Neidio i'r prif gynnwy
llun arduniadol

Rydym yn trawsnewid yr A465 o Dowlais Top i Hirwaun mewn i ffordd ddeuol yn y ddau gyfeiriad.

Statws:
Yn cael ei adeiladu
Rhanbarth / Sir:
de-ddwyrain Cymru
Dyddiad dechrau:
yn gynnar yn 2021
Dyddiad gorffen:
2025
Cost:
£590 miliwn
Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Pam rydym yn ei wneud

Yr amcanion yw:

  • gwella llif y traffig a'i gwneud yn fwy diogel i oddiweddyd
  • gwneud y ffordd yn fwy diogel, yn enwedig o gwmpas cyffyrdd ac ardaloedd â gwelededd gwael
  • gwella mynediad at wasanaethau, swyddi a marchnadoedd allweddol sy'n cefnogi mewnfuddsoddiad i ardaloedd fel Ardal Fenter Glyn Ebwy.

Cynnydd presennol

Dechreuodd y prif waith ym mis Mai 2021.

Mae'r gwaith wedi cynnwys:

  • gwrthgloddiau mewn lleoliadau allweddol
  • symud cyfleustodau gan gynnwys: dŵr, nwy, trydan, telathrebu, draenio
  • gosod mesurau rheoli dŵr
  • adeiladu cwlfertau
  • gwaith amgylcheddol, gan gynnwys:
    • creu cynefinoedd newydd ar gyfer madfallod cribog mawr, pathewod, cornchwiglod ac ystlumod
    • plannu 1,200 o goed i greu coetir newydd ger Crematorium Road
    • plannu bit scabious y diafol i annog cadwraeth gloÿnnod byw britheg y gors
    • gosodwyd dros 78 o focsys ystlumod
  • gosod cylchfannau dros dro yn Nowlais i ddarparu lle ar gyfer adeiladu 2 drosbont
  • adeiladu dwy bont yn Nowlais ar gyfer y gyffordd newydd
  • gosod pont droed yn Dowlais Ponds
  • adeiladu pont gyntaf ar stryd Jones yn Pant
  • adeiladu ail bont newydd ar stryd Jones yn Pant
  • adeiladu wal cadw ffordd ymadael yng nghyffordd y Tywysog Charles
  • dymchwel pont ar ffordd Pant
  • dechrau gwaith i gryfhau ac ehangu traphont Taf Fechan
  • gosod pont droed dros dro yng Nghefn Coed
  • gosod seilbyst ar ochr ddeheuol a gogleddol yr A465 yng Nghefn Coed i lledu ar gyfer y ffordd osgoi newydd
  • cwblhau seilbyst ar bont Heol Fawr yng Nghefn Coed
  • gosod pileri i gefnogi'r bont newydd yn Taf Fawr
  • adeiladu deciau ffyrdd ar y bont newydd yn Taf Fawr
  • adeiladu pont dros yr A470
  • A470 i’r gogledd o’r gyffordd ar y gylchfan ar yr A465 wedi’i symud i drychiad newydd
  • gwella’r gyffordd â'r A470 a'r Stryd Fawr Uchaf
  • pont ar gyfer y ffordd ymuno a waliau cynnal i'r dwyrain o Nant Ffrwd
  • trawstiau wedi'u gosod ar gyfer prif bontydd ffordd ddeuol yr A465 Nant Ffrwd
  • adeiladwyd rhan i'r de o danffordd Court Farm
  • adeiladu pontydd yn Nant Melyn, Nant Moel a Chwm Nedd
  • pont wedi'i dymchwel yng Nghwm Nedd
  • adeiladu dau gylchfan newydd yng Nghroesbychan
  • adeiladu traphont newydd yn Nant Hir
  • gosod pont droed yn Hirwaun
  • cwblhau seilbyst yn Nhrewaun
  • adeiladu waliau cynnal yn Nhrewaun
  • adeiladu pont newydd a fydd yn rhoi mynediad i Ffordd Fferm Wynt yn Hirwaun
  • adeiladu pont dwyrain Trewaun
  • adeiladu pont gorllewin Trewaun a’i hagor i draffig
  • agor cylchfannau newydd ar Ffordd Merthyr a Ffordd Amlosgfa
  • agor dwy gylchfan newydd ar gyffordd y Rhigos

Gwaith sy’n parhau

  • adeiladu tanffordd Nant Moel
  • cyflwyno mesurau dros dro ar yr A465 rhwng Hirwaun (Trewaun) a thramffordd cyn gwaith cloddio ar gyfer y ffordd newydd
  • gosod draeniad newydd o dan Hirwaun Road
  • aildrefnu’r traffig yn Rhigos i ganiatáu adeiladu cyffordd newydd
  • adlinio traffig yr A465 mewn lleoliadau ar hyd y llwybr 11-milltir
  • cyffordd Rhigos
  • cyffordd Dowlais
  • cyffordd Hirwaun / Trewaun
  • gosod cyfleustodau ym Mhont y Stryd Fawr yng Nghefn Coed
  • cwblhau gwaith adeiladu dec ffordd ar bont Taf Fawr
  • ehangu a chryfhau traphont Taf Fechan yng Nghefn Coed

