Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i sicrhau bod sefydliadau diwylliannol Cymru yn cael eu diogelu a'u cadw, gyda £3.2m wedi'i glustnodi yn ystod y flwyddyn ariannol hon er mwyn gwneud gwaith atgyweirio i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, Lesley Griffiths, wedi dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar bryderon ynghylch y pwysau ariannol dwys ar bob sefydliad diwylliannol - ar lefel genedlaethol a lleol - ac wedi gweithredu i liniaru'r anawsterau hyn.

Dyrannwyd £500,000 arall hefyd i helpu i wella cyfleusterau storio a diogelu casgliadau pwysig mewn amgueddfeydd ac archifau lleol ac annibynnol sy'n adrodd straeon cymunedau ledled Cymru.

Bydd cyllid hefyd yn parhau i gael ei fuddsoddi i ailddatblygu safle Amgueddfa Cymru yn Llanberis, a fydd yn creu cyfleoedd ar gyfer mwy a gwell mynediad i'r casgliad cenedlaethol yng Ngogledd Cymru.

Bydd y model gwasgaredig ar gyfer yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn rhoi mwy o fynediad i'r casgliad cenedlaethol ac yn dod â chelf gyfoes yn agosach at gymunedau trwy rwydwaith o naw oriel sydd eisoes wedi'u sefydlu ledled Cymru. Bydd mwy o gasgliadau Cymru hefyd yn cael eu darparu drwy wefan Celf ar y Cyd

Mae'r flaenoriaeth gyntaf o ddiogelu a chadw sefydliadau diwylliannol a'u casgliadau yn golygu na fydd modd buddsoddi mewn oriel angor ar gyfer Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa newydd Gogledd Cymru ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith sylweddol o ailddatblygu Theatr Clwyd yn Sir y Fflint ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Wrecsam.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio'n agos gydag Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ddatblygu cynlluniau i fynd i'r afael â'r materion cynnal a chadw ehangach yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth dros y blynyddoedd nesaf. 

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: 

"Mae ein hamgueddfeydd, ein harchifau a'n horielau yn rhannau hanfodol o fywyd diwylliannol yng Nghymru a bydd yr arian ychwanegol hwn yn helpu i'w diogelu hwy a'u casgliadau er budd pobl ledled Cymru, nawr ac yn y dyfodol.

"Bu'n rhaid i ni wneud penderfyniadau a dewisiadau anodd, fodd bynnag, y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw helpu i ddiogelu ein sefydliadau diwylliannol, boed yn fawr neu'n fach, yn genedlaethol neu'n lleol.

"Bydd model gwasgaredig yr Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol yn dod â chasgliadau'n agosach at gymunedau, gan bwysleisio ein hymrwymiad i degwch mynediad. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein platfform digidol ar-lein - Celf ar y Cyd – fel y gall mwy o bobl ledled Cymru a'r byd fwynhau ein casgliad celf cenedlaethol.

"Bydd cyllid hefyd yn sicrhau bod amgueddfeydd ac archifau lleol yn cael eu cefnogi, gan gydnabod y rôl hynod bwysig y maent yn ei chwarae wrth adrodd straeon eu hardaloedd.

"Rydym wedi bod yn onest am yr heriau ariannol rydym yn eu hwynebu ond nid yw hyn yn ein hatal rhag bod yn uchelgeisiol ar gyfer y sector. Mae'r buddsoddiad rydym yn parhau i'w wneud a'n hymgynghoriad ar flaenoriaethau drafft ar gyfer diwylliant dros y chwe blynedd nesaf yn dangos pa mor bwysig yw diwylliant i Lywodraeth Cymru.

"Rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i ddiogelu ein sefydliadau a'n casgliadau diwylliannol."

Dywedodd Jane Henderson, Llywydd Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru: 

"Rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gofalu am gasgliadau sydd mewn amgueddfeydd ac archifau lleol. Mae'r gwrthrychau a'r casgliadau hyn yn cyfuno i adrodd hanesion pobl a'u cymunedau, sydd gyda'i gilydd yn adrodd stori bwerus am genedl sydd wedi'i chreu o sawl rhan."

Meddai Prif Weithredwr Amgueddfa Cymru, Jane Richardson: 

"Da ni mor falch bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i ddechrau gwaith cynnal a chadw critigol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae'r Amgueddfa dros 100 mlwydd oed ac fe'i hadeiladwyd yn benodol i gadw ac arddangos casgliad cenedlaethol arbennig iawn Cymru.

"Rydym wrth ein boddau y bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn ein galluogi i ddechrau'r gwaith o sicrhau bod y casgliad hwn yn parhau i fod yn hygyrch i bobl Cymru yn ogystal ag ymwelwyr o weddill y DU ac o bob cwr o'r byd."

Meddai Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Rhodri Llwyd Morgan: 

"Rydym yn croesawu y buddsoddiad newydd hwn gan Lywodraeth Cymru yn fawr, a fydd yn mynd tuag at waith adnewyddu hanfodol i adeilad y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

“Mae'r casgliad cenedlaethol sy'n cael ei gadw yma yn drysor sy'n perthyn i'r genedl a bydd yr arian yn galluogi gwaith y mae mawr angen ei wneud.  Bydd cwblhau'r gwaith hwn yn golygu bod y casgliadau'n ddiogel yn y tymor hir a byddant yn sicrhau mynediad iddynt i genedlaethau'r dyfodol."