Neidio i'r prif gynnwy

Atebion i gwestiynau cyffredin am y Bont Menai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth sy'n digwydd?

Dechreuodd y gwaith i osod rhodenni newydd y bont ar 4 Medi 2023. Mae gwaith hanfodol arall hefyd yn mynd rhagddo i sicrhau bod y bont yn cael ei defnyddio'n llawn eto.

Datblygwyd y rhaglen adeiladu gan UK Highways A55 Ltd. Maent yn gweithredu ac yn cynnal a chadw’r bont ar ran Llywodraeth Cymru drwy Gontract Dylunio, Adeiladu, Ariannu a Gweithredu (DBFO) Menter Cyllid Preifat (PFI). Mae'r cynlluniau wedi cael eu trafod gyda rhanddeiliaid.

Nid ydym yn bwriadu cau'r bont yn gyfan gwbl yn ystod y gwaith. Mae'r gwaith wedi'i gynllunio fel y bydd un lôn yn aros ar agor bob amser. Bydd goleuadau traffig ar y lôn i alluogi traffig i barhau i groesi'r bont i'r ddau gyfeiriad. Bydd y lôn ar gau a bydd goleuadau traffig ar waith o 7am ddydd Llun tan 3.30pm ddydd Gwener.  Bydd y goleuadau traffig yn cael eu gweithredu â llaw yn ystod yr oriau brig, er mwyn rheoli’r traffig mor effeithlon â phosibl tra bod y gwaith yn cael ei wneud. Bydd y goleuadau yn cael eu symud ymaith ac ni fydd y lôn ar gau ar benwythnosau.

Disgwylir i'r holl waith angenrheidiol gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Awst 2025 (yn dibynnu ar y tywydd). Bydd hyn yn sicrhau bod Pont Menai yn barod ar gyfer ei 200 mlwyddiant yn 2026.

Er mwyn cwblhau'r gwaith erbyn y dyddiad hwn, bydd angen i’r gwaith gael ei wneud yn ystod cyfnodau gwyliau, gan gynnwys y Pasg, hanner tymor yr ysgolion a gwyliau'r haf. Bydd hyn yn caniatáu i'r gwaith gael ei gwblhau cyn gynted â phosibl a lleihau effaith oedi ar y rhaglen oherwydd y tywydd drwy weithio ar adegau pan fo’r tywydd yn well yn draddodiadol. Ni fydd gwaith yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r Nadolig nac ar wyliau banc.

Bydd cyfyngiad pwysau o 7.5t yn parhau ar Bont Menai tra bod y gwaith yn mynd rhagddo. Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, bydd y cyfyngiad pwysau 7.5t yn cael ei ddileu.

Bydd y gwaith dros dro yn dal i gael ei archwilio bob chwe wythnos. Bydd y gyfres nesaf o waith yn digwydd rhwng 21 a 25 Awst. Bydd lôn ar gau fel y gall y gwaith gael ei wneud yn ddiogel. Bydd goleuadau traffig yn cael eu defnyddio rhwng 9am a 6pm bob dydd. Byddwch yn gallu croesi’r bont i’r ddau gyfeiriad tra bo’r gwaith yn cael ei wneud.

Bydd y broses o archwilio’r gwaith dros dro yn ffurfio rhan o’r gwaith uchod.

Pam caewyd Pont Menai ym mis Hydref 2022?

Yn dilyn y gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd a'r argymhellion a nodwyd yn Adroddiad Archwilio 2019 i adnewyddu’r system baent ar y bont grog, gwnaed dadansoddiad technegol manwl pellach. Nodwyd mater posibl gyda rhodenni fertigol y bont.

O ganlyniad i waith modelu pellach, nodwyd risgiau difrifol a gwnaeth peirianwyr strwythurol argymell cau'r bont ar unwaith i'r holl draffig. 

Beth ddigwyddodd rhwng cyflwyno’ry y cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell ym mis Mehefin 2022 a mis Hydref 2022, pan gafodd y bont ei chau?

Cafodd y cyfyngiad pwysau 7.5 tunnell ar Bont Menai ei roi ar waith ar 2 Mehefin 2022 fel rhagofal yn seiliedig ar y cyngor a gafwyd ar y pryd. Roedd y cyfyngiad yn golygu bod modd cynnal dadansoddi pellach ar rodenni’r bont a rhoddwyd rhaglen newid rhodenni ar waith. 

Cafodd peirianwyr strwythurol gyfarwyddyd i wneud gwaith asesu a modelu pellach i'r mater a nodwyd. Bu i’r gwaith hwn ganfod problem strwythurol i'r bont ac arweiniodd hyn at argymhelliad i gau'r bont.

Ydy cerbydau brys yn cael teithio dros Bont Menai?

Caniateir i gerbydau brys groesi'r bont cyn belled â'u bod yn pwyso llai na 7.5 tunnel.

Beth allaf i ei wneud i leihau fy amser teithio?

Mae Traffig Cymru yn monitro'r amseroedd teithio a hyd yma, ar gyfartaledd, mae gyrwyr yn gweld oedi o 1 i 2 funud dros gyfnod o ddiwrnod.

Gallwch chi weld yr amseroedd gorau ar gyfer teithio er mwyn eich helpu i gynllunio eich siwrnai yma: Traffig Cymru: A55 Pont Britannia Cynllunio Teithiau.  Hefyd mae diweddariadau rheolaidd ar gael ar ei dudalen Twitter: @TraffigCymruG.

Os ydych yn teithio ar eich pen eich hun, gallech roi cynnig ar ddefnyddio'r cyfleuster parcio a rhannu yn:

  • Llanfairpwll: yn y cod post LL61 5YR neu
  • Gaerwen yn y cod post LL60 6AR

 Mae digon o le ar gael i’w defnyddio pob dydd.

Cyngor Sir Ynys Môn: meysydd parcio

Beth sy’n cael ei ystyried i wella llif y traffig?

Rydym wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i drafod opsiynau.

Wrth wneud y gwaith dros dro, gwnaethon ni  ddarparu:

  • rhwystrau ffyrdd treigl pan oedd angen. Mae rhwystr ffordd treigl yn ffordd o reoli llif y traffig i’w gwneud yn haws i draffig ar y slipffordd ymuno â thraffig ar y briffordd
  • parcio am ddim ar y ddau safle parcio a rhannu rhwng mis Rhagfyr a 13 Chwefror 2023
  • parcio am ddim ym Mhorthaethwy ar ôl 10am rhwng mis Rhagfyr a 13 Chwefror 2023
  • gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn cynnwys gwasanaethau ychwanegol neu newid llwybrau bysiau

Rydym yn dal i ymchwilio i’r canlynol: 

  • trydedd lôn gyfnewid ar draws yr A55 Pont Britannia
  • mesurau teithio llesol yn ardaloedd Pont Menai a Bangor

Rydym wedi cytuno â phartneriaid na fyddwn yn defnyddio'r opsiynau a ganlyn, oherwydd eu heffeithiau andwyol posibl pan fydd Pont Menai ar gau:

  • cau ffyrdd ymadael â’r A55 ar Gyffyrdd 8, 8a a 9
  • gwahanu traffig lleol ar yr A55 er mwyn caniatáu mynediad i dref Porthaethwy heb giwio
  • mesurau cyffredinol ar gyfer rheoli traffig ar y slipffyrdd ar Bont Britannia a’u cyffuniau
  • gostyngiad tymor hir yn y terfyn cyflymder ar yr A55 o gwmpas Pont Britannia ar hyn o bryd
  • mesuryddion rampiau ar Gyffordd 9 gan fod y slipffyrdd yn fyr

Pa gymorth oedd ar gael i fusnesau pan oedd y bont ar gau?

Cysylltwyd â busnesau lleol i ddeall sut oedd cau’r bont yn effeithio arnyn nhw.

Cafodd busnesau eu hannog i ddefnyddio ein gwasanaeth Busnes Cymru i gael cymorth.

Mae llawer o fusnesau llai eisoes yn gymwys i gael cymorth trethi 100% ym Mhorthaethwy ac nid ydynt yn talu trethi annomestig, a nododd Cyngor Sir Ynys Môn 30 o fusnesau ychwanegol ym Mhorthaethwy a oedd yn gymwys hefyd o bosib i gael rhyddhad ardrethi o dan y cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch. Fe wnaeth y Cyngor wahodd y busnesau hynny i wneud cais.

Os ydych yn credu y gallai eich busnes fod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi, cysylltwch â Chyngor Sir Ynys Môn i drafod ymhellach. Mae rhagor o wybodaeth gyswllt, gan gynnwys ffurflenni cais, ar gael yn Cyngor Sir Ynys Môn: Ardrethi annomestig cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch.

Gall busnesau sy'n atebol am gyfraddau annomestig fod yn gymwys i wneud cais i'r Asiantaeth Swyddfa Brisio am ostyngiad dros dro mewn gwerth ardrethol. I gael gwybod mwy, ewch i GOV.UK: Find a business rates valuation.

Beth sy'n digwydd os bydd Pont Britannia ar gau?

Mae'n anghyffredin iawn i A55 Pont Britannia gau. Os bydd yn cau, dim ond am ychydig o oriau y bydd hynny.

Pan fydd gwyntoedd cryf, cynghori rhai mathau o gerbyd i beidio â chroesi yn ystod amodau penodol

Yn dilyn adolygiad strategol, mae’r terfynau cyflymder gwynt wedi cael eu newid ar gyfer rhai mathau o gerbydau. Felly, dylai'r bont aros ar agor i fwy o gerbydau, yn amlach ac y bydd unrhyw gyfnod o gau'r bont mor fyr â phosibl. Mae’r mesur hwn wedi helpu Cerbydau Nwyddau Trwm i fynd ar draws Pont Britannia ar yr A55 yn ystod tywydd drwg.

Bydd Pont Menai’n aros ar agor i gerbydau sy’n pwyso llai na 7.5 tunnell. Bydd hynny’n golygu y gall y rhan fwyaf o’r traffig ddilyn arwyddion llwybr y dargyfeiriad.

Lle y bo’n bosibl, bydd y mesurau rheoli traffig sydd wedi’u cyflwyno ar gyfer y gwaith gosod rhodenni newydd yn dod i ben ar Bont Menai yun ystod argyfyngau/ digwyddiadau ac os bydd gwynt uchel. Bydd hyn yn golygu bod llai o amharu ar lif y traffig (cerbydau o dan 7.5T) dros y Fenai.