Neidio i'r prif gynnwy

Mae un ar ddeg grŵp cymunedol ar draws y wlad wedi cael cyllid gan y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru i gefnogi ei sgwrs genedlaethol ar ddyfodol y genedl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Gronfa Ymgysylltu â’r Gymuned yn rhoi £5,000 i sefydliadau a grwpiau sy’n gweithio yng nghanol cymunedau Cymru i gynnal prosiectau ymgysylltu. Bydd y prosiectau sy’n cael eu rhedeg gan yr un ar ddeg grŵp llwyddiannus yn sicrhau bod barn cymunedau amrywiol Cymru yn cael ei chlywed a’i hadlewyrchu yn adroddiad interim y Comisiwn sydd i’w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Dyma’r grwpiau llwyddiannus a’r ardaloedd lle maen nhw’n gweithredu:

Bydd pob grŵp yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau ymgysylltu i weithio gyda’u cymunedau, gan gynnwys popeth o weithdai creadigol arloesol i grwpiau ffocws ac arolygon digidol, wedi’u darparu mewn sawl iaith a gyda fformatau hygyrch lle bo angen.

Cafodd y Comisiwn gyfanswm o 42 o geisiadau ar gyfer y Gronfa Ymgysylltu Cymunedol.

Y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yw’r cyntaf o’i fath yng Nghymru i gynnwys dinasyddion mewn sgwrs genedlaethol am y ffordd mae ein gwlad yn cael ei rhedeg. Mae’n ystyried y strwythurau cyfansoddiadol presennol ac yn datblygu ystod lawn o opsiynau i gryfhau dyfodol democrataidd Cymru.