Neidio i'r prif gynnwy

Mae datblygiad yr A465 yn un o brosiectau seilwaith mwyaf Cymru. Mae Rhan 2, rhwng Gilwern a Brynmawr, yn golygu lledu Ceunant Clydach sy'n safle hynod serth ac amgylcheddol sensitif.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma'r ffeithiau a'r ffigurau sy'n dangos maint y cynllun.

1. Bydd y datblygiad yn creu ffordd ddeuol am 5 milltir

Bydd hyn o fudd i oddeutu 21,000 o gerbydau sy'n defnyddio'r A465 rhwng Brynmawr a Gilwern.

Mae oddeutu 87% o'r gwaith wedi'i gwblhau, gan gynnwys 2 bont newydd ar gylchfan Glanbaiden a'r bwa concrid yng Ngilwern - y mwyaf o'i fath yn y byd.

The development will create a 5 mile dual carriageway

2. Mae yr hyn sy'n cyfateb â llond 400 o byllau nofio Olympaidd o ddeunydd wedi'i gloddio

Mae hyn dros 1.3 miliwn o fetrau ciwb.

Mae'r prosiect yn cynnwys pymtheg pont a 12,500 metr o strwythurau cadw. Mae'r prosiect hefyd yn defnyddio 16,400 metr ciwb o goncrid wedi'i gryfhau, 5,000 tunnell o ddur wedi'i gryfhau, 109,000 tunnell o balmant hyblyg, ac mae wedi gosod dros 20 cilomedr o bibelli.

The equivalent of more than 400 Olympic swimming pools worth of material has been excavated

3. Mae 750 tunnell o ddur yn Mhont Porth Jack Williams

Cafodd Pont Porth Jack Williams ei henwi ar ôl arwr o'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn dilyn pleidlais gyhoeddus. Cafodd y gof o Nantyglo Groes Fictoria wedi iddo drechu safle gwn peiriant Almaenig yn Ffrainc ar ei ben ei hun, a dal 15 o elynion. Mae'r bont yn 118 metr ac yn croesi un o ardaloedd amgylcheddol a sensitif yn ecolegol pwysicaf De Cymru.

There are 750 tonnes of steel in the Jack Williams Gateway Bridge

4. Mae dros 270 o swyddi wedi'u creu

Mae cwmpas y cynllun, yn ogystal â'r ffaith ei fod yn gymhleth iawn, wedi dod ag amrywiol fathau o waith a hyfforddiant i Gymru a'r gymuned leol.

Mae dros 270 o swyddi newydd, 69 o brentisiaethau a 120 o gyfleoedd am brofiad gwaith wedi'u creu. Mae 300 o fentrau mewn ysgolion a cholegau wedi'u cyflawni, ac 171 o ymweliadau  â safleoedd addysgol wedi digwydd.

Mae'r cynllun wedi derbyn statws yr Academi Sgiliau Cenedlaethol gan Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, ac wedi derbyn Gwobr Arian Gyrfa Cymru yn 2019.

More than 270 jobs have been created

5. Mae dros 30,000 o goed wedi'u plannu

Mae'r coed hyn o fewn ôl troed y cynllun yn helpu i leihau nwyon tŷ gwydr ac yn gwella ansawdd yr aer.

Mae natur wedi elwa o'r prosiect Lliniaru Cornchwiglod, sydd wedi golygu bod tri neu bedwar o barau magu yn dychwelyd i'r safle, a dros 6,850 o dunelli o wydr wedi'i ailgylchu wedi ei fewnforio gan ddarparwr lleol.

More than 30,000 trees have been planted