Rydym yn gweithio ar:

Amserlen

Arddangosfeydd cyhoeddus: diwedd 2015
Cyhoeddi Gorchmynion drafft a’r datganiad amgylcheddol: haf 2017
Cyhoeddi gorchmynion atodol drafft a datganiad amgylcheddol atodol: dechrau 2018
Ymchwiliad cyhoeddus lleol: gwanwyn 2018
Penderfyniad y Gweinidog: dechrau 2019
Llunio’r Gorchmynion: gwanwyn 2019
Cyhoedd i Gorchmynion Atodol drafft (Rhif 1): hydref 2019
Llunio Gorchmynion Atodol (Rhif 1): haf 2020
Cyhoeddi Gorchmynion Atodol drafft (Rhif 2): hydref 2020
Caffael contractwyr: hydref 2020
Dechrau’r gwaith adeiladu: yn gynnar yn 2021
Gorffen rhan newydd y gefnffordd: canol 2025

Y camau nesaf

Bydd y prif waith adeiladu yn dechrau yn ystod 2021. Bydd hyn yn cynnwys:

  • adeiladu pontydd yn Nwyrain Afon Hirwaun, Tramffordd (Pont Droed), Rheilffordd Cwm Nedd, Nant Hir, Nant Ffrwd, Taf Fawr a Dowlais
  • adeiladu danffordd newydd yn y Court Farm
  • symud coetir hynafol yng Nghroesbychan a dechrau adeiladu cyffordd newydd Croesbychan
  • adeiladu ffordd newydd o Abertawe a'r gyffordd newydd yn Baverstock
  • adeiladu ffordd dros dro ar yr A470 i ddarparu lle ar gyfer adeiladu'r ffordd newydd
  • cryfhau ac ehangu pont Taf Fechan
  • dechrau adeiladu cyffordd newydd y Tywysog Charles
  • adeiladu ffordd ochr newydd ar Ystâd Ddiwydiannol Pant
  • adeiladu'r ffordd newydd tua'r gorllewin rhwng ffordd Bryniau a Ffordd y Pant er mwyn galluogi adeiladu pont newydd a wal gynnal yn Ffordd y Pant

Beth rydym yn ei wneud

Enw'r prosiect ffordd hwn yw adran A465 Blaenau'r Cymoedd 5 a 6. Bydd y prosiect yn ymestyn rhwng Hirwaun a Dowlais Top am 11 milltir (17.7km).

Bydd yn gadael ffordd bresennol yr A465 rhwng cyffyrdd Hirwaun a Threwaun am tua milltir (1.4km) a rhwng Traphont Taf Fechan a llwybr i Fferm Gurnos am tua hanner milltir (0.8km).

Bydd y ffordd newydd yn ffordd ddeuol 70mya gyda 6 chyffordd.

Bydd slip ffyrdd ar ffordd yr A465, ac oddi arni, yn cysylltu'r ffyrdd sy'n ymuno.

Sut gwnaethom ymgynghori

Buom yn ymgynghori ar welliannau i'r A465 rhwng Y Fenni a Hirwaun ym 1994 fel rhan o'r broses i ddatblygu'r llwybr a ffefrir ar gyfer y prosiect cyfan.

Fe wnaethom gynnal arddangosfeydd gwybodaeth i'r cyhoedd ym mis Rhagfyr 2015. Yn y digwyddiadau hyn fe wnaethom gyflwyno’r dyluniad a wnaed yn yr 1990au ac amlygu mannau lle rydym yn ystyried opsiynau i wella'r dyluniad hwn.

Rydym wedi cynnal cyfres o gyflwyniadau i grwpiau diddordeb lleol a chyfarfodydd gyda thirfeddianwyr lleol, busnesau a rhanddeiliaid allweddol eraill. Rydym wedi defnyddio'r rhain i gasglu gwybodaeth a deall sut mae'r cynigion yn cyd-fynd â blaenoriaethau, amcanion a pholisïau lleol.

Fe wnaethom gynnal cyfres o arddangosfeydd ynghylch y gorchmynion drafft ym mis Awst 2017.

Cynhaliwyd Ymchwiliad lleol cyhoeddus ym mis Ebrill a Mai 2018.

Hysbysiadau diweddaraf

Cyhoeddiadau a hysbysiadau

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau

Gorchmynion

Y ddeddfwriaeth sy’n ofynnol i’r prosiect fynd yn ei flaen gan gynnwys drafftiau i’r cyhoedd wneud sylwadau arnynt

Help a chymorth

Gofyn cwestiwn ynghylch y prosiect neu adrodd am broblem

I roi gwybod am ddigwyddiadau neu broblemau 24 awr y dydd, cysylltwch ag ystafell reoli'r A465 ffôn: 0800 865 4650

Ar gyfer ymholiadau neu gwynion cymunedol, cysylltwch â'r swyddog cyswllt cyhoeddus. Croesawir galwadau yn Gymraeg.