Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth heddiw y bydd gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol yng Nghymru yn cael dyraniad ychwanegol o £8.9 miliwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y dyraniad ychwanegol o'r Gronfa Adferiad Diwylliannol yn golygu y bydd pob un o'r gweithwyr llawrydd a gefnogir eisoes yn derbyn £2,500 ychwanegol i'w cefnogi drwy'r cyfnod estynedig hwn o lai o weithgarwch. 

Mae'r Gronfa Adferiad Diwylliannol gwerth £63m wedi darparu cymorth hanfodol i gynnal y celfyddydau a'r sector creadigol, gyda'r gobaith y bydd sefydliadau ac unigolion yn gallu ffynnu eto yn y dyfodol agos.   

Mae'r Gronfa Gweithwyr Llawrydd eisoes wedi cefnogi bron i 3,500 o weithwyr llawrydd yn nhri cam cyntaf y cymorth.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

"Mae'r sector llawrydd yn ganolog o fewn economi Cymru a dwi'n falch iawn ein bod yn gallu cynnig cymorth ychwanegol, sy'n cydnabod y cyfraniad pwysig y mae gweithwyr llawrydd yn ei wneud i fywyd diwylliannol Cymru.

"Mae'r pandemig yn parhau i gyflwyno heriau i weithwyr llawrydd diwylliannol a chreadigol ledled Cymru. Cymeradwywn eu gwytnwch a'u creadigrwydd yn ystod y cyfnod hwn.

"Rydym yn cydnabod y bydd angen proffesiynoldeb, profiad, brwdfrydedd a gweledigaeth y gweithwyr proffesiynol hyn arnom i'n helpu i ddod at ein gilydd ac ailadeiladu ar ôl i'r argyfwng iechyd leihau."

Mae llawer o weithwyr llawrydd sy’n elwa o'r cyllid wedi gallu parhau â'u gwaith creadigol.

Rhyddhaodd Lewis Carter, gwneuthurwr ffilmiau annibynnol arobryn o dde Cymru raglen ddogfen Gymraeg, Best Foot Forward, ar Nos Galan i ddathlu a chadw traddodiad Rasys Nos Galan yn fyw er gwaethaf cyfyngiadau COVID.

Mae hefyd wedi defnyddio'r cyllid ar gyfer rhyddhau'r ffilm fer arobryn, Showdown, sy'n cynnwys actorion awtistig - ac sy'n cael ei rhyddhau yr wythnos hon.

Meddai Lewis;

"Oherwydd y grant llawrydd diwylliannol, roeddwn yn gallu talu gweithwyr creadigol llawrydd eraill a weithiodd ar fy rhaglen ddogfen, Best Foot Forward, a hefyd roi hwb i ryddhau fy ffilm fer Showdown ar-lein. Mae Showdown yn dychwelyd adref ar ôl ei ddangos mewn gwyliau rhyngwladol a derbyn gwobrau gan ddwy o wyliau ffilm mwyaf mawreddog Cymru, 'Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caerdydd', a 'Gŵyl Ffilm Ryngwladol Bae Caerfyrddin’ sy’n golygu ei fod yn gymwys ar gyfer BAFTA.

Mae Angharad Jenkins o Abertawe yn gerddor llawrydd ac yn aelod o grŵp gwerin Calan. Collodd ei holl waith byw dros nos, ac mae wedi defnyddio'r cyllid i addasu ei gwaith ac i ddatblygu sgiliau newydd y bydd yn parhau i'w defnyddio yn y dyfodol.

"Rwyf wedi datblygu a symud fy ngwaith addysgu preifat ar-lein, ac wedi bod yn cyflwyno sesiynau cerddoriaeth cyfranogol 1:1 i blant ag anghenion dysgu arbennig drwy Live Music Now.

"Yr hyn fu’n rhaid imi ei ddysgu fwyaf oedd dysgu recordio o bell. Dwi wedi gallu gweithio gyda cherddorion yng ngogledd Cymru, yr Alban, Rhydychen ac mor bell i ffwrdd â Melbourne, Awstralia. Dwi wedi gallu cynnig fy sgiliau fel cerddor sesiwn, yn ogystal â chymryd comisiwn ar gyfer cyfansoddiad preifat, heb orfod gadael y tŷ.

"Dwi hefyd wedi dechrau canu ac ysgrifennu caneuon yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r ffaith bod bywyd wedi arafu wedi fy ngalluogi i feddwl yn fwy creadigol am fy ngwaith. Dwi yn wirioneddol ddiolchgar am yr achubiaeth hwn, ar adeg mor bryderus. Ond does dim byd yn curo y profiad o gerddoriaeth fyw, ac ni alla i aros i berfformio'n fyw o flaen cynulleidfa eto."

Bydd gweithwyr llawrydd sydd wedi derbyn cymorth yn derbyn llythyr hunan-ddatganiad y bydd angen iddynt ymateb iddo fel bod modd rhyddhau’r cyllid. Nid yw'r gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau newydd gan weithwyr llawrydd, dylai unrhyw un a fethodd gael y cyllid yn wreiddiol geisio gwneud cais i gael Grant Dewisol Lleol, mae rhagor o fanylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.

I gefnogi'r sector llawrydd ymhellach, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda nifer o randdeiliaid allweddol ar Adduned Llawrydd, sef y cyntaf o’i bath yn y DU. Wrth ddatblygu cynlluniau a dyheadau adfer, mae'r Adduned Llawrydd yn ailddatgan ymrwymiad Cymru i gynnwys ein cymuned llawrydd wrth adeiladu'n ôl yn fwy teg.

Y mae yn gyfle i weithwyr llawrydd creadigol a gwasanaethau cyhoeddus greu partneriaeth i gyflawni hyn ac i weithwyr llawrydd ddefnyddio eu sgiliau i ddod â chreadigrwydd a dychymyg i bob maes o fywyd cyhoeddus.