Neidio i'r prif gynnwy

Bydd rhaglen uchelgeisiol Cadw o waith cadwraeth hanfodol bum mlynedd o hyd yn Abaty eiconig Tyndyrn yn ganolbwynt Digging for Britain ar BBC2 ddydd Iau 4 Ionawr.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gogoniant mwyaf Tyndyrn, sef yr Eglwys Gothig, wedi sefyll ar lannau Afon Gwy ers dros 700 mlynedd. Dros y canrifoedd, mae'r tywydd wedi erydu'r gwaith cerrig canoloesol meddal ac mae prosiect cadwraeth ar raddfa fawr bellach yn mynd rhagddo i ddiogelu'r heneb a sicrhau ei bod yn ddiogel i ymwelwyr.

Dechreuodd ymchwiliadau archaeolegol ar y safle yn yr haf er mwyn helpu i lywio'r gwaith cadwraeth, a fydd yn mynd i'r afael ag erydiad naturiol a hindreuliad. Mae hyn yn cynnwys gwaith ymchwil hanesyddol, arolygon, gwaith cofnodi olion yr adeilad yn fanwl a gwaith cloddio i helpu i ddeall natur yr archaeoleg o dan lefel y ddaear.

Bydd angen sgaffaldiau uchel a thrwm iawn ar gyfer y gwaith cadwraeth a fydd yn mynd rhagddo yn ddiweddarach eleni. Cyn gosod y sgaffaldiau, comisiynwyd Archaeoleg Mynydd Du ac ArchaeoDomus i gynnal gwerthusiadau archaeolegol, er mwyn osgoi unrhyw nodweddion hynafol bregus a gladdwyd yn y ddaear a allai gael eu difrodi ac i sicrhau bod gan y sgaffaldiau sylfaen sefydlog.

Mae tîm Digging for Britain wedi bod ar y safle yn Nhyndyrn yn dilyn y gwaith cloddio, gyda rhai o'r darganfyddiadau yn cael sylw fel rhan o'r rhaglen ddydd Iau, gan gynnwys olion rhai o'r cyn-feddianwyr, a ddadansoddwyd gan Brifysgol Caerdydd, ac o bosibl noddwyr yr abaty.

Daethpwyd o hyd i lawer o arteffactau diddorol o ddiwedd y 13eg ganrif i'r cyfnod modern, gan ein helpu i ddeall datblygiad yr abaty ar draws y canrifoedd. Mae'r rhain yn cynnwys darnau o wydr ffenestri canoloesol prin, teils llawr a chrochenwaith, a darnau arian o gyfnod Harri III (1216 i 1272), Siôr III (1760 i 1820), hyd at y cyfnodau Fictoraidd ac Edwardaidd. Bydd yr olion sydd wedi’u canfod ar y safle hefyd yn ymddangos ar y rhaglen Digging for Britain.

Dywedodd Pennaeth Cadw, Gwilym Hughes:

Ers dros 700 mlynedd mae eglwys yr abaty wedi bod yn croesawu addolwyr, noddwyr cyfoethog ac ymwelwyr i'r lleoliad heddychlon hwn, ac unwaith eto mae angen ychydig o sylw arno.

‌“Mae'r hyn sydd wedi'i ddarganfod hyd yma wedi dysgu cymaint mwy i ni am Abaty Tyndyrn ac wedi gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth ohono, ei hanes, ei adeiladau a'i archaeoleg. 

‌“Rwy'n falch iawn y bydd gwylwyr Digging for Britain yn cael y cyfle i gael cipolwg ar y gwaith sy'n cael ei wneud.”

Dywedodd cyflwynydd Digging for Britain, Alice Roberts:

Roedd yn fraint enfawr ymweld â Thyndyrn wrth i archaeolegwyr ddarganfod mwy am y tirnod hanesyddol hardd ac eiconig hwn. Roeddwn wrth fy modd yn gweld rhai o'r teils llawr addurnedig gwreiddiol, a oedd wedi’u claddu o dan rwbel dymchwel cyfnodau diweddarach. Mae'r gwaith archaeolegol yn rhan o brosiect mwy i warchod yr adeilad gwych hwn, gan ei gadw'n ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.”

