Neidio i'r prif gynnwy

Mae 75% o'r holl alcohol sy'n cael ei yfed yng Nghymru yn cael ei yfed gan y 22% o oedolion sy'n yfwyr peryglus neu niweidiol, yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O'r rhain, mae'r 3% o'r boblogaeth sy'n yfwyr niweidiol yn gyfrifol am 27% o'r holl alcohol sy'n cael ei yfed.

Ym mis Hydref 2017, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fil newydd a fydd, os caiff ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn cyflwyno isafbris ar gyfer gwerthu alcohol. Lluniwyd y Bil i leihau nifer yr achosion o yfed peryglus a niweidiol yng Nghymru. 

Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield ym Mhrifysgol Sheffield yn dod i'r casgliad mai'r yfwyr niweidiol mwyaf difreintiedig fyddai'n cael eu heffeithio fwyaf gan isafbris uned - sef y grwpiau sydd yn y perygl mwyaf o ddioddef niwed yn sgil eu harferion yfed.

Dengys yr adroddiad fod poblogaeth Cymru yn prynu 50% o'i alcohol am lai na 55c yr uned, 37% am lai na 50c yr uned a 27% am lai na 45c yr uned. Gwelwyd bod yfwyr trwm yn fwy tebygol o brynu alcohol sy'n cael ei werthu islaw'r trothwyon hyn. 

Cafodd Grŵp Ymchwil Alcohol Sheffield ym Mhrifysgol Sheffield ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2017 i ddiweddaru gwerthusiad a wnaed yn 2014 ar yr effaith debygol o osod ystod o bolisïau isafbris uned yng Nghymru.

Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn dangos y canlynol:            

  • Mae yfwyr cymedrol yn yfed 211 uned o alcohol y flwyddyn ar gyfartaledd, o gymharu â 1,236 ar gyfer yfwyr peryglus a 3,924 ar gyfer yfwyr niweidiol.   
  • Mae yfwyr niweidiol yn gwario £2,882 y flwyddyn ar gyfartaledd ar alcohol o gymharu â £1,209 ar gyfer yfwyr peryglus a £276 ar gyfer yfwyr cymedrol.
  • Mae marwolaethau a derbyniadau i'r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol i'w gweld yn amlach ymysg yfwyr peryglus ac arbennig o niweidiol sy'n fwy difreintiedig. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

"Pobl sy'n yfed lefelau peryglus a niweidiol o alcohol sy'n gyfrifol am 75% o'r alcohol sy'n cael ei yfed yng Nghymru. Byddai cyflwyno isafbris uned yn effeithiol wrth leihau'r defnydd o alcohol ymysg y grwpiau hyn, yn ogystal â lleihau nifer y marwolaethau a'r derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol.

"Mae'r adroddiad hwn yn dangos y byddai isafbris uned yn effeithio fwyaf ar yr yfwyr niweidiol mwyaf difreintiedig, ac mai effaith fach fyddai ar ddefnydd yfwyr cymedrol a'u gwariant ar alcohol. Y rheswm am hyn yw bod yfwyr cymedrol yn dueddol o brynu alcohol a fyddai'n gweld ychydig iawn o gynnydd mewn pris, os o gwbl, dan y polisi hwn.

"Gallai'r gyfraith hon, o'i phasio, achub bywydau."