Neidio i'r prif gynnwy

Mae £4.2m wedi’i ddyfarnu i 77 o sefydliadau gan Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r grwpiau a fydd yn elwa'n uniongyrchol o'r gronfa hon yn cynnwys:

  • Yr Eisteddfod Genedlaethol
  • Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
  • Mentrau Iaith
  • Merched y Wawr
  • Clybiau Ffermwyr Ifainc Cymru
  • Papurau Bro
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Wrth gyhoeddi’r  Grantiau, dywedodd  Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Luned Morgan AC:

“Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn ac er bod addysg yn allweddol i wireddu’r nod yma, mae defnyddio’r iaith bob dydd ym mhob agwedd ar fywyd yr un mor bwysig.

“All y Gymraeg ddim â bodoli fel iaith y dosbarth yn unig. Er mwyn iddi ffynnu, mae’n ddyletswydd arnon ni i gyd, siaradwyr y Gymraeg, ei defnyddio. Mae’r sefydliadau sydd wedi’u hariannu gan y grantiau hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i blant, pobl ifanc ac oedolion i ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.

“Mae gan ddigwyddiadau uchel eu proffil fel yr Eisteddfod Genedlaethol a Tafwyl, yn ogystal â’r cyfleoedd a roddir gan sefydliadau yn lleol, ran bwysig i’w chwarae wrth sicrhau bod y Gymraeg a’r diwylliant yn gryf yn ein cymunedau ledled Cymru.

“Mae’r grantiau hyn yn cydnabod cyfraniad y sefydliadau hyn i les yr iaith yn y dyfodol a byddant o gymorth wrth gefnogi’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud ganddyn nhw yn hybu’r Gymraeg yn iaith fyw, ffyniannus.”