Bydd rhai o'r aelwydydd mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn cael cymorth pellach gyda biliau ynni sy’n cynyddu’n ddiddiwedd, yn sgil cynllun talebau gwerth £4m sy’n cael ei lansio gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.
Bydd y cymorth ychwanegol yn targedu pobl sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw ac aelwydydd nad ydynt wedi'u cysylltu â’r prif gyflenwad nwy.
Daw hyn wrth i’r ffigurau ddangos mai pobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw yng Ngogledd Cymru sydd wedi dioddef waethaf yn y DU o ganlyniad i ffioedd sefydlog cynyddol, gyda chostau'n cynyddu 102%.
I bobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw yn Ne Cymru, mae’r ffioedd sefydlog wedi codi 94% - dim ond tair ardal arall ym Mhrydain sydd wedi gweld cynnydd uwch.
Bydd y £4m o gyllid newydd yn galluogi'r Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun talebau cenedlaethol, gan ddarparu cymorth uniongyrchol i aelwydydd cymwys sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a'r rhai nad ydynt wedi'u cysylltu â rhwydwaith y prif gyflenwad nwy.
Bydd bron i 120,000 o bobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw yn gymwys i gael tua 49,000 o dalebau i'w cefnogi yn ystod yr argyfwng costau byw.
Bydd talebau'n amrywio o £30 ym misoedd yr haf i £49 yn y gaeaf, a bydd aelwydydd yn derbyn hyd at dair taleb dros gyfnod o chwe mis.
Bydd y £4m hefyd yn darparu ar gyfer Cronfa Wres, a fydd yn rhoi cymorth uniongyrchol i aelwydydd cymwys nad ydynt ar y grid nwy, sy'n dibynnu ar olew a nwy hylifedig. Bydd hyn yn helpu tua 2,000 o aelwydydd ledled Cymru.
Wrth ymweld â banc bwyd yn Wrecsam heddiw (10 Mehefin) er mwyn gweld y cymorth sydd ar gael i bobl sy’n ceisio cydbwyso costau ynni cynyddol â rhoi bwyd ar y bwrdd, dywedodd Jane Hutt:
Mae'r argyfwng costau byw yn cael effaith ysgubol ar bobl yng Nghymru.
Heddiw, mae bron i hanner aelwydydd Cymru mewn perygl o’u cael eu hunain mewn tlodi tanwydd. Mae hyn yn hynod frawychus.
Rydyn ni’n buddsoddi £4m ychwanegol yn y Sefydliad Banc Tanwydd i gyflwyno cynllun cenedlaethol sy'n cwmpasu Cymru gyfan ac sy'n cefnogi'r bobl fwyaf anghenus.
Mae'r cymorth ychwanegol hwn ar gyfer pobl sydd ar fesuryddion talu ymlaen llaw a'r rhai nad ydyn nhw ar y prif gyflenwad nwy neu drydan – dau grŵp a gafodd eu hanwybyddu gan y Canghellor yn ei becyn diweddaraf.
Daw'r cyllid ychwanegol a'r gefnogaeth benodol hon wrth i aelwydydd ledled Cymru stryffaglu i dalu biliau ynni uwch, sefyllfa a waethygwyd gan y codiad yn lefel y cap ar ynni domestig ym mis Ebrill. Pobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y costau cynyddol a’r ffioedd sefydlog uwch.
Mae'r rhai sydd ar dariff amhenodol, sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol, wedi gweld eu bil ynni cartref yn cynyddu £693 y flwyddyn ar gyfartaledd, ond pobl ar fesuryddion talu ymlaen llaw sydd wedi cael eu taro galetaf, sydd wedi gweld cynnydd o £708 y flwyddyn.
Mae aelwydydd nad ydynt wedi’u cysylltu â'r prif rwydwaith nwy hefyd yn dioddef yn sgil costau tanwydd cynyddol, ac yn eu cael eu hunain mewn tlodi tanwydd, gyda thua un o bob 10 aelwyd yng Nghymru yn dibynnu ar olew i wresogi eu cartrefi.
Mae llawer wedi nodi bod cost olew wedi mwy na dyblu dros y ddau fis diwethaf. Mewn rhai ardaloedd, gall cyflenwad o 500 litr, sydd fel arfer yn costio tua £340, gostio mwy na £750.
Dywedodd Matthew Cole, pennaeth y Sefydliad Banc Tanwydd:
Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig ar adeg pan fo pobl wir yn stryffaglu i ymdopi'n ariannol â'r argyfwng costau byw a’r biliau ynni sy’n cynyddu’n ddiddiwedd.
Bydd y cyllid yn galluogi’r Sefydliad Banc Tanwydd i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, er mwyn sicrhau nad ydyn nhw’n mynd yn oer neu'n llwglyd y gaeaf hwn, pan na allan nhw fforddio rhoi mwy o gredyd yn eu mesurydd nwy a/neu drydan. Bydd y cymorth hwn hefyd yn ymestyn i aelwydydd nad ydyn nhw ar y grid nwy ac sy’n dibynnu ar danwydd solet fel olew, pren neu lo i wresogi a phweru eu cartrefi.
A bydd yn ein galluogi i ehangu ein gweithgarwch a'r hyn y gallwn ni ei gyflawni ledled Cymru. Bydd canolfan Banc Tanwydd ym mhob awdurdod lleol, a fydd ar waith mewn pryd ar gyfer yr hydref, pan fydd y tywydd yn dechrau troi'n oerach.