Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn awyddus i glywed beth oedd gan deithwyr i'w ddweud am y gwelliannau sydd wedi'u gwneud ar un o'r llwybrau rheilffordd allweddol sy'n cysylltu Cymru a Lloegr, wrth iddo ymweld â'r orsaf yn gynharach yr wythnos hon.
Mae 100% o'r teithiau ar y llinell allweddol o Wrecsam i Bidston bellach ar drenau newydd gyda gostyngiad o 1.8% yn nifer y trenau sy'n cael eu canslo. Mae gwasanaethau trȇn hefyd wedi gwella ledled Gogledd Cymru gyda thros 87% o'r teithiau bellach ar fflyd newydd.
Ers i'r amserlen newid fis Rhagfyr diwethaf, mae rhai gwelliannau sylweddol wedi'u gwneud i linell Wrecsam i Bidston yn sgil cyflwyno gwasanaethau mwy rheolaidd a dibynadwy a threnau newydd a gwell i helpu i wella profiadau cwsmeriaid.
Mae 8 trên ychwanegol y dydd wedi'u hychwanegu at y llwybr sy'n helpu i gynyddu gwydnwch a lleihau nifer y gwasanaethau sydd wedi'u canslo a'u gohirio. Defnyddiodd 21,000 yn fwy o bobl y llinell ym mis Mawrth o'i gymharu â mis Mawrth 2023. Y mis diwethaf hefyd gwelwyd y nifer uchaf o ddefnyddwyr ar y llinell mewn un mis (31,482) ers cyn COVID.
Mae'r holl welliannau hyn yn cynnig opsiwn teithio trawsffiniol mwy dibynadwy a chynaliadwy i gwsmeriaid.
Dywedodd Ken Skates:
Mae'n wych gweld ein buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd sbon yn dwyn ffrwyth a chlywed gan deithwyr sut mae'r newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud i'r llinell bwysig hon yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w teithiau.
Ar ôl gwrando ar adborth gan gwsmeriaid, fe wnaethom weithio'n agos gyda grwpiau defnyddwyr trenau, a Trafnidiaeth Cymru i ddeall beth roedd teithwyr ei eisiau fel y gallwn gyflawni newid y mae gwir ei angen.
Mae llinell Wrecsam Bidston yn gyswllt trawsffiniol allweddol, ac mae'n dda gweld y newidiadau cadarnhaol hyn.