Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn elwa ar £4.5 miliwn arall o fuddsoddiad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid yn helpu ysgolion arbennig, unedau arbenigol a chyrff y trydydd sector i roi sylw i’r hyn y tarfwyd arno yn sgil y pandemig. Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol at £26 miliwn a ddyrannwyd eisoes y flwyddyn ariannol hon i awdurdodau lleol a lleoliadau addysg i ddysgwyr ag ADY.

Bydd £4 miliwn yn mynd yn uniongyrchol i ysgolion arbennig ac unedau arbenigol er mwyn helpu i ddarparu cymorth ychwanegol i blant a phobl ifanc ag ADY.

Caiff £500,000 ei ddyfarnu i Plant yng Nghymru i’w ddosbarthu i gyrff y trydydd sector. Bydd y cyllid yn helpu sefydliadau i hyrwyddo’r system ADY newydd a’i manteision i blant, rhieni a gofalwyr, a phobl ifanc. 

Ynghyd â’r gefnogaeth ariannol ychwanegol, mae newidiadau yn cael eu gwneud i’r amserlen weithredu o ran symud dysgwyr o’r system AAA (Anghenion Addysgol Arbennig) i’r system ADY. Bydd yr amser sydd ar gael i symud plant yn cael ei ymestyn am flwyddyn, felly bydd plant a oedd i fod i symud i'r system ADY rhwng mis Ionawr a mis Awst eleni bellach yn symud rhwng Ionawr 2022 ac Awst 2023. Ni fydd hyn yn cael effaith ar hawl plant, a'u rhieni, i ofyn am gael symud i'r system ADY.

Caiff mwy o amser ei ganiatáu i symud plant o ysgol a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, ac sy’n cael darpariaeth addysgol arbennig lefel isel neu ganolig, o’r system AAA i’r system ADY.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Rydyn ni’n gwybod bod ysgolion arbennig a’r plant sy’n mynd iddyn nhw wedi wynebu heriau sylweddol yn sgil y pandemig. Bydd y cyllid ychwanegol rydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu rhai o’r pwysedd a helpu paratoadau ar gyfer ein system ADY newydd.

“Rydyn ni’n cydnabod gwaith caled ac ymroddiad y staff sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag ADY. Mae ysgolion arbennig, unedau arbenigol a chyrff y trydydd sector i gyd yn chwarae rôl allweddol yn y broses o gefnogi plant a phobl ifanc, o ran eu haddysg ac yn ehangach. Dw i am ddiolch iddyn nhw am y gwaith y maen nhw’n ei wneud i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu.”