Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn wyth wythnos o heriau yn ardal Eryri, mae 10 o gystadleuwyr o raglen S4C, Ar y Dibyn wedi eu dod i lawr i un.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Derbyniodd  Ifan Richards wobr gwerth  £10,000 mewn cymwysterau arwain awyr agored, offer awyr agored a dewis o deithiau antur.  
Caiff y rhaglen ei chyflwyno gan Lysgennad Antur y Flwyddyn, Lowri Morgan a’r Arweinydd Awyr Agored,  Dilwyn Sanderson-Jones. Dros yr wyth wythnos ddiwethaf maent wedi bod yn cystadlu ar elfennau megis dringo, abseilio, rhwyfo, i enwi dim ond rhai.  
Wrth i’r ail gyfres ddigwydd yn ystod Blwyddyn Antur Cymru, gweithiodd Cwmni Da gyda Croeso Cymru ar her i’r cystadleuwyr oedd yn canolbwyntio ar farchnata. Yn y rhaglen olaf ond un, cafodd y tri olaf y dasg o greu ffilm antur oedd yn disgrifio yr hyn oedd antur yng Nghymru yn ei olygu iddynt hwy ac a fyddai’n ysbrydoli eraill i gael anturiaethau yng Nghymru.
Bu Mari Stevens, Cyfarwyddwr Marchnata yn Croeso Cymru yn beirniadu’r dair ffilm ac er y bydd y dair ffilm i gael eu denfyddio fel rhan o ymgyrch Gwlad Gwlad Croeso Cymru, ffilm Ifan a enillodd.  Bydd y ffilm yn apelio at y rhai hynny sy’n chwilio am anturiaethau eithafol yng Nghymru a byddai’n gweithio’n dda gyda marchnad sydd wedi ei thargedu.  
Yn ystod y rownd derfynol, roedd y cystadleuwyr olaf, Ifan a Seimon yn cystadlu yn erbyn ei gilydd gyda heriau fel tynnu eu hunain ar draws raff uwchben pistyll, prawf ffitrwydd ar yr arfordir a thasg hwylio heriol.   
Bu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates yn llongyfarch yr enillydd, gan ddweud: 
“Mae Ar y Dibyn wedi arddangos yr hyn sydd gan Gymru i’w gynnig fel cyrchfan antur, a hoffwn longyfarch Ifan ar ei waith caled a’i benderfyniad i gael ei enwi fel enillydd yr ail gyfres.  Mae’r Flwyddyn Antur yng Nghymru wedi golygu dangos yr hyn sydd gan Gymru i’w chynnig fel cyrchfan awyr agored o safon fyd-eang, a bydd gwaith Ifan yn helpu inni hyrwyddo’r hyn sydd ar gael yng Nghymru.  Daw’r rownd derfynol hefyd yn ystod wythnos y mae y Lonely Planet wedi enwi gogledd Cymru fel un o’r deg lle gorau yn y byd i ymweld â hwy yn ystod 2017, a’r hyn sydd gan ogledd Cymru i’w gynnig o ran anturiaethau yw yr hyn dynnodd sylw y Lonely Planet – sydd wedi dod yn amlwg yn ystod y gyfres.”  
Meddai Ifan:
“Bydd ennill hyn yn cael effaith bositif iawn arnaf; mae pethau yr wyf am eu gwneud a gallaf weld y bydd ennill hyn yn agor drysau newydd imi.”