Mae Ysgrifennydd yr Economi wedi cyhoeddi heddiw mai Gaerwen, Y Drenewydd, Caerffili a Chaerfyrddin fydd y lleoliadau ar gyfer pedair canolfan Fenter ranbarthol i annog a chefnogi entrepreneuriaeth.
Mae Llywodraeth Cymru, wedi'i hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, wedi buddsoddi dros £4 miliwn mewn Canolfannau Menter newydd, fydd yn rhoi lle i unigolion a chwmnïau rwydweithio, arloesi, sefydlu eu mentrau a chael mynediad i amrywiol wasanaethau cymorth, megis cyngor ar gyflwyno syniad, gweithdai a chanolfannau cyngor ar fusnes. Bydd entrepreneuriaid yn y canolfannau yn cael mynediad at yr amrywiol gymorth sydd ar gael gan Busnes Cymru a phartneriaid gan gynnwys Colegau, Prifysgolion, Awdurdodau Lleol a Banc Datblygu Cymru, sy'n cynnig system gefnogi syml a gweladwy i entrepreneuriaid, gyda chysylltiadau da, fel a hyrwyddwyd yn y cynllun Creu Sbarc.
Bydd y canolfannau yn ategu Canolfan Wrecsam sydd eisoes wedi ei sefydlu ac yn anelu at ddechrau a chynnal gweithgarwch entrepreneuraidd wedi'i sbarduno gan arloesedd yn eu hardaloedd.
Bydd y Canolfannau Rhanbarthol yn:
- Wrecsam ac M-Sparc, Gaerwen gyda chysylltiadau yng Nghanolfan Busnes Conwy, Porthmadog, Rhuthun, Llangefni, Rhyl, Botwnnog a Dolgellau.
- Adeilad Pryce Jones, Y Drenewydd gyda chysylltiadau â champws Arloesi a Menter ym Mhrifysgol Aberystwyth, campws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Llanbedr a champws Coleg Ceredigion.
- ICE, Caerffili gyda chwmnïau llai i gael eu cadarnhau gyda Tasglu'r Cymoedd ym Merthyr, Blaenau-Gwent, Pen-y-Bont ar Ogwr, Torfaen a Rhondda Cynon Taf.
- Yr Egin, Sir Gaerfyrddin gyda chysylltiadau yng Nghanolfan Arloesi y Bont yn Sir Benfro, The Beacon Llanelli a Choleg Sir Gar.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:
"Mae fy Nghynllun Gweithredu Economaidd yn glir bod cefnogi ac annog entrepreneuriaeth ledled Cymru yn hollol hanfodol os ydym i lwyddo i ddatblygu economi Cymru.
"Ac rwy'n disgwyl i'm penderfyniad i ddarparu'r canolfannau busnes hyn yng Ngogledd-orllewin Cymru, y Canolbarth, Cymoedd y De-orllewin a Chymoedd y De-ddwyrain roi hwb gwirioneddol i'n heconomïau rhanbarthol.
"Ochr yn ochr â'r lleoliadau ategol hyn, bydd y pum canolfan yma yn sicrhau y gall entrepreneuriaid newydd ym mhob rhan o Gymru gael y safleoedd a'r cymorth y maent eu hangen i ddatblygu eu syniadau, gan greu o leiaf 700 o fentrau newydd ac 1160 o swyddi o safon yn y broses.
"Mae'r dystiolaeth yn amlwg, drwy gydweithio a dod â'r byd academaidd, diwydiant a phartneriaid lleol yn agosach at ei gilydd yn yr amgylchedd iawn, gallwn ddarparu nifer o fanteision ehangach i ardaloedd gerllaw'r canolfannau. Bydd hyn yn newyddion da i'n rhanbarthau economaidd, ac i gyflawni fy uchelgais o sicrhau bod manteision economaidd yn cael eu lledaenu'n llawer tecach ledled Cymru. Dwi'n edrych ymlaen at weld entrepreneuriaid o bob rhan o Gymru yn elwa cyn gynted â phosib."
Agorodd Canolfan Wrecsam yn swyddogol ym mis Mai 2018 ac mae 40 aelod yno eisoes. Rhagwelir y bydd y 4 ganolfan sy'n weddill yn gweithio'n llawn erbyn Ionawr 2019.