Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru'n darparu £29 miliwn ychwanegol i ysgolion er mwyn rhoi mwy o gymorth i ddysgwyr yn ystod cyfnodau hanfodol yn eu haddysg o fis Medi ymlaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol yn cael eu recriwtio drwy gydol y flwyddyn ysgol nesaf, gan ddarparu cymorth ychwanegol i Flynyddoedd 11, 12 a 13 a hefyd i ddysgwyr difreintiedig a dysgwyr agored i niwed o bob oed.

Bydd hyn yn helpu dysgwyr sy'n eistedd eu harholiadau Safon Uwch a TGAU yn 2021 a'r rheini yr effeithiwyd arnynt fwyaf ers i'r ysgolion gau ym mis Mawrth.

Caiff adnoddau dysgu proffesiynol eu darparu i gynorthwyo’r athrawon newydd a'r athrawon presennol, er mwyn paratoi ar gyfer mis Medi. Bydd staff yn cael eu recriwtio ar gontract tymor penodol o flwyddyn a disgwylir iddynt symud i rolau addysgol yn y flwyddyn ysgol ddilynol. 

Gallai'r pecyn cymorth, a ddarperir ar lefel ysgol, gynnwys cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu wedi'u personoli yn ogystal ag amserau ac adnoddau ychwanegol ar gyfer disgyblion sydd ym mlwyddyn yr arholiadau. Bydd ystod o ddulliau addysgu'n berthnasol, gan gynnwys dysgu cyfunol.

Gan fod y rhan fwyaf o ysgolion wedi cau i ddisgyblion ym mis Mawrth, mae Llywodraeth Cymru wedi targedu cymorth i sicrhau bod dysgu'n parhau, gan gynnwys darparu 10,000 o ddyfeisiau dysgu digidol, sicrhau bod plant cymwys yn dal i gael prydau ysgol am ddim a chynyddu'r cymorth ar gyfer iechyd a lles meddyliol ac emosiynol.

Bydd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, yn cynnal cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru i'r wasg am 12.30 heddiw, lle bydd yn cyhoeddi'r cynlluniau ar gyfer yr ysgolion ym mis Medi. 

Dywedodd Kirsty Williams:

Mae ein teulu addysg yng Nghymru wedi mynd i'r afael â her y pandemig hwn gyda'i gilydd, gan sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael cymorth gyda'u llesiant a chymorth i ddysgu.

Rwyf bellach eisiau sicrhau bod gan ysgolion a disgyblion y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt drwy recriwtio staff ychwanegol i'w cefnogi yn y cyfnod adfer a pharhau i godi safonau fel rhan genhadaeth ein cenedl i ddiwygio addysg.

Ni ddylem byth ddisgwyl llai gan unrhyw berson ifanc, ni waeth beth fo'i gefndir. Dyna pam fod miloedd a miloedd yn fwy o ddisgyblion yng Nghymru bellach yn astudio ar gyfer cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth, a pham ein bod yn perfformio'n well na'r gwledydd eraill o ran canlyniadau Safon Uwch a bod miloedd yn fwy yn astudio ac yn llwyddo ar lefelau uwch.

Rwy'n gwybod bod athrawon a rhieni ar draws y wlad yr un mor benderfynol â mi i beidio â cholli'r momentwm hwnnw. Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn a'r cymorth wedi'i dargedu'n sicrhau bod yr amser i ffwrdd o'r ysgol dros y misoedd diwethaf yn cael cyn lleied o effaith â phosibl.

Nid yw hyn yn ateb tymor byr. Bydd yr arian hwn, y staff ychwanegol a'r cymorth ar gael ar gyfer y flwyddyn nesaf i gyd.

Ochr yn ochr â'r cwricwlwm newydd, rydym yn symud gyda phwrpas i gyfnod newydd ar gyfer addysg. Cyfnod lle mae pob dysgwr yn elwa ar addysg eang a chytbwys.

Gyda'n gilydd, byddwn yn parhau i godi safonau i bawb, yn lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac yn sicrhau bod gennym system y gall y genedl i gyd fod yn falch ohoni a bod a hyder ynddi.