng 2018/19 a 2023/24 ac mae'r ganran bellach yn 37.1%, i lawr o 40.1% yn 2022/23. 

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2023/24 (yn cynnwys ysgolion canol ac uwchradd a gynhelir)

[Nodyn 1] Nid oes data yn y casgliad hwn ar gyfer y blynyddoedd 2019/20, 2020/21, 2021/22. Dyma'r ardal lwyd yn y siart.

Absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn

Ffigur 6: Canran y disgyblion yn absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn, 2018/19 a 2023/24

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Mae siart bar sy'n dangos canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson yn ôl grŵp blwyddyn rhwng 2018/19 a 2023/24 wedi dyblu yn fras yn y rhan fwyaf o achosion. Ar gyfer blynyddoedd 7,8 ac 11, mae'r ganran wedi mwy na dyblu. Fodd bynnag, roedd gostyngiad yng nghanran y disgyblion a oedd yn absennol yn gyson ym mhob grŵp blwyddyn o'i gymharu â 2022/23.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2023/24 (yn cynnwys ysgolion canol ac uwchradd a gynhelir)

Rhwng 2013/14 a 2018/19 nid oedd yr ystod o absenoldeb cyson rhwng grwpiau blwyddyn yn fwy na 9.7 pwynt canran , o'i gymharu â dros 17 pwynt canran yn 2023/24, er mae hynny'n is na 17.8 pwynt canran yn 2022/23.

Mae gan ddisgyblion Blwyddyn 11 y cyfraddau uchaf o absenoldeb cyson, gyda 45.2% o ddisgyblion yn absennol yn gyson yn ystod 2023/24, i lawr o 49% yn 2022/23. Blwyddyn 7 sydd â'r gyfradd isaf o absenoldeb cyson yn ystod 2023/24, gyda 28.2% o ddisgyblion yn absennol yn gyson, i lawr o 31.2% yn 2022/23.

Absennol yn gyson yn ôl Prydau Ysgol am Ddim

Yn 2023/24 canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson sy'n gymwys i gael PYD yw 61.4% o'i gymharu â 35.5% yn 2018/19 ond i lawr o uchafbwynt o 64.3% yn 2022/23. Yn 2023/24 mae'r bwlch rhwng absenoldeb cyson disgyblion sy'n gymwys i gael PYD ac nad ydynt yn gymwys i gael PYD yn 30.5 pwynt canran yr un fath ag yn 2022/23.

Ffigur 7: Canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson yn ôl PYD, 2018/19 a 2023/24

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart bar yn dangos bod canran yr absenoldeb cyson bron wedi dyblu ar gyfer disgyblion sy'n gymwys i gael PYD a mwy na dyblu ar gyfer disgyblion nad ydynt yn gymwys rhwng 2018/19 a 2023/24. Fodd bynnag, mae canran yr absenoldeb wedi gostwng o'i gymharu â 2022/23.

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2023/24 (yn cynnwys ysgolion canol ac uwchradd a gynhelir)

Mae'r cynnydd cymesur o absenoldeb cyson disgyblion and ydynt yn gymwys am PYD yn uwch na'r hyn sy'n cyfateb i ddisgyblion cymwys. Fodd bynnag, mae canran y disgyblion sy'n absennol yn gyson sy'n gymwys am PYD 2 gwaith yn uwch na'r hyn sy'n cyfateb i ddisgyblion nad ydynt yn gymwys a, PYD.

Absennol yn gyson yn ôl nodweddion pellach

Absennol yn gyson yn ôl rhyw

Gwelwyd cynnydd mewn absenoldeb cyson ymhlith disgyblion y ddau ryw ers pandemig y COVID-19.

Rhwng 2018/19 a 2023/24, mae canran y disgyblion a oedd yn absennol yn gyson wedi codi o 17.% i 38.6% o ddisgyblion oed ysgol uwchradd fenywaidd ac o 17.2% i 35.6% o ddisgyblion oedran ysgol uwchradd wrywaidd. O'i gymharu â 2022/23 mae'r ffigyrau hyn i lawr o 41.6% o ddisgyblion benywaidd a 38.8% o ddisgyblion gwrywaidd.

Absennol yn gyson yn ôl cefndir ethnig

Gwelwyd cynnydd mewn absenoldeb cyson ymhlith disgyblion o bob cefndir ethnig ers pandemig y COVID-19.

Yn 2023/24 y cefndir ethnig gyda'r canran isaf o absenoldeb cyson oedd Tsieineaidd neu Brydeinig Tsieineaidd (ar 7.2%), i lawr o 7.7% yn 2022/23. Y cefndiroedd ethnig â'r ganran uchaf o absenoldeb cyson oedd Roma (sef 90.9%, i fyny o 86.7% yn 2022/23) a Theithwyr (sef 82.1%, i lawr o 87.8% yn 2022/23).

