Neidio i'r prif gynnwy

91% o leoedd hyfforddi Meddygon Teulu yng Nghymru wedi eu llenwi hyd yn hyn yn sgil cynnal ymgyrch hynod lwyddiannus i hyrwyddo Cymru ymhlith meddygon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiodd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru ymgyrch Gwlad, Gwlad: Hyfforddi, Gweithio, Byw ym mis Hydref 2016 i hyrwyddo Cymru fel lle gwych i ddoctoriaid, gan gynnwys meddygon teulu, ddod gyda'u teuluoedd i hyfforddi, gweithio a byw.

Ym mis Ebrill, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd bod 84% o leoedd hyfforddi Meddygon Teulu wedi eu llenwi ar ddiwedd y cylch cyntaf, o gymharu â 68% ar gyfer yr un cyfnod yn 2016. 

O ganlyniad i'r ail hysbyseb ar gyfer y cylch cyntaf, cynyddodd canran y lleoedd a oedd wedi eu llenwi i 91% ar gyfer 2017 (sef 124 o swyddi allan o 136). Mae hyn yn cymharu â 75% yn 2016. 

Mae'r cynllun cymhelliad ariannol newydd mewn rhai ardaloedd penodol yng Nghymru wedi arwain at lenwi 100% o leoedd yn y cynlluniau hyfforddi meddygon teulu canlynol: 

  • Ceredigion
  • Y Gogledd-orllewin
  • Sir Benfro
  • Y Gogledd-ddwyrain 
Bydd yr hyfforddeion yn dechrau ar eu hyfforddiant ym mis Awst 2017.

Bydd yr ail gylch, sydd â'r nod o recriwtio hyfforddeion Meddygon Teulu erbyn mis Chwefror 2018, yn agor ym mis Awst 2017. 

Dywedodd Vaughan Gething:

"Mae gwella mynediad at wasanaethau Meddyg Teulu a gwasanaethau iechyd eraill yn un o'm prif flaenoriaethau. Mae'n hanfodol sicrhau bod gennym y staff iawn yn y lleoedd iawn.

"Felly, dw i'n wirioneddol falch bod ein hymgyrch Gwlad,Gwlad: Hyfforddi, Gweithio, Byw wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y Meddygon Teulu dan hyfforddiant sy'n dod i Gymru – gyda 91% o leoedd wedi eu llenwi eisoes ar ôl y cylch cyntaf. Dw i'n arbennig o falch bod ein cymelliadau wedi golygu bod yr holl leoedd hyfforddi wedi eu llenwi mewn rhai ardaloedd y bu'n anodd recriwtio iddynt yn y gorffennol."

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd:
"Rydyn ni'n parhau i ddiwygio ein gwasanaethau gofal sylfaenol – gyda Meddygon Teulu yn gweithio gyda fferyllwyr, nyrsys, therapyddion a gweithwyr proffesiynol eraill fel rhan o dîm ehangach i sicrhau bod pobl yn cael y gofal iawn ar yr amser iawn oddi wrth y person iawn, a hynny mor lleol â phosibl. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda'n staff i ddatblygu'r tîm gofal iechyd lleol ar gyfer y dyfodol. “Bydd mynediad pobl at y gwasanaethau hyn yn parhau i wella wrth inni recriwtio rhagor o Feddygon Teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i lenwi swyddi ledled Cymru.”
Fis diwethaf, lansiodd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru ail gylch yr ymgyrch Gwlad, Gwlad: Hyfforddi, Gweithio, Byw, sydd wedi ei anelu at nyrsys mewn gofal sylfaenol, gofal eilaidd, a'r sector gofal cartref. Bydd yr ymgyrch yn targedu fferyllwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig yn y dyfodol.