Mae Cymru yn gwneud cynnydd da tuag at ei thargedau uchelgeisiol ar gyfer ynni glân.
Mae'r adroddiad Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2016 yn rhoi amcangyfrif o'r ffynonellau cynhyrchu ynni yng Nghymru, nifer y prosiectau a chyfanswm yr ynni y gellid ei gynhyrchu erbyn diwedd 2016. Mae'r adroddiad yn dangos:
- Bod dros 67,000 o brosiectau adnewyddadwy, cynnydd o 23% ers 2014;
- Bu cynnydd o 47% yn y gallu i gynhyrchu ynni adnewyddadwy ers 2014, sy'n golygu 18% o'r holl drydan sy'n cael ei gynhyrchu;
- 97% o gynnydd yn y gallu i gynhyrchu gwres adnewyddadwy;
- Mae 62,420 o brosiectau ynni adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol, gan gynhyrchu 575MW;
- Systemau solar ffotofoltäig yw'r dechnoleg adnewyddadwy fwyaf cyffredin, sy'n cyfrif am 81% o brosiectau adnewyddadwy; a
- Gwynt ar y tir sydd â'r gallu mwyaf i gynhyrchu ynni o ran technoleg adnewyddadwy, gyda chynnydd o 54% mewn gallu ers 2014.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
"Rydym wedi ymrwymo i gyflymu'r broses o drawsnewid ein system ynni yng Nghymru, yn enwedig drwy gynyddu'r defnydd o ynni adnewyddadwy. Ein blaenoriaethau yw arbed mwy o ynni, lleihau ein dibyniaeth ar ynni sy'n cael ei gynhyrchu o danwyddau fosil, a mynd ati i reoli'r newid i economi carbon isel.
"Dyna pam y bu imi gomisiynu yr astudiaeth Ynni yng Nghymru i roi darlun cyflawn inni o ynni yng Nghymru, ac inni weld y datblygiadau sydd wedi eu cyflawni.
"Ym mis Medi, gosodais dargedau uchelgeisiol i ddarparu system ynni carbon isel a sicrhau manteision i Gymru. Mae adroddiad heddiw yn dangos ein bod eisoes yn gwneud cynnydd calonogol iawn ar ynni adnewyddadwy.
"Roedd 2016 yn flwyddyn bwysig yng Nghymru ar gyfer ynni. Cynhyrchwyd digon o ynni adnewyddadwy i ddarparu 43 y cant o'r trydan a ddefnyddiwyd gennym. Mae Sir y Fflint eisoes yn cynnal y prosiect solar mwyaf ym Mhrydain, a nawr mae gennym Pen y Cymoedd, y prosiect gwynt mwyaf yng Nghymru a Lloegr."Trwy ddefnyddio ein hadnoddau naturiol helaeth mewn dull cynaliadwy, gallwn sicrhau bod ynni yn parhau â'i swyddogaeth bwysig o gyrraedd ein targedau ynni a datgarboneiddio. Trwy wneud hynny, byddwn yn sicrhau Cymru lewyrchus, garbon isel.