Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Bil yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yn eu hardal. Mae hefyd yn sefydlu cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb

Mae Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr.

Awdurdodau lleol fydd yn penderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ymwelwyr. Rhaid iddynt ymgynghori â'u cymunedau cyn gwneud hynny.

Bydd yn cael ei chodi fesul person, fesul noson. Bydd yn berthnasol i arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yng Nghymru pan fo awdurdod lleol wedi penderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal. Byddai'r ardoll yn berthnasol i bob ymwelydd ni waeth o ble y maent wedi teithio.

Mae'r Bil hefyd yn sefydlu cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr sy'n gweithredu yng Nghymru. Bydd y gofrestr yn cynnwys y math o lety ymwelwyr a lleoliad y safle y maent yn ei weithredu yng Nghymru. Bydd yn ofynnol i bob darparwr llety ymwelwyr gofrestru. Mae hyn ni waeth a yw'r ardal awdurdod lleol y maent yn gweithredu ynddi wedi dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr.

Diben y Bil

Ein huchelgais yw tyfu twristiaeth drwy gefnogi cymunedau lleol mewn ffordd gynaliadwy.

Mae'r Bil yn rhoi'r gallu i awdurdodau lleol gynhyrchu arian newydd. Gellir buddsoddi'r arian hwn mewn gwasanaethau a seilwaith lleol i gefnogi twristiaeth yn eu hardal. Mae ardollau ymwelwyr yn seiliedig ar yr egwyddor o degwch. Eu nod yw rhannu costau twristiaeth yn fwy cyfartal rhwng trigolion ac ymwelwyr. 

Cyfradd yr ardoll

Pan fo ardoll ymwelwyr wedi’i chyflwyno, mae'n dâl fesul person, fesul noson ar lety ymwelwyr dros nos, sef:

  • £0.75 y pen y noson i'r rhai sy'n aros ar safleoedd gwersylla (lleiniau) ac mewn hostelau.
  • £1.25 y pen y noson i'r rhai sy'n aros ym mhob math arall o lety  ymwelwyr.

Bydd y gyfradd yn cael ei gosod yn genedlaethol i sicrhau cysondeb.

Y darparwyr fydd yn gyfrifol am dalu'r ardoll. Mae'n debygol y byddant yn trosglwyddo'r tâl hwn i ymwelwyr fel ‘treth anuniongyrchol’. Bydd yr ardoll yn cael ei chasglu a'i rheoli gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Ni fydd yr ardoll yn cael ei chodi ar arosiadau mewn llety ymwelwyr pan fo'r:

  • Arhosiad yn hirach na 31 o ddiwrnodau
  • Arhosiad wedi digwydd yn unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn
  • Arhosiad ar gyfer trefniant lletya brys neu dros dro gan yr awdurdod lleol

Os yw arhosiad oherwydd sefyllfa o argyfwng, efallai y bydd ymwelwyr yn gallu cael ad-daliad gan ACC. Er enghraifft, os nad oes modd i'r ymwelydd aros yn ei gartref oherwydd tân neu lifogydd.

Bydd pobl anabl sydd wedi talu costau ardoll ychwanegol pan oedden nhw wedi mynd â gofalwr gyda nhw hefyd yn gallu hawlio ad-daliad.

Enillion

Pe bai pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyflwyno ardoll, gallai gynhyrchu hyd at £33 miliwn y flwyddyn ledled Cymru.

Gall arian a godir o'r ardoll helpu cymunedau i ymateb i'r costau sy'n gysylltiedig â thwristiaeth. Gall hefyd gefnogi'r Gymraeg a helpu twristiaeth i dyfu. Bydd yn helpu i wella pethau fel toiledau, llwybrau troed, traethau, a chefnogi canolfannau ymwelwyr. Bydd hyn o fudd i ymwelwyr a thrigolion lleol.

Asesiadau effaith

Caiff asesiadau effaith eu llunio a'u cyhoeddi pan gyflwynir deddfwriaeth i'r Senedd am y tro cyntaf. Maent yn ystyried goblygiadau posibl y polisi.

Y camau nesaf

Gallwch ddilyn hynt y Bil drwy'r Senedd.

Mae'n debygol y bydd pleidlais derfynol ar Fil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) yn cael ei chynnal yn ystod haf 2025.

Os yw'r Bil yn cael ei basio gan y Senedd, mater i awdurdodau lleol fydd ymgynghori â'u poblogaethau lleol cyn penderfynu a ddylid cyflwyno ardoll ymwelwyr. Y cynharaf y gellid cyflwyno ardoll ymwelwyr yw 2027.

Rydym yn bwriadu cofrestru pob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru, gan ddechrau yn 2026. Bydd cymorth ar gael i ddarparwyr llety drwy gydol y broses gofrestru.

Mae'r gofrestr yn gam cyntaf tuag at gynllun trwyddedu statudol ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru.

Bydd deddfwriaeth bellach yn cael ei chyflwyno maes o law.