Absennol yn gyson yn ôl Anghenion Addysgol Arbennig / Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA/ADY)

Yn 2023/24 mae canran yr holl ddisgyblion AAA/ADY a oedd yn absennol yn gyson 49.0% i lawr o 51.6% yn 2022/23.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Diffiniadau

Ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol

Ysgolion a gynhelir gan yr awdurdodau lleol. Bydd yr awdurdodau'n talu eu costau'n rhannol o drethi’r cyngor ac yn rhannol o grantiau cyffredinol gan Lywodraeth Cymru.

Ysgolion canol

3/4 i 16/18 oed.

Ysgolion uwchradd

11 i 16/18 oed.

Ysgolion arbennig

Ysgolion arbennig, rhai dydd a rhai preswyl, sy'n darparu addysg i blant ag AAA na allant gael eu haddysgu'n foddhaol mewn ysgolion prif ffrwd.

Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion sydd wedi’i gynllunio’n briodol a’i ddiogelu, gyda dysgwyr wrth galon y broses.

Mae datganiadau a chynlluniau fel cynlluniau addysg unigol (IEPs) a chynlluniau dysgu a sgiliau (LSP) yn cael eu disodli gan gynllun newydd o'r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Ni fydd y termau a'r data ar 'Ddisgyblion â datganiadau', 'Gweithredu Ysgol a Mwy', a 'Gweithredu Ysgol' bellach yn cael eu defnyddio na'u casglu pan fydd y broses o bontio a gweithredu'r system ADY wedi'i chwblhau.

Mae plant yn symud o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn grwpiau dros bedair blynedd, er mwyn sicrhau digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen ac i baratoi cynlluniau.

Yn ystod y cyfnod pontio, caiff plant a phobl ifanc eu hadrodd mewn un o bedwar categori tra bod y ddwy system yn rhedeg ochr yn ochr.

Cynlluniau Datblygu Unigol

Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ar gyfer dysgwyr sydd wedi’u darganfod ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall dysgwr fod ag CDU a gynhelir mewn ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.  

Disgyblion â datganiadau

Disgyblion lle mae'r awdurdod yn cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996. Gall datganiad fod wedi'i gyhoeddi yn flaenorol gan yr awdurdod lleol ar ôl asesu anghenion plentyn.  

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.

Gweithredu gan yr Ysgol

Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol. 

Prydau ysgol am ddim

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth.

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Mae'r dadansoddiad PYD yn y datganiad hwn yn cynnwys disgyblion sy'n gymwys drwy'r meini prawf prawf modd yn unig. Nid yw'r rhai sy'n gymwys drwy TP neu UPFSM wedi'u cynnwys.

Mathau o absenoldeb

Mae pob absenoldeb (neu absenoldebau 'cyffredinol') yn cynnwys y rheini sydd wedi'u hawdurdodi a'r rheini sydd heb eu hawdurdodi:

  • Absenoldeb a ganiatawyd gan athro neu gynrychiolydd awdurdodedig arall o'r ysgol yw absenoldeb a awdurdodwyd. Mae hyn yn cynnwys absenoldebau y rhoddwyd esboniad boddhaol drosto (ee salwch, profedigaeth deuluol neu achlysur crefyddol).
  • Absenoldeb na chaniatawyd gan athro neu gynrychiolydd awdurdodedig o'r ysgol yw absenoldeb anawdurdodedig.  Mae hyn yn cynnwys pob absenoldeb na roddwyd esboniad neu gyfiawnhad drosto.

Lle bydd disgyblion yn dilyn gweithgareddau addysgol sydd wedi'u cymeradwyo ac sy'n cael eu goruchwylio ar safle arall (ee profiad gwaith neu ymweliadau addysgol), ystyrir eu bod yn bresennol yn yr ysgol.

Gweler Tabl 15: Codau Cofrestru i gael disgrifiad llawnach o godau presenoldeb a'u diffiniadau.

Ffynonellau data swyddogol ar bresenoldeb mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru

Cyn pandemig y COVID-19 gwnaethom gasglu a chyhoeddi data presenoldeb yn flynyddol. Casglwyd y set ddata flynyddol hon yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU) ac fe'i dynodir yn Ystadegau Gwladol. Fel arfer cyhoeddwyd absenoldebau o ysgolion uwchradd ym mis Awst, absenoldeb o ysgolion cynradd ym mis  Rhagfyr a dilynodd bwletin ychwanegol ar absenoldeb gan ysgolion yn ôl nodweddion disgyblion ym mis Chwefror.

