Rydym yn gwneud gwelliannau i goridor yr A483 yn Wrecsam.
Cynnwys
Mae’r prosiect yn cael ei adolygu
Mae'r prosiect hwn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fel rhan o'r adolygiad ffyrdd.
Crynodeb
Statws y prosiect: WelTAG Cam 2
Rhanbarth/sir: Gogledd-ddwyrain Cymru
Dylunwyr: Mott Macdonald a’u partneriaid: Richards, Morehead and Laing.
Pam rydym yn ei wneud
Mae tagfeydd rheolaidd ar gyffyrdd 3 i 6 yr A483. Rydym am wella sut y mae traffig yn symud o amgylch Wrecsam a’r ardaloedd yn y rhanbarth hwn.
Cynnydd presennol
Byddwn yn cyflwyno’r opsiynau a ffefrir mewn ymgynghoriad cyhoeddus i ofyn am farn rhanddeiliaid. Bydd yr wybodaeth hon a’n gwerthusiad yn helpu inni nodi yr opsiynau a ffefrir.
Amserlen
Digwyddiadau gwybodaeth i’r cyhoedd: haf 2020
Nodi y cynllun a ffefrir: haf 2020
Ymgynghoriad â’r cyhoedd: haf 2020
Ymchwiliad Cyhoeddus (os oes angen): haf 2021 hyd hydref 2022
Amcangyfrif o ddyddiad dechrau adeiladu (yn amodol ar gymeradwyaeth y Gweinidog): haf 2023
Sut yr ydym yn ymgynghori
Rydym wedi cynnal ymgynghoriad 12 wythnos yn haf 2020.
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni er mwyn gofyn am ragor o fanylion neu nodi sylwadau ynghylch ein cynigion drwy anfon e-bost at: enquiries@nmwtra.org.uk.