Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi hyd at £3 miliwn i gefnogi dygwyr sydd wedi'u 'hallgáu'n ddigidol' yn ystod pandemig y coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o'r rhaglen 'Cadw'n Ddiogel. Dal ati i Ddysgu', mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag awdurdodau lleol i gynnig atebion i helpu'r dysgwyr hynny sydd 'wedi'u hallgáu'n ddigidol' yn ystod y pandemig presennol.

Yr hyn a olygir wrth ddysgwyr sydd 'wedi'u hallgáu'n ddigidol' yw dysgwyr nad oes ganddynt fynediad i ddyfais briodol sydd wedi'i chysylltu â'r rhyngrwyd i allu cymryd rhan yn y gweithgareddau ar-lein yn eu cartrefi.

Bydd yr awdurdodau lleol, gan gydweithio'n agos â'u hysgolion, yn defnyddio'r cyllid i sicrhau bod gan ddysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol ddyfais o'r ysgol. Bydd y dyfeisiau wedi'u haddasu at ddibenion y dysgwyr hynny, gan gynnwys cysylltedd MiFi 4G, os bydd angen hynny. Caiff dyfeisiau newydd priodol ar gyfer ysgolion eu hariannu hefyd, drwy raglen seilwaith ehangach Hwb.

Mae’r ysgolion yn ceisio cael gwybod pa ddysgwyr sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol drwy gysylltu â rhieni a gofalwyr. Yn y cyfamser, mae’r awdurdodau lleol yn cael gwybod pa ddyfeisiau y gellir eu diweddaru fel eu bod yn gallu defnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Mae argyfwng y coronafeirws wedi'i wneud yn angenrheidiol i’r rhan fwyaf o blant weithio gartref ar hyn o bryd. Mae technoleg fodern yn caniatáu inni ddysgu o bell, ac mae amrediad eang o offer dysgu gwych ar gael ar lein. Ond, rwy’n cydnabod bod y sefyllfa’n un heriol i nifer o deuluoedd.

Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau nad oes unrhyw blentyn na theulu yn cael eu gadael ar ôl yn ystod yr argyfwng hwn, a bod pob plentyn yn cael cyfle i barhau i ddysgu. Drwy addasu offer ysgol, byddwn ni’n sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt cyn gynted ag sy’n bosibl.

Bydd y cyllid hwn yn sicrhau na fydd diffyg gliniadur neu fand eang yn rhwystr mwyach i ddysgu. Bydd y cyllid yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi teuluoedd, gan sicrhau bod eu plant yn parhau ar eu siwrnai addysg, lle bynnag y maen nhw’n dysgu."