Bydd ysgolion a cholegau ledled Cymru yn elwa ar gyllid o £60 miliwn i sicrhau bod adeiladau’n fwy effeithlon o ran ynni. Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi cyllid o £50 miliwn i ysgolion a £10 miliwn i golegau addysg bellach.
Bydd yr arian newydd yn helpu ysgolion a cholegau gyda blaenoriaethau o ran effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio. Mae’r gwaith sy’n cael ei ariannu yn cynnwys ailosod toeau, gwaith gwresogi ac awyru sy’n cyflwyno datrysiadau carbon isel effeithlon, a systemau trydanol, gan gynnwys goleuadau LED.
Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog ag Ysgol Gynradd Gymunedol Perthcelyn yn Aberpennar. Mae’r ysgol wedi cael ychydig dros £66,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru eleni i helpu i ariannu gwelliannau allanol, gan gynnwys llawr gwrth-lithro sy’n arwain at ardal chwarae yn y cefn, a gosod canopi mewn ardal chwarae anghenion dysgu ychwanegol.
Ochr yn ochr â’r manteision i ddysgwyr a chymunedau, bydd y £60 miliwn a ddyrannwyd yn hwb i ddiwydiant adeiladu Cymru ac o ran cyflogaeth. Amcangyfrifir bod y buddsoddiad o £60 miliwn yn cyfateb i £170 miliwn o werth economaidd i Gymru (£2.84 o fudd am bob £1 sy’n cael ei gwario ar adeiladu) a 834 o swyddi cyfwerth ag amser llawn (13.9 o swyddi cyfwerth ag amser llawn fesul gwaith gwerth £1 filiwn).
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
Mae Cymru wedi gwneud ymrwymiad cryf iawn i fod yn fwy cynaliadwy a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol. Bydd yr arian sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn galluogi rhaglen gynhwysfawr o welliannau cynaliadwy ar gyfer ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mae’n bwysig bod adeiladau ysgolion yn hwyluso’r broses o leihau defnydd ynni ac o ddatgarboneiddio yn unol â’n Strategaeth Sero Net.
Rydym am i’r adeiladau lle mae ein plant a’n pobl ifanc yn dysgu fod yn fannau croesawgar, ond ar ben hynny rydym am sicrhau hefyd nad yw’r adeiladau’n cael effaith ar yr amgylchedd, nac ar amgylchedd pobl ifanc Cymru yn y dyfodol.