Cafodd y casgliadau data sy'n sail i'r datganiadau hyn eu hatal ar ddechrau pandemig y Coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020. Nid oes data o'r casgliadau hyn ar gyfer blynyddoedd ysgol 2019/20, 2020/21 na 2021/22. Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno'r canlyniadau o ailddechrau'r casgliadau blynyddol hyn o flwyddyn ysgol 2023/24 ymlaen.

Er mwyn llywio ein hymateb polisi i'r pandemig COVID-19, dechreuom gasglu gwybodaeth reoli ddyddiol am bresenoldeb mewn ysgolion o fis Medi 2020 ymlaen. Mae'r data hwn yn cael ei dynnu'n uniongyrchol o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion ac nid yw'n cael ei ddilysu na'i ddilysu mewn unrhyw ffordd gyda'r ysgolion ac nid yw'r data bob amser ar gael ar gyfer pob ysgol bob dydd. Nid yw'n Ystadegau Swyddogol Achrededig ac mae o ansawdd is na'r data blynyddol a gyflwynir yn y datganiad hwn. Fodd bynnag, mae'n ddefnyddiol edrych ar lefelau cyffredinol o absenoldeb a thueddiadau ar lefel Cymru ac edrych ar batrymau rhwng disgyblion â nodweddion gwahanol e.e. prydau ysgol am ddim. Mae presenoldeb mewn ysgolion a gynhelir wedi cael ei gyhoeddi'n wythnosol ers mis Medi 2020.

Gwahaniaethau allweddol yn y data a gasglwyd ar bresenoldeb ysgol cyn ac yn ystod pandemig y COVID-19

Ym mis Hydref 2022 cyhoeddwyd datganiad cryno ar bresenoldeb cyn ac yn ystod y pandemig. Roedd hyn yn edrych ar y gwahaniaethau allweddol rhwng y casgliadau data blynyddol ac wythnosol ac mae gwybodaeth fanwl am y gwahaniaethau hynny iw gweld yn y datganiad hwnnw.

Data presenoldeb ar gyfer blwyddyn ysgol 2023/24

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys data presenoldeb sicr o ansawdd llawn i safonau Ystadegau Swyddogol Achrededig ar gyfer ysgolion uwchradd ar gyfer blwyddyn ysgol 2023/24.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi datganiad wythnosol o'r wybodaeth reoli yn ystod blwyddyn ysgol 2023/24 gan arwain at orgyffwrdd yn y cyfnod amser a gwmpesir gan y ddau gasgliad. Ein cyngor yw y dylai defnyddwyr ddefnyddio'r data yn y datganiad hwn cyn belled ag y bo modd a dim ond cyfeirio at y data yn y datganiad wythnosol os na ellir dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen neu ei chynhyrchu o'r set ddata flynyddol hon.

Tabl 1: Cymharu data presenoldeb blynyddol a gwybodaeth reoli wythnosol ar gyfer ysgolion uwchradd ym mlwyddyn ysgol 2023/24
Grŵp blwyddynData blynyddolGwybodaeth reoli wythnosol [Nodyn 1]Gwahaniaeth
791.190.90.2
888.788.30.4
987.687.20.4
1087.386.90.4
1185.384.60.7

Ffynhonnell: Casgliad Data Presenoldeb: Uwchradd 2023/24, Data Presenoldeb - Gwybodaeth Reoli

[Nodyn 1] Fel y cyhoeddwyd ar 6 Mehefin 2024 gan ei fod yn cwmpasu'r amserlen agosaf at y data a gyflwynir yma.

Mae'r tabl yn dangos presenoldeb cyffredinol ar gyfer ysgolion uwchradd fesul grŵp blwyddyn rhwng Medi 2023 a Mai 2024. Mae'n dangos bod y casgliadau blynyddol ac wythnosol yn cynhyrchu canlyniadau cyson gyda'r gwahaniaeth mwyaf i ddisgyblion blwyddyn 11 sef 0.7 pwynt canran.

Mae'r tabl uchod yn cadarnhau, ar lefel Cymru, bod y ddau gasgliad ar gyfer 2023/24 yn cynhyrchu canlyniadau cyson a rhesymol. Fodd bynnag, mae'n debygol, oherwydd y ffordd y mae'r data wythnosol yn cael eu casglu a'r diffyg dilysiad y byddai gwahaniaethau mwy a mwy arwyddocaol o dan lefel Cymru.

Statws ystadegau swyddogol

Dylai’r holl ystadegau swyddogol ddangos safonau’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Mae’r rhain yn ystadegau swyddogol achrededig. Cafodd eu hadolygu'n annibynnol gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ym mis Gorffennaf 2010. Maent yn cydymffurfio â'r safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir fel rhan o'r achrediad. Os byddwn yn pryderu ynghylch a yw'r ystadegau hyn yn dal i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod y pryderon hynny â'r OSR yn brydlon. Gellir dileu neu atal achrediad ar unrhyw adeg pan na fydd y safonau uchaf yn cael eu cynnal, a gellir ei adennill pan fydd y safonau yn cael eu hadfer.

Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf 2007.

Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y OSR. OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.

Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r ystadegau swyddogol achrededig (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol.

Hygrededd

Mae'r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â phresenoldeb disgyblion o oedran ysgol orfodol (11 i 15 oed) mewn ysgolion canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir. Cofnodir y data drwy gydol y flwyddyn yn system gwybodaeth reoli'r ysgol yn dilyn canllawiau statudol ar gyfer ail-godio presenoldeb ac absenoldeb. Mae'r data yn deillio o'r ffurflenni statudol a ddarperir gan awdurdodau lleol. Mae'r ffurflenni wedi'u hawdurdodi a'u dilysu gan awdurdodau lleol.

Cafodd y gwaith o gasglu a dilysu data eu cynnal rhwng mis Mai a mis Medi. Eleni, cyhoeddwyd y data ym mis Hydref. Cyn pandemig COVID-19, cyhoeddwyd y data ym mis Awst ac rydym yn gweithio tuag at yr amserlen honno.

Mae'r holl ddata personol sy'n sail i'r ystadegau hyn yn cael eu prosesu yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018.

Mae'r ystadegau hyn wedi'u cyhoeddi ymlaen llaw ar wefan Ystadegau ac Ymchwil gwefan Llywodraeth Cymru. Mae mynediad i'r data yn ystod y prosesu wedi'i gyfyngu i'r rhai sy'n ymwneud â chynhyrchu'r ystadegau, sicrhau ansawdd ac at ddibenion gweithredol. Mae mynediad cyn rhyddhau wedi'i gyfyngu i dderbynwyr cymwys yn unol â'r Cod Ymarfer (Awdurdod Ystadegau'r DU).

Ansawdd

Mae'r ffigurau cyhoeddedig a ddarperir yn cael eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddol. Mae ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn cadw at y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu piler Ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegol y DU) ac egwyddorion ansawdd ansawdd ar gyfer allbynnau ystadegol.

Rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod yr holl ddata'n cael ei ddilysu cyn cyhoeddi tablau. Caiff data ei gasglu gan awdurdodau lleol i ffurflen electronig a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy DEWi, system drosglwyddo data ar-lein ddiogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae camau amrywiol o ddilysu awtomataidd a gwirio synhwyrau yn cael eu cynnwys yn y broses i sicrhau ansawdd uchel o ddata.

Mae pob cam wrth gasglu, dilysu a chynhyrchu'r ystadegau hyn yn cael eu harwain gan ystadegwyr o Grŵp Ystadegol y Llywodraeth.

Mae'r data yn y datganiad hwn yn ymwneud â blwyddyn ysgol 2023/24 sy'n dechrau ddydd Gwener 1 Medi 2023 ac yn gorffen ar ddiwedd gŵyl banc mis Mai. Nid yw'n cwmpasu'r flwyddyn ysgol gyfan, oherwydd yr effaith ar bresenoldeb mewn arholiadau cyhoeddus sy'n digwydd ym mis Mai a Mehefin.

Roedd DEWi ar gael i'w lanlwytho ffeiliau ar 30 Mai 2024. Yna gofynnwyd i awdurdodau lleol ddilysu eu data o fewn cyfnod dilysu penodedig.

Gwerth

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amryw ffyrdd. Dyma ychydig o enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • i hysbysu’r broses o wneud penderfyniadau o fewn polisïau addysg yng Nghymru
  • i hysbysu Estyn yn ystod arolygiadau ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • i gynorthwyo ymchwil mewn i gyrhaeddiad addysgol

Ynghyd â'r datganiad hwn mae Taenlen Dogfen Agored y gellir ei rhannu a'i hailddefnyddio'n eang ac sy'n cydymffurfio â chanllawiau Swyddogaeth Dadansoddi'r Llywodraeth ar Ryddhau ystadegau mewn taenlenni. Mae tablau manwl ar StatsWales, hefyd yn cyd-fynd ag ef, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Mae data'n cael eu cyflwyno'n glir ym mhob tabl, gyda'r daenlen hefyd yn cynnwys dalen clawr yn rhestru pob tabl. Datblygwyd y sylwebaeth a'r nodiadau yn y datganiad i geisio gwneud y wybodaeth mor hygyrch â phosibl i'r ystod ehangaf o ddefnyddwyr.

Cymharedd

Lloegr

Statistics: school and pupil numbers (Yr Adran Addysg)

Yr Alban

Statistics and research (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon

Education statistics (Yr Adran Addysg)

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Hugo Vine
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image

SFR 85/2024