Mae un o'r canolfannau ailgylchu mwyaf effeithiol i ehangu yn dilyn pecyn cyllido gan Lywodraeth Cymru, Banc Datblygu Cymru a UK Steel Enterprise.
Mae Rhymney's Dragon Recycling Solutions yn ailgylchu mesuryddion cyfleustodau na fydd yn cael eu defnyddio bellach oherwydd y mesuryddion smart newydd sy'n cael eu cyflwyno, bydd yr ehangu yn caniatáu i'r cwmni fynd ymlaen â chontractau hirdymor gyda cwmnïau mawr, gan gyflogi 71 o bobl ychwanegol.
Mae'r Rheolwr-gyfarwyddwr Mick Young yn egluro y byddai wedi bod yn anodd i'r cwmni wneud cais am gontractau mawr a'u hennill cyn derbyn y buddsoddiad.
Dywedodd:
"Roedd angen llawer mwy o weithwyr arnom i gyflawni'r contractau, rhywbeth fyddai wedi bod yn anodd i gynllunio ar ei gyfer ac a fyddai wedi golygu pwysau ar ein llif arian.
"Rydym yn lwcus i gael gweithlu mawr, o safon uchel, sydd ar gael yn lleol, gyda dewis da o gwmnïau ategol sy'n sicrhau diogelwch hirdymor y gweithlu a'r ardal leol. Bydd yr arian hwn, yr ydym yn ddiolchgar iawn ohono, yn golygu ein bod bellach mewn sefyllfa i gyflogi 71 o bobl yn ychwanegol, sy'n dod â'n gweithlu i 108."
Mae'r ehangu yn dilyn cyllid o £400,000 gan Lywodraeth Cymru, £100,000 o Fanc Datblygu Cymru a £100,000 o UK Steel Enterprise, is-gwmni Tata Steel.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae ein Cynllun Gweithredu Economaidd am sicrhau cynaliadwyedd, arbenigedd rhanbarthol ac am ehangu cwmnïau, a dyma brosiect sydd yn llwyddo i wneud hyn oll.
"Mae cefnogaeth enfawr ar gyfer busnesau uchelgeisiol yng Nghymru, ac mae'n arbennig o dda gweld Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a'r sector preifat yn cydweithio i sicrhau ffordd i'r cwmni gwych hwn o Gymru wneud ceisiadau llwyddiannus ar gyfer contractau mawr cenedlaethol a llwyddo i'w cyflawni.
"Dwi'n edrych ymlaen at lwyddiant parhaus y cwmni gyda diddordeb."
Dywedodd Stephen Elias, Uwch Swyddog Portffolio Banc Datblygu Cymru:
“Mae buddsoddi mewn busnesau sy'n tyfu yn flaenoriaeth i'r banc datblygu, yn enwedig yng Nghymoedd y De lle mae moeseg gwaith cryf yn bodoli'n hanesyddol, ac mae hyn yn enghraifft wych o sut y gall newidiadau mewn diwydiant gyflwyno cyfleoedd masnachol newydd i fusnesau uchelgeisiol a dygn. Yn dilyn ein buddsoddiad cyntaf yn 2016, bydd yr arian diweddaraf hwn yn caniatáu i Dragon Recycling Solutions yrru'r busnes yn ei flaen, gan gynyddu eu gallu i ailgylchu a chynyddu eu gweithlu, ac mae hynny o fudd i'r gymuned a'r amgylchedd.”
Mae Dragon Recycling Solutions Ltd yn ailgylchu 98% o'r holl ddeunyddiau sy'n cael eu danfon i'r safle a 100% o'r mesuryddion cyfleustodau a ddaeth o ganlyniad i'r cynllun mesuryddion smart, gan adfer deunyddiau gwerthfawr megis Plastig, Dur, Efydd a byrddau cylchedd.