Rydym yn dymuno gwella diogelwch ac amseroedd teithio ar gyfer cyffordd 19 yr A55 (cyfnewidfa Glan Conwy).
Cynnwys
Crynodeb
Statws y prosiect: Yn cael ei adeiladu
Region/county: Conwy
Dyddiad dechrau: haf 2020
End date: hydref 2020
Beth ydym ni’n ei wneud
Gwella llifau traffig, diogelwch a pha mor ddibynadwy yw amseroedd teithio ar draws cylchfan cyffordd 19, A55 Glan Conwy yn ogystal â gwella’r cysylltiadau teithio llesol ar draws y gyffordd.
Pam ein bod yn gwneud hyn
Mae’r cynllun hwn (sy’n cael ei adnabod yn lleol fel ‘Black Cat’) yn rhan o’r rhaglen mannau cyfyng Cymru gyfan a fydd yn lleihau tagfeydd ar gyffyrdd ac yn gwella pa mor ddibynadwy yw amseroedd teithio a diogelwch y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd.
Caiff y cynllun hwn ei gyflawni gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru ac yn comisiynu ymgynghorwyr a chontractwyr lleol lle y bo’n bosibl. Byddwn ni’n gweithio gyda NMWTRA a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i sicrhau bod y gwaith yn amharu cyn lleied â phosibl yn ystod cam adeiladu’r cynllun.
Cynnydd presennol
Rydym wedi cwblhau’r achos busnes llawn, cam 3 yr Arweiniad Arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WelTAG) a bellach wedi dechrau adeiladu cam 4.
Amserlen
Cwblhau cam 2 WelTAG amlinellu’r achos busnes a nodi’r opsiwn a ffefrir: gaeaf 2019
Cam 3 WelTAG achos busnes llawn a dyluniad manwl ar gyfer yr opsiwn a ffefrir: gwanwyn 2019
Cam 4 WelTAG adeiladu: hat 2020
Cam 5 WelTAG gwireddu buddion ôl-adeiladu: gaeaf 2020
Y camau nesaf
Dechreuodd y prosiect hwn ym mis Mehefin a dylai fod yn gyflawn yn ddiweddarach eleni.
Sut ydym ni’n ymgynghori
Dechreuodd yr ymgynghoriad yn ystod hydref 2019.
Dysgu mwy
Gallwch gysylltu â ni er mwyn gofyn am ragor o fanylion neu nodi sylwadau ynghylch ein cynigion drwy anfon e-bost at: A55.YmgynghoriadCyffordd19@llyw.cymru
