Rydym wedi adeiladu rhan newydd o'r A487 i'r gogledd o Fachynlleth, gan gynnwys pont newydd ar draws Afon Dyfi.
Trosolwg
Pam rydyn ni'n ei wneud
Mae pont Pont-ar-Ddyfi dros 200 mlwydd oed, ac nid oedd wedi'i chynllunio i gario'r traffig presennol. Mae'r ffordd ar gau yn aml oherwydd llifogydd cyson, gan orfodi gyrwyr i fynd ar ffordd osgoi am hyd at 30 milltir.
Roedden ni eisiau:
- ei gwneud hi'n haws croesi Afon Dyfi
- ei gwneud yn haws i gael swyddi, gofal iechyd ac addysg
- sicrhau bod pobl yn dal i allu cyrraedd Machynlleth hyd yn oed pan fydd glaw trwm a llifogydd
- gwneud yr A487 yn fwy diogel
- helpu i atal llifogydd
- ei gwneud hi'n haws i bobl gerdded, beicio ac olwynio ar draws y bont
Beth wnaethom
Fe wnaethom adeiladu ffordd gerbydau sengl newydd 1.2km gan ymuno â'r A487 presennol i'r de-ddwyrain o bont Pont-ar-Ddyfi.
Mae'r ffordd newydd yn croesi Afon Dyfi tua 480m i fyny'r afon o'r bont bresennol.
Nid yw'r A487 presennol i'r de o bont Pont-ar-Ddyfi bellach yn ffordd Llywodraeth Cymru a bydd yn cael ei chynnal gan awdurdodau lleol.
Dechreuodd y gwaith adeiladu yng ngwanwyn 2021, ac roedd yn cynnwys:
- ffordd gerbydau sengl 1.2km gan ddechrau ar ymyl ogleddol Machynlleth, gan groesi gorlifdir Afon Dyfi, ac ail-ymuno â'r A487 i'r de
- cyswllt teithio llesol defnydd a rennir 2.5m o led dros Bont Newydd Dyfi
- bwndiau llifogydd i amddiffyn Parc Eco Dyfi a'r ffordd o dan y rheilffordd
- cyfleusterau pwmpio dŵr wyneb brys a fydd yn cyfyngu ar lifogydd o dan y rheilffordd a Bythynnod Dyfi
- gwaith tirlunio / plannu coed
- paratoadau i gyfeirio gwasanaeth cyfleustodau (e.e. nwy, dŵr, trydan, band eang / llinellau ffôn ac ati)
- pob elfen strwythur concrit a gwaith dur y bont
Fideo awyrol o'r gwaith ar bont Ddyfi newydd:
Y camau nesaf
Rhwng nawr a haf 2024, byddwn yn:
- cwblhau gwaith gwella draenio o flaen Bythynnod Dyfi. Bydd hyn yn golygu cau'r A493 i draffig pob cerbyd fel y gellir gwneud y gwaith yn ddiogel. Mae disgwyl cau ar 10 Chwefror am 30 diwrnod
- gweithio gyda phartneriaid i wella cyfleusterau teithio llesol ymhellach tuag at Fachynlleth / gorsaf drenau
- cwblhau cam nesaf y gwaith tirlunio / plannu coed gan gynnwys dychwelyd y tir o dan y draphont yn gaeau gwyrdd
- gwneud gwaith cynnal a chadw ar yr hen ffordd cyn iddo gael ei drosglwyddo i'r awdurdod lleol i gynnal a gofalu amdano (hyd at bedwar mis o waith yng ngwanwyn 2024)