Dywedodd Richard Madgwick, Prifysgol Caerdydd:

Dim ond ychydig o gladdedigaethau o'r Abaty yr ydym wedi'u dadansoddi hyd yn hyn, ond mae'r rhain eisoes yn rhoi cipolwg newydd heb ei ail ar fywydau preswylwyr yr Oesoedd Canol ac Ôl-ganoloesol yn yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys straeon ingol, gan gynnwys yr hyn sy'n ymddangos yn berson anabl a fu’n derbyn gofal mawr a osodwyd i orffwys mewn bedd a dorrwyd ar frys ychydig wrth ymyl yr Abaty ar ôl y diwygiad, gan ddangos ei bod yn dal i fod ag arwyddocâd arbennig i rai yn lleol, hyd yn oed pan nad oedd yr Abaty yn cael ei ddefnyddio. Rydym bellach yn cychwyn ar raglen uchelgeisiol o ddadansoddi moleciwlaidd i adeiladu bywgraffiadau manylach, gan gynnwys asesiadau o ddeiet, iechyd a tharddiadau.”

Dywedodd Richard Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Archaeoleg Mynydd Du:

Rydym wedi cyffroi o gael cefnogi Cadw gyda’r rhaglen gadwraeth bwysig uchelgeisiol hon ar gyfer Eglwys Abaty Tyndyrn. Dyma fydd y tro cyntaf i gymaint o archwilio manwl gael ei wneud i’r Eglwys Abadol ers pan fu’r Weinyddiaeth Gwaith yn gwneud gwaith tirlunio a chloddio bron i ganrif yn ôl, ac mae’n gyfle cyffrous inni ddysgu mwy am yr adeilad mawreddog. Mae eisoes wedi gwella ein dealltwriaeth o'r dilyniant adeiladu yn sylweddol a sut y daeth hyn i ddisodli'r hyn oedd yno ynghynt.

"Un o'r darganfyddiadau mwyaf diddorol yw gwaith tirlunio helaeth y cyfnod canoloesol, a drawsnewidiodd y dirwedd o amgylch yr anheddiad mynachaidd, a rhai o'r ymdrechion cadwraethol o'r 1750au hyd heddiw, fel rhan o safle hardd ac atyniad i dwristiaid.

"Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio rhan helaeth o’r eglwys ac yn cofnodi’r heneb gan ddefnyddio’r technegau cofnodi archaeolegol digidol arloesol diweddaraf. Rydym yn defnyddio dulliau ffotogrametreg a laser sydd ar flaen y gad, yn ogystal â meddalwedd ddigidol bwrpasol i gofnodi’r gwaith archwilio mewn 3D. Bydd hyn yn darparu cofnod manwl, cyfannol a pharhaus ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Ross Cook, perchennog ac Archaeolegydd Adeiladau a Dendrocronolegydd yn ArchaeoDomus:

Ni welwyd archwiliadau o natur a chwmpas yr archwiliadau yn Nhyndyrn o’r blaen, a byddant yn darparu’r cofnod mwyaf cynhwysfawr o Heneb Gofrestredig yng Nghymru. 

“Bydd y rhaglen o gofnodi adeiladau yn archwilio pob modfedd o’r heneb ac yn creu cronfa ddata ‘fyw’ o wybodaeth yn ymwneud â’i chyflwr cyn gwneud gwaith cadwraeth arni ac ar ôl hynny, a’i datblygiad hanesyddol. Bydd modd ychwanegu at hyn yn y dyfodol er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli’r safle hardd a phwysig hwn. Mae’n brosiect cyffrous iawn i fod yn rhan ohono, ac mae’n wych gweithio ochr yn ochr â Cadw a thîm gwych gan gynnwys arbenigwyr cydnabyddedig mewn hanes Sistersaidd a chadwraethwyr gwaith maen.

“Mae’r gwaith cloddio eisoes wedi bod o gymorth i wella ein dealltwriaeth o waith adeiladu a datblygiad yr Eglwys Abadol yn y byd canoloesol cyn ac ar ôl y Diwygiad. Hyd yn hyn, mae gennym ddarganfyddiadau sydd wedi helpu i wella ein dealltwriaeth o ddatblygiad yr Abaty rhwng yr eglwys gyntaf a'r ail eglwys. Yn benodol, mae nifer ac amrywiaeth y teils llawr canoloesol, gwydr lliw, a darnau bach o blastr wedi'u paentio, wedi dechrau creu darlun o sut roedd yr eglwys ddiweddarach yn edrych ar un adeg. Mae claddedigaethau Eglwysi Abadol cynnar a diweddarach wedi cael eu dadorchuddio, sydd wedi datgelu claddedigaethau syml yn y dull Sistersaidd hyd at gladdedigaethau statws uchel yr elît seciwlar. Yn bwysig, darganfuwyd nifer o gladdedigaethau ôl-Ddiddymiad hefyd, sy'n awgrymu bod claddedigaethau Catholig."