Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, wedi datgan bod tri chwarter o bobl Cymru wedi cael dau ddos o'r brechlyn coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dengys y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd heddi (dydd Gwener 16 Gorffenaf) yn dangos yn y 7 mis diweddaf fod  1,892,082 o bobl wedi cael y ddau frechlyn a chwblhau’r cwrs a bod 2,279,139 o bobl neu  90.3% o oedolion wedi cael eu dos cyntaf. 

Mae Cymru wedi bodloni ei thrydedd garreg filltir, ar ôl cynnig brechiad i bob oedolyn chwe wythnos yn gynnar, a llwyddo i frechu 75% o bobl o dan 50 oed fis yn gynnar.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Mae pob brechiad yn rhoi gobaith inni ac mae hyn yn dipyn o gamp mewn cyfnod mor fyr. Rwy'n arbennig o falch ac yn ddiolchgar i'r miloedd o staff y GIG a gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio mor galed ledled y wlad i gyrraedd y garreg filltir hon. Rwy'n arbennig o falch bod gan Gymru un o'r cyfraddau brechu gorau unrhyw le yn y byd. Mae pobl Cymru wedi croesawu ein hymdrechion i oresgyn y feirws ofnadwy hwn trwy gydsynio i gael y brechlyn sy'n achub bywydau a hoffwn ddiolch i bob un o'r  bobl sydd wedi cymryd y cyfle i gael y brechlyn.

Dyw'r pandemig ddim drosodd eto. Cael eich brechu yw'r ffordd allan o'r pandemig a'r ffordd orau o'ch diogelu'ch hun a'r rhai o'ch cwmpas rhag y feirws. Hoffwn annog unrhyw un sydd heb gael y brechiad i gysylltu â'i fwrdd iechyd a threfnu cael ei frechu.

Ychwanegodd Dr Gill Richardson, Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru dros Frechlynnau:

Mae'r ffigurau heddiw'n dangos bod Cymru wedi cyflawni cryn gamp yn ein hymdrechion i frechu cymaint o bobl â phosibl mor gyflym a diogel â phosibl. Mae hyn oll wedi'i gyflawni trwy ymdrechion gwych ein rhaglen frechu, staff gofal iechyd a'r cyhoedd.  Mae pob dos yn cyfrif ac oherwydd amrywiolyn Delta, sy'n amrywiolyn mwy heintus, mae angen inni i gyd gael dau ddos i gael yr amddiffyniad gorau ac mae hyn yn digwydd  2-3 wythnos yn dilyn yr ail ddos.

Mae pob brechlyn sy'n cael ei roi yn gam yn nes at ddyfodol mwy disglair i bob un ohonom. Mae'r brechlynnau'n diogel ac yn effeithiol a hoffwn annog pawb i fanteisio ar y cynnig pan ddaw eu tro.