Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal digidol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu swydd Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal a chorff newydd o fewn GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau digidol cenedlaethol, gyda chymorth £50m o gyllid newydd. 

Bydd y Prif Swyddog Digidol ar gyfer Iechyd a Gofal yn diffinio’r safonau cenedlaethol ar gyfer meddalwedd a gwasanaethau digidol, fel rhan o’r gwaith o symud at strwythur digidol agored, ar draws yr holl systemau digidol. Bydd hefyd yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ei strategaeth ddigidol ac yn arwaith y proffesiwn digidol, a bydd hefyd yn eiriolwr ar ran iechyd a gofal digidol yng Nghymru. 

Bydd Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru yn newid i fod yn gorff newydd ar ei ben ei hun o fewn GIG Cymru, gan adlewyrchu pwysigrwydd y maes digidol a data mewn gofal iechyd yn yr oes fodern. Bydd y corff newydd yn Awdurdod Iechyd Arbennig, yn yr un modd ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, a sefydlwyd yn ddiweddar.  Bydd ganddo gadeirydd a bwrdd annibynnol, a benodir gan Weinidogion Cymru. 

Mae Cymru Iachach, cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal, yn nodi bod datblygu gwasanaethau digidol yn allweddol er mwyn darparu gwasanaethau sy’n addas at y dyfodol. Yn ogystal â chryfhau arweinyddiaeth a threfniadau cyflawni, mae Cymru Iachach yn ymrwymo i gynyddu’r buddsoddiad mewn datblygiadau digidol yn sylweddol. Bydd cronfa newydd, a fydd yn werth £50m, yn cael ei sefydlu er mwyn buddsoddi mewn blaenoriaethau digidol ar sail pum thema: 

  • Trawsnewid gwasanaethau digidol i gleifion a’r cyhoedd
  • Trawsnewid gwasanaethau digidol i weithwyr proffesiynol
  • Buddsoddi mewn data a gwybodaeth ddeallus
  • Moderneiddio dyfeisiau a symud i wasanaethau cwmwl
  • Seiberddiogelwch a chadernid

Mae’r Gweinidog Iechyd hefyd wedi comisiynu pedwar adolygiad strategol o iechyd a gofal digidol yng Nghymru. Bydd hynny’n arwain at gyhoeddi, y flwyddyn nesaf, Gynllun Seilwaith Digidol i Gymru, Cynllun Gweithlu Digidol, Strategaeth Fasnachol a Strategaeth Gyfathrebu. 

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Vaughan Gething:

Mae ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y GIG, Cymru Iachach, yn tanlinellu pwysigrwydd technoleg ddigidol i ddyfodol gofal iechyd. Mae iddi ran gwbl hanfodol yn y gwasanaeth iechyd i gyd yn ogystal ag mewn gofal cymdeithasol, ac mae’n rhoi’r grym i gleifion a’r cyhoedd allu rheoli eu hiechyd a’u llesiant eu hunain. 

Rwy am i bawb yng Nghymru gallu cael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal digidol o’r radd flaenaf, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol, y cyhoedd a’r cleifion. 

Mae’r cynlluniau rwy’n eu cyhoeddi heddiw wedi’u llywio gan ddau adolygiad gan arbenigwyr. Bydd creu swydd Prif Swyddog Digidol yn cryfhau arweinyddiaeth, gan sefydlu safonau cyffredin i Gymru gyfan. Bydd sefydlu corff newydd yn y GIG a fydd yn canolbwyntio ar y maes digidol yn cryfhau’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cenedlaethol. A bydd buddsoddiad ychwanegol o £50m mewn blaenoriaethau strategol yn cyflymu’r newidiadau. 

Mae’r rhain yn newidiadau o bwys, ond mae rhagor o waith i’w wneud ac rwy wedi comisiynu adolygiadau pellach mewn meysydd sy’n flaenoriaeth. Rwy’n benderfynol y byddwn yn cynnal cyflymder y gwaith o drawsnewid, fel ein bod yn gallu defnyddio technolegau digidol newydd i roi budd i’r cyhoedd ac i gleifion yng Nghymru, a gwneud ein gwasanaethau iechyd a gofal yn gynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol.