Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi lansio ail rownd Cronfa’r Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, sy’n darparu cyllid gwerth £6.5 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff a ariennir yn gyhoeddus y cynghorau tref a chymuned hyn, i gefnogi adferiad gwyrdd.
Yn dilyn rownd gyntaf lwyddiannus, mae’r gronfa wedi cael ei hehangu i gefnogi’r ymateb i COVID-19 ac adferiad gwyrdd yng Nghymru. Bydd Cronfa’r Economi Gylchol yn cefnogi camau i wireddu economi gylchol yng Nghymru, drwy ailddefnyddio deunyddiau cynifer o weithiau ag y bo modd, ac osgoi gwastraff. Mae Cymru ar y ffordd i fod yn un o arweinwyr y byd ym maes ailgylchu, ac mae economi gylchol yn bwysig wrth gynyddu cadernid a sicrhau bod allyriadau carbon Cymru yn sero-net erbyn 2050.
Mae’r £3.2 miliwn ar gyfer eleni, wedi’i dargedu at awdurdodau lleol a chyrff a ariennir yn gyhoeddus, yn rhedeg ochr yn ochr â Chronfa’r Economi Gylchol ar gyfer busnesau, ac yn cydnabod yr heriau rydym yn eu hwynebu o ganlyniad i COVID-19, yn ogystal â’r heriau sy’n gysylltiedig â newid i economi gylchol yng Nghymru. Mae £3.5 miliwn ar gael i fusnesau i gynyddu’r deunyddiau wedi eu hailgylchu maent yn eu defnyddio yn eu cynhyrchion, mewn cydrannau neu ar gyfer pecynnu, ac i ailddefnyddio, ailwampio ac ailweithgynhyrchu.
Mae economi gylchol yn rhan bwysig o adferiad gwyrdd, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a gwella cadernid. Nid yn unig bydd defnyddio adnoddau cynifer o weithiau ag y bo modd ac osgoi gwastraff yn helpu’r amgylchedd, bydd hefyd yn helpu Cymru i fanteisio ar gyfleoedd economaidd drwy wneud cadwyni cyflenwi yn fyrrach a manteisio i’r eithaf ar ddeunyddiau wedi eu hailgylchu.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
“Mae Cymru yn symud tuag at ddod yn economi gylchol. Rydyn ni eisoes yn ailgylchu mwy nag unrhyw le arall yn y DU, ac rydyn ni’n drwch blewyn o fod y wlad orau yn y byd ym maes ailgylchu.
“Mae ein profiadau yn ystod y pandemig COVID-19 wedi cynyddu ein hymwybyddiaeth o bwysigrwydd adnoddau a chadernid ein cadwyni cyflenwi. Yn ogystal roedd ein gwasanaethau ailgylchu o’r radd flaenaf yn darparu cadernid hanfodol yn ystod y cyfyngiadau symud.
“Drwy gefnogi cyrff cyhoeddus a busnesau i gymryd camau i gefnogi’r newid i economi gylchol, carbon isel mae’r gronfa hon yn rhan bwysig o adferiad gwyrdd o effeithiau’r pandemig, ac ein hymrwymiad parhaus i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae’n bleser gen i ddweud bod y gronfa bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, a bydd yn cau ar 27 Gorffennaf.”