Y Gyfarwyddiaeth Caffael a Masnachol: adnoddau defnyddiol
Mae’r Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol yn gwasanaethu Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru ac mae’n atebol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg. Mae'r Gyfarwyddiaeth yn goruchwylio datblygiad polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael yng Nghymru, gan roi cyngor a chymorth i Weinidogion. Mae'n rhoi arweinyddiaeth i'r proffesiwn caffael yng Nghymru, yn ogystal â goruchwylio polisi ac arferion caffael Llywodraeth Cymru ei hun a chyfres o fframweithiau cydweithredol ar gyfer Sector Cyhoeddus Cymru.
Caffael Cyhoeddus Callach yng Nghymru
- Mae’r ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu caffael cyhoeddus yng Nghymru yn newid.
- I gael gwybod mwy am y ddeddfwriaeth gaffael newydd, ewch i www.llyw.cymru/CaffaelCallach
Polisi caffael a masnachol
Mae Polisi Caffael a Masnachol Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith o ddatblygu cyngor polisi caffael, yn gosod safonau ac yn gwirio canlyniadau yn erbyn nodau cyflawni. Mae'r tîm yn gweithio i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwerth cymdeithasol ac ysgogi arfer gorau ar draws sector cyhoeddus Cymru.
Cyswllt: PolisiMasnachol@llyw.cymru
Cyflawni masnachol
Mae Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru yn arwain ar ddatblygu caffael cyhoeddus cydweithredol i Gymru. Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Leol Cymru, a rhanddeiliaid eraill yn y sector cyhoeddus, rydym wedi datblygu Piblinell Caffael Cydweithredol Cymru. Mae hyn yn cynnwys tua 45 o gytundebau a reolir gan y sector cyhoeddus yng Nghymru i'w defnyddio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Rydym yn darparu gwerth drwy gaffael ar draws y meysydd categori hyn.
- Gwasanaethau proffesiynol
- Fflyd
- Pobl a gwasanaethau corfforaethol
- Data digidol a TGCh
- Adeiladau a chyfleustodau
Fframweithiau dan arweiniad Llywodraeth Cymru sydd ar gael i'w defnyddio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Bwyd
- Adeiladu
Gallu masnachol ac arweinyddiaeth
Mae rhaglen Gallu Masnachol ac Arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd datblygu masnachol i gefnogi cynaliadwyedd a thwf hirdymor proffesiwn caffael Cymru, tra hefyd yn helpu i gefnogi creu galluoedd.
Prosbectws Dysgu a Datblygu 2024
Mae ein prosbectws yn dod â chyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer y proffesiwn at ei gilydd mewn un lle.
Cyd Cymru
Cyd Cymru yw’r gofod cydweithredol ar gyfer cymunedau caffael a masnachol ac mae’n ganolfan ragoriaeth lle gall y proffesiwn ddysgu a chefnogi ei gilydd yng Nghymru ac fe’i defnyddir fel sianel gyfathrebu i brynwyr yn y sector cyhoeddus.
Cyswllt: GalluMasnachol@llyw.cymru
Yr economi sylfaenol
Mae'r Economi Sylfaenol yn darparu'r nwyddau a'r gwasanaethau sylfaenol y mae pob dinesydd yn dibynnu arnynt, ac sy'n ein cadw'n ddiogel ac yn waraidd.
Mae'n flaenoriaeth yn y Rhaglen Lywodraethu ac yn rhan allweddol o genhadaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau ac ailadeiladu’r economi.
GwerthwchiGymru
Mae GwerthwchiGymru yn wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim ar gyfer y gymuned gyflenwyr sy’n eu helpu i ddod o hyd i wybodaeth am gontractau a chyfleoedd gyda gwasanaeth cyhoeddus Cymru.