Dylech greu gwasanaeth sy’n syml, yn ddealladwy ac yn reddfol i’w ddefnyddio. A’i brofi gyda defnyddwyr i sicrhau ei fod yn gweithio iddyn nhw.
Pam mae’n bwysig
Mae pobl yn disgwyl i wasanaethau weithio’n ddi-lol, ac ni ddylai gwasanaethau’r Llywodraeth fod yn eithriad.
Mae’n costio amser ac arian i’r Llywodraeth ddelio gyda chamgymeriadau sy’n digwydd pan nad yw gwasanaethau’n gweithio’n dda. Ac mae gwneud pethau’n fwy cymhleth nag sydd rhaid yn tanseilio ffydd yn y Llywodraeth.
Beth mae’n ei olygu
Dylai timau gwasanaeth:
- sicrhau bod y gwasanaeth yn helpu’r defnyddiwr i wneud yr hyn y mae angen iddo ei wneud mor syml â phosibl – fel y bydd pobl yn llwyddo y tro cyntaf, gyda chyn lleied o gymorth â phosibl
- profi defnyddioldeb yn aml gyda defnyddwyr go iawn a defnyddwyr posibl, gan ddefnyddio technegau ymchwil priodol
- profi’r holl rannau o’r gwasanaeth y mae’r defnyddiwr yn ymwneud â nhw – y rhannau ar-lein a’r rhannau all-lein (megis llythyrau)
- cynllunio’r gwasanaeth i weithio ar-lein gyda dyfeisiau amrywiol sy’n adlewyrchu ymddygiad defnyddwyr
Dylai gwasanaethau hefyd roi profiad cyson i ddefnyddwyr o’r dechrau i’r diwedd. Ar gyfer gwasanaethau LLYW.CYMRU, mae hyn yn golygu:
- bod yn gyson â dyluniad LLYW.CYMRU
- dilyn canllaw arddull LLYW.CYMRU ar gyfer pob testun, ar-lein ac all-lein