Neidio i'r prif gynnwy

Ffordd Osgoi Caernarfon a Bontnewydd, sy'n werth £135 miliwn, yw un o brosiectau seilwaith mwyaf Llywodraeth Cymru yn y Gogledd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl i'r ffordd gael ei chwblhau, bydd o fudd i gymunedau lleol ac i bobl sy'n teithio. Dyma ychydig o ffeithiau am y cynllun.

1. Mae dros 90 y cant o'r gweithlu'n Gymry neu’n byw yng Nghymru. Mae’r contractwyr, Jones Bros (Rhuthun) a Balfour Beatty Construction, wedi cyflogi 18 o gwmnïau lleol i wneud gwaith gwerth £480,000 a gafodd ei is-gontractio ac mae ganddynt archebion gyda 26 o gyflenwyr lleol ar hyn o bryd. 

Llun o uwch ben beiriannau cloddio yn cloddio'r ddaear ac yn siapio ffordd osgoi'r A487.

Llun o uwch ben beiriannau cloddio yn cloddio'r ddaear ac yn siapio ffordd osgoi'r A487.

2. Hyd yma, mae 14 o brentisiaid ar y safle ac mae contractwyr y prosiect wedi cyflogi 13 o weithwyr newydd ers i'r gwaith adeiladu ddechrau. Cyflogwyd pedwar o raddedigion dros yr haf hefyd er mwyn iddynt gael magu profiad gwerthfawr drwy gynorthwyo'r tîm ar y safle gyda gwaith peirianyddol, gweinyddol, ac iechyd a diogelwch. 

Ken Skates, Gweinidog Gogledd Cymru gyda chontractwyr a phrentisiaid yn natblygiad ffordd osgoi’r A487.

Ken Skates, Gweinidog Gogledd Cymru gyda chontractwyr a phrentisiaid yn natblygiad ffordd osgoi’r A487.

3. Daeth archaeolegwyr o hyd i ganŵ o'r Oes Efydd ar y safle. Daethpwyd o hyd i'r ceufad, a gafodd ei wneud drwy gafnu derwen, o dan dwmpath wedi'i losgi a oedd yn dyddio'n ôl 3,500 o flynyddoedd. Dyma'r darganfyddiad cyntaf o'i fath yn y Gogledd.  Cafodd rhan fawr o ffordd Rufeinig ei chloddio hefyd.

Canŵ o Oes yr Efydd a ffordd Rufeinig a ddarganfuwyd gan archeolegwyr yn ystod gwaith ar ffordd osgoi'r A487.

Canŵ o Oes yr Efydd a ffordd Rufeinig a ddarganfuwyd gan archeolegwyr yn ystod gwaith ar ffordd osgoi'r A487.

4. Mae oddeutu 300 o blant ysgol wedi bod yn gysylltiedig â'r prosiect hyd yma. Fel rhan o’u cynllunio gyrfaol, mae grwpiau o ddisgyblion ysgol dan 16 oed wedi bod ar daith o amgylch y safle ac mewn sesiwn flasu.

xCyfrannodd ysgolion o Gaernarfon a Bontnewydd at arwyddion ffyrdd ar gyfer y ffordd osgoi newydd.

Cyfrannodd ysgolion o Gaernarfon a Bontnewydd at arwyddion ffyrdd ar gyfer y ffordd osgoi newydd.

5. Mae dros 30 o ecolegwyr wedi treulio rhyw 1,500 o oriau yn cynnal gwiriadau helaeth a chwiliadau er mwyn adnabod a gwarchod bywyd gwyllt yn ystod y gwaith. Bu'n rhaid torri nifer o'r coed ar hyd llwybr y ffordd, ond fodd bynnag, mae'r contractwyr wedi plannu mwyn o lystyfiant nag y maent wedi’i godi. Mae'r gwaith hwnnw'n cynnwys 13 o hectarau o goetir newydd; 23 km o berthi newydd a 30 o hectarau o laswelltir cyfoethog ei rywogaethau. Bydd camau sylweddol i warchod cynefinoedd dyfrgwn, ystlumod, llygod pengrwn y dŵr a physgod yn cael eu gweithredu, gan gynnwys gosod cwlferi a phibellau, ynghyd ag adlinio cyrsiau dŵr.

Roedd contractwyr yn gosod blychau ystlumod ar goed i helpu i amddiffyn cynefin naturiol yr ystlumod.

Roedd contractwyr yn gosod blychau ystlumod ar goed i helpu i amddiffyn cynefin naturiol yr ystlumod.