Neidio i'r prif gynnwy

Anogir pysgotwyr a gweithwyr dyframaethu yng Nghymru i wneud cais am gyllid i wella agweddau iechyd a diogelwch ar eu gwaith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r cymorth yn rhan o Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru, ac mae £600,000 yn cael ei wneud ar gael yn y rownd hon sy’n agor ar gyfer ceisiadau heddiw.

Mae Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yn gynllun cyllido sy’n cefnogi diwydiant bwyd môr Cymru i dyfu mewn modd amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy, ac yn annog cymunedau arfordirol Cymru i ffynnu.

Nod y rownd cyllid Iechyd a Diogelwch hon yw gwella hylendid, iechyd, diogelwch, lles ac amodau gwaith ar gyfer pysgotwyr a gweithwyr dyframaethu yng Nghymru.

Mae eitemau sy’n gymwys ar gyfer cyllid o dan y rownd Iechyd a Diogelwch hon yn cynnwys, er enghraifft, siacedi achub â thywysydd lleoli personol a rafftiau achub.

Rhaid i bob eitem fodloni’r meini prawf a amlinellir yn y canllawiau ar Gynllun Môr a Physgodfeydd Cymru – Iechyd a Diogelwch.

Y grant uchaf a ddyfernir yw £10,000 a’r grant lleiaf yw £200.

Bydd y cyfnod ymgeisio ar agor tan 11 Hydref 2023.

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cofrestru gyda Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein(RPW), lle mae’r ffurflen gais a phrosesau hawlio ar gael. Mae manylion canllawiau’r cynllun ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Mae iechyd a diogelwch o’r pwys mwyaf, ac mae’n dda gen i bydd y cyllid hwn yn galluogi ein pysgotwyr a gweithwyr dyframaethu i wella’r agwedd hon ar eu gwaith.

Bydd Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yn bwysig wrth helpu ein sectorau physgodfeydd, y môr a dyframaethu ymdrin â’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’u blaenau, a gweld ein cymunedau arfordirol ffynnu yn y dyfodol.