Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaed hanes yng Nghymru heno (dydd Mawrth, 9 Mawrth) pan gyrhaeddodd Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) ei gam olaf cyn cael ei basio i fod yn gyfraith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pleidleisiodd aelodau'r Senedd i basio testun terfynol y Bil sy'n golygu y bydd Cwricwlwm Cymru yn cael ei gyflwyno yn 2022.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru ac yn garreg filltir bwysig arall yng nghenhadaeth ein cenedl. Mae'r cwricwlwm newydd wedi'i ddatblygu i sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru yn cael y cyfle a'r gefnogaeth orau mewn bywyd i sicrhau bod pob un ohonyn nhw'n gallu ffynnu er budd dyfodol Cymru.

Rwy'n ei alw'n genhadaeth ein cenedl gan ei bod wedi cynnwys pawb yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu’r cwricwlwm ar y cyd – athrawon, rhieni, academyddion, busnesau, sefydliadau cenedlaethol, a'm hadran i wrth gwrs - i godi safonau, mynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad a chael system addysg i’n dysgwyr sy'n destun balchder i ni i gyd.

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi chwarae eu rhan yn y daith hanesyddol hon i addysg yng Nghymru.

Yn dilyn cael Cydsyniad Brenhinol, a ragwelir ym mis Ebrill, bydd y Bil yn dod yn Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.

Y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog gynllun gweithredu wedi’i ddiweddaru sy’n nodi'r camau nesaf yn y daith i ddiwygio Cymru, cyn cyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.

Ochr yn ochr â chynllun gweithredu Cenhadaeth ein Cenedl sydd wedi'i ddiweddaru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddogfen sy'n nodi disgwyliadau a rennir o'r hyn y mae gwireddu'r cwricwlwm yn ei olygu i ymarferwyr ac ysgolion o 2022. Mae Cwricwlwm i Gymru: y daith i 2022 wedi’i greu i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu eu cwricwlwm. Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Gweithredu’r Cwricwlwm a fydd yn llywio’n gwaith ar y cyd â phartneriaid i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru.

Dyma bum peth efallai na wyddoch chi am y cwricwlwm newydd

  1. Cafodd y cwricwlwm ei wneud yng Nghymru ond fe'i luniwyd gan ddefnyddio’r syniadau gorau o bob cwr o'r byd

Dyma'r tro cyntaf erioed i ysgolion yng Nghymru gael cwricwlwm cenedlaethol sydd wedi'i osod yng Nghyfraith Cymru.

Mae canllawiau’r cwricwlwm eisoes wedi'u cyhoeddi, ac maen nhw'n ganlyniad blynyddoedd lawer o waith sy'n cynnwys athrawon, arbenigwyr, sefydliadau cenedlaethol a chymunedol o Gymru, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), gan gynnwys sefydliadau o mor bell i ffwrdd â Seland Newydd!

  1. Mae'r cwricwlwm wedi'i ddatblygu ar y cyd ers y camau cynharaf

Ffrwyth cydweithio agos a elwir yn gyd-awduro yw'r Cwricwlwm i Gymru – nid dictad o'r brig i lawr gan y Llywodraeth.

Cafodd ei ddatblygu gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr, gan ddwyn ynghyd arbenigedd addysgol ac ymchwil a thystiolaeth ehangach. 

Roedd yr OECD wedi cydnabod hynny mewn adroddiad, gan ddatgan i'r broses o gyd-awduro lwyddo i ennyn diddordeb llawer i gymryd rhan ac ymddiried yn y broses. Ac ar yr un pryd, bod addasiadau systemig mewn sefydliadau a pholisïau eraill yn helpu i sefydlu system addysg sy’n cael ei harwain yn broffesiynol.

  1. Cynlluniwyd y cwricwlwm o gwmpas pedwar diben ar gyfer dysgwyr

Y pedwar diben fydd y man cychwyn a'r uchelgais ar gyfer cynlluniau pob ysgol o ran eu cwricwlwm. Mae'r rhain yn cynrychioli'r math o ddysgwyr y dylai ysgolion helpu i'w datblygu ac ethos y system addysg gyfan.

Yn y pen draw, nod cwricwlwm ysgol fydd cefnogi ei ddysgwyr i ddod:

  • yn ddysgwyr galluog, uchelgeisiol sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd
  • yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
  1. Mae pynciau a enwir wedi'u disodli gan Feysydd Dysgu a Phrofiad

Mae fframwaith y cwricwlwm yn cynnwys chwe maes dysgu a phrofiad:

  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae'r chwe maes yn annog cysylltiadau cryf ac ystyrlon ar draws gwahanol ddisgyblaethau, a bydd hyn yn galluogi dysgwyr i feithrin cysylltiadau ar draws eu dysgu a chyfuno gwahanol brofiadau, gwybodaeth a sgiliau.

Mae pob maes yn cynnwys datganiadau am Beth sy'n Bwysig – mae 27 o'r rhain yn y fframwaith cyfan – a’r rhain yw’r 'syniadau mawr' a’r cysyniadau allweddol ar gyfer y cwricwlwm. Dyma’r fframwaith cenedlaethol sy’n helpu i sicrhau'r un dysgu craidd a dull cyson o gynllunio'r cwricwlwm ar draws lleoliadau ac ysgolion.

  1. Bydd plant yng Nghymru yn gallu manteisio ar y cwricwlwm llawn

Bydd ysgolion yn addysgu pob dysgwr am grefydd, gwerthoedd a moeseg, ac addysg cydberthynas a rhywioldeb, mewn ffordd gyson a datblygiadol briodol. 

Bydd hyn yn sicrhau bod pob person ifanc yn cael mynediad at wybodaeth sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed – a bydd pob disgybl yn dysgu am faterion fel diogelwch ar-lein a pherthynas iach.