Rydym am wella cefnffordd yr A487 wrth gylchfan Llanidloes.
Cynnwys
Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn
Mae’r dudalen hon yn adlewyrchu ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd. Cafodd rhaglen newydd ei chyhoeddi yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.
Byddwn yn cyhoeddi tudalennau newydd ar y wefan er mwyn adlewyrchu’r rhaglen newydd.
Crynodeb
Statws y prosiect: Wedi’i gynllunio/gwaith dylunio rhagarweiniol (WelTAG Cam 3)
Rhanbarth/sir: canolbarth Cymru
Dyddiad dechrau: haf 2022
Dyddiad dod i ben: gwanwyn 2023
Cost: £5.95 milwn
Cynghorwyr technegol a dylunwyr: WSP
Wedi'u cofrestru â'r Cynllun Adeiladwyr Ystyriol: nac ydw
Beth ydym ni’n ei wneud
Rydym am gyflwyno cylchfan tair braich newydd a Lôn Gyflymu Wahaniaethol (DAL) yn Llanrhystud. Bydd y DAL yn caniatáu goddiweddyd i'r cyfeiriad tua'r de ar hyd yr A487 tuag at Aberaeron.
Pam rydyn ni'n ei wneud
Rydym wedi nodi bod angen gwneud gwelliannau diogelwch ar gyffyrdd presennol ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd.
Cynnydd presennol
Rydym yn ymgynghori ar waith dylunio rhagarweiniol ac yn drafftio adroddiad Cam 3 WelTAG.
Yr amserlen
Dyfarnu ymgynghorydd: gaeaf 2016
WelTAG cam 1: 2017 i 2018
WelTAG cam 2: 2018 i 2019
WelTAG cam 3: 2020 i 2021
Gwaith dylunio rhagarweiniol a pharatoi Gorchmynion: 2021
Gwaith dylunio: 2022
Adeiladu: haf 2022 i gwanwyn 2023
Sut ydym ni’n ymgynghori
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion.
Y camau nesaf
Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Yn dilyn hyn, byddwn yn argymell y newidiadau a ffefrir i'r cynllun erbyn haf 2021.
Bydd y gwaith dylunio manwl yn dechrau yn ystod diwedd 2021.