Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £780,000 i Gyngor Abertawe mewn cyllid grant Trawsnewid Trefi i drawsnewid adeilad sydd wedi bod yn wag am gryn dipyn o amser yn ganolfan gelfyddydau a diwylliant bywiog.
Mae hen siop adrannol JT Morgan wedi bod yn wag ers dros 15 mlynedd a bydd yr adnewyddiad hwn yn ei thrawsnewid yn ganolfan gelfyddydau amlbwrpas.
Mae Elysium Art Limited, sefydliad dan arweiniad artistiaid, yn cyflwyno'r prosiect i gefnogi a hyrwyddo'r celfyddydau yn Abertawe a thu hwnt.
Bydd y prosiect yn creu cyrchfan ddiwylliannol newydd yng nghanol dinas Abertawe, gan helpu i adfywio'r ardal a denu mwy o ymwelwyr.
Ar ôl cael ei adnewyddu, bydd y llawr cyntaf a'r ail lawr yn cael eu defnyddio fel gofod stiwdio a fydd yn cael ei osod i artistiaid, gyda'r llawr gwaelod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer oriel, mannau cyfarfod a chaffi. Bydd adnewyddu'r llawr isaf yn darparu gofod stiwdio ychwanegol, man storio ac o bosibl sinema fach.
Yn ddiweddar, ymwelodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, â'r adeilad:
Mae'r buddsoddiad hwn yn cyd-fynd yn berffaith â'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu i wneud ein trefi a'n dinasoedd yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt, wrth fynd i'r afael â'r mater o adeiladau gwag.
Trwy roi bywyd newydd i'r gofod hwn nad yw'n cael ei ddefnyddio, rydym nid yn unig yn gwella arlwy diwylliannol Abertawe ond hefyd yn creu cyfleoedd i artistiaid lleol ac yn annog mwy o ymwelwyr a fydd o fudd i fusnesau eraill yng nghanol y ddinas.
Mae ein cyllid Trawsnewid Trefi yn ymwneud â chefnogi cymunedau i ail-ddychmygu eu mannau trefol, ac mae'r prosiect hwn yn enghraifft ardderchog o sut y gall buddsoddiad strategol ddarparu buddion lluosog.
Mae gwaith eisoes yn cael ei wneud ac mae disgwyl i'r llawr cyntaf a'r ail lawr gael eu cwblhau erbyn yr haf.
Dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart:
Mae'n wych ein bod ni'n gallu gweithio gyda datblygwyr, busnesau a sefydliadau eraill i fuddsoddi cyllid grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ledled ein dinas.
Mae'r rhaglen adfywio gwerth £1biliwn sy'n cael ei gyrru gan y cyngor ar waith ar hyn o bryd - ac mae prosiectau fel Elysium Art yn yr hen JT Morgan a’r Storfa yn yr hen BHS yn enghreifftiau gwych o hynny.
Mae datblygiadau nodedig eraill sy'n dod yn fuan yn cynnwys trawsnewid Sgwâr y Castell yn ganolbwynt cyhoeddus gwyrddach mwy croesawgar ac agor yr adeilad arloesol Biophilic Living rhwng Ffordd y Brenin a Stryd Rhydychen.
Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd â'r Storfa, hen siop adrannol BHS ar Stryd Rhydychen, sydd ar fin dod yn ganolfan gwasanaethau cyhoeddus, a fydd yn darparu mynediad at wasanaethau hanfodol y cyngor a chynnal ystod o wasanaethau eraill gan gynnwys Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg a phartneriaid allanol gan gynnwys Cyngor ar Bopeth.
Mae'r prosiect wedi cael mwy na £13 miliwn mewn arian benthyciad a grant gan Lywodraeth Cymru.