Rydym wedi adeiladu ffordd osgoi o gylchfan y Goat ar gyffordd yr A499/A487 at gylchfan Plas Menai o amgylch Llanwnda, Dinas, Bontnewydd a Chaernarfon gan osgoi canol y dref.
Trosolwg
Pam aethom ni ati
Roeddem am:
- ei gwneud yn haws teithio heb dagfeydd traffig
- ei gwneud yn haws teithio rhwng Pen Llŷn, Porthmadog, Bangor a'r A55
- lleihau llygredd sŵn ac aer i bobl sy'n byw ar hyd yr A487
- ei gwneud yn fwy diogel i bobl deithio rhwng trefi
- ei gwneud yn haws i gerbydau nwyddau trwm deithio yn yr ardal
- ei gwneud yn fwy diogel i deithio rhwng Caernarfon, Bontnewydd drwy gerdded a beicio.
Roeddem am atal:
- ciwiau hirach wrth gylchfan y Goat ar yr A499/A487
- llawer iawn o gerbydau'n mynd drwy bentrefi ar hyd y ffordd
- ciwiau ac oedi ar yr A487, yn enwedig ar Gyffordd yr Eagles, cylchfannau Dewi Sant a Morrisons yng Nghaenarfon, ac ar Blas Bereton.
Beth wnaethom ni
Rydym wedi:
- adeiladu ffordd newydd 9.8km o hyd rhwng cylchfan y Goat (cyffordd A499/A487) a Chylchfan Plas Menai gan gysylltu’r ffordd osgoi â’r A499 ac â’r A487 ffordd osgoi’r Felinheli.
- adeiladu 17 o strwythurau newydd gan gynnwys:
- 2 draphont, dros Afon Seiont ac Afon Gwyrfai
- 3 pont i gario ffyrdd ymyl lleol dros y ffordd osgoi
- 12 tanbont (gan gynnwys croesfan dros Reilffordd Eryri)
- gosod 25 cwlfert newydd ar gyfer croesfannau dŵr ac anifeiliaid
- newid 14 o ffyrdd ymyl lleol a ffyrdd ymyl Plas Menai a’r Goat
- adeiladu croesfan ddiogel i feicwyr, cerddwyr a marchogion ar gylchfan y Goat er mwyn creu dilyniant gyda Lôn Eifion a'r A487 Bontnewydd.
- adeiladu llwybr cerdded a beicio sy'n cysylltu’r man lle mae'r ffordd osgoi yn croesi Ffordd Bethel, ynghyd â llwybr i/o Fethel.
Mae’r llwybr wedi:
- creu ffordd osgoi i'r gorllewin ar gyfer Llanwnda, Dinas a Bontnewydd
- croesi'r A487 bresennol i'r de o Gaernarfon
- croesi'r Afon Sieont
- mynd heibio i'r de o ystad ddiwydiannol Cibyn i ffurfio cyffordd gyda'r A4086
- croesi'r B4366.
Mae’r gwaith wedi golygu adeiladu 22 o strwythurau, gan gynnwys cwlfertau a phontydd. Dyma’r pontydd:
- pont i groesi dros Reilffordd Eryri
- traphont 300m dros Afon Seiont
- traphont 280m dros Afon Gwyrfai a'i gorlifdiroedd
- 4 pont a fydd yn mynd â’r ffyrdd presennol o dan neu dros y ffordd newydd.
Rydym wedi creu lle ar gyfer bywyd gwyllt a bioamrywiaeth ar y ffordd hefyd, gan gynnwys:
- creu cynefinoedd tyllu a chwilota ar gyfer llygod y dŵr
- gosod nifer o geuffosydd er mwyn i ystlumod, pysgod a dyfrgwn fedru croesi'r ffordd
- gosod blychau ar gyfer gwenoliaid a throchwyr ar y ddwy brif draphont
- creu lleiniau meddal o dan un o'r traphontydd er mwyn i fywyd gwyllt fedru mynd heibio
- gosod draeniau sy'n ystyriol o amffibiaid mewn gylïau ar y ffordd
- defnyddio hadau lleol i blannu blodau ar hyd y lleiniau ar ymyl y ffordd.
Mae’r prosiect wedi cynnal busnesau lleol a chyflogi pobl leol. Mae rhyw £70 miliwn wedi’i wario ar fusnesau Cymreig, £12 miliwn ohono ar fentrau bach a chanolig. Gwnaeth y gweithwyr adeiladu wario rhyw £2 miliwn mewn siopau, busnesau a gwasanaethau lleol.
Byddwn hefyd yn gwella ffordd bresennol yr A487 er mwyn gwella’r cyffyrdd presennol.
Rydym hefyd wedi cydweithio â Chyngor Gwynedd er mwyn troi ffordd bresennol yr A487 drwy Caernarfon a Bontnewydd yn ffordd sirol.
Gallwch weld y llyfryn a rhagor o fanylion am y prosiect o dan adran cyhoeddiadau’r dudalen hon.
Fideo awyrol o'r gwaith ar ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd.
Amserlen
Ymarfer ymgynghori â'r cyhoedd: 2010 i 2011
Cyhoeddi'r llwybr a ffefrir: gwanwyn 2013
Penodi contractwr: diwedd 2014
Archwilio'r safle ac arolygon: gydol 2015
Dylunio cychwynnol: diwedd 2015
Arddangosfa Gorchmynion: hydref 2016
Ymchwiliad lleol cyhoeddus: haf 2017
Dechrau adeiladu'r ffordd osgoi: dechrau 2019
Agor y ffordd osgoi: dechrau 2022
Sut yr aethom ati i ymgynghori
Cyflwynwyd pedwar opsiwn osgoi i'r cyhoedd fel rhan o arddangosfa ymgynghori ym Mawrth 2010. Mynychodd 972 o bobl yr arddangosfeydd hyn a derbyniwyd 498 o holiaduron wedi'u cwblhau. Dangosodd yr ymatebion o'r holiaduron hyn fod y cyhoedd o blaid y ffordd osgoi. Cynhaliwyd ymgynghoriadau pellach tua diwedd y flwyddyn cyn i ni gyhoeddi ein llwybr dewisol.
Cawsom gyfarfodydd gyda thirfeddianwyr, busnesau a thrigolion i ddeall effeithiau'r cynllun.