Neidio i'r prif gynnwy

341 o ysgolion i gael cysylltiad band eang cyflym iawn diolch i £5 miliwn o gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd mae gan holl ysgolion Cymru gysylltiad band eang â chyflymder o 10Mbps o leiaf ar gyfer ysgolion cynradd a 100Mbps ar gyfer ysgolion uwchradd. Serch hynny, mae cyfyngiadau technegol yn golygu nad yw rhai ysgolion yn gallu gwella cyflymder eu gwasanaethau i fodloni galw cynyddol amdanynt.

Ym mis Tachwedd 2016, neilltuwyd buddsoddiad o £5 miliwn a fydd yn talu am osod gwasanaethau band eang newydd. Bydd hyn yn darparu cynnydd yn y cyflymder yn syth ac yn sicrhau y bydd cysylltedd yn parhau i dyfu ymhell i'r dyfodol, yn yr un modd â'r ddarpariaeth mewn ysgolion eraill.

Mae archebion am y gwasanaeth newydd wedi dechrau cael eu gosod a disgwylir i'r archeb gyntaf gael ei chyflenwi yn gynnar ym mlwyddyn academaidd 2017/18.

Roedd rhoi blaenoriaeth i gysylltiadau band eang cyflym iawn i ysgolion yn rhan allweddol o'r cytundeb blaengar rhwng Prif Weinidog Cymru a Kirsty Williams.

Mae newidiadau i'r cwricwlwm yn golygu y bydd sgiliau digidol yn cael eu haddysgu a'u datblygu ym mhob rhan o addysg disgyblion bellach, ac na fyddant yn cael eu cyfyngu i wersi TGCh a Chyfrifiadureg penodol yn unig. Mae'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol yn golygu mwy na defnyddio cyfrifiaduron. Ei nod yw rhoi'r sgiliau digidol sydd eu hangen arnynt i ddisgyblion er mwyn iddyn nhw allu eu defnyddio yn y byd go iawn yn y dyfodol.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Dw i wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob un o'n hysgolion y seilwaith sydd ei angen i baratoi disgyblion ar gyfer y byd cyfoes. Dyna pam dw i wedi cyhoeddi gwerth £5 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i sicrhau bod gan ein holl ysgolion gysylltiad band eang cyflym iawn fel gofyniad sylfaenol a dw i wrth fy modd y bydd 341 o ysgolion yn elwa ar hyn.

"Mae gwneud yn siŵr fod gan bob ysgol, ni waeth lle mae hi, gysylltiad band eang cyflym iawn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i mi. Rydyn ni'n gwybod y bydd y galw am gyflymder o ran cysylltiadau band eang mewn ysgolion yn parhau i gynyddu.  Mae'n gwbl annerbyniol i ysgol weithredu o dan anfantais sylweddol oherwydd cysylltiad araf â'r rhyngrwyd. Byddaf yn parhau i sicrhau bod yr amgylchedd cywir gan ein disgyblion i ddatblygu eu sgiliau digidol hanfodol a pharhau i godi safonau."

Datgelodd yr Ysgrifennydd Addysg hefyd fod mwy o ddefnydd yn cael ei wneud o Hwb, y platfform dysgu digidol, sydd wedi'i gynllunio i ddarparu gwell mynediad i holl ddisgyblion ac athrawon Cymru at amrywiaeth o gyfarpar ac adnoddau ar-lein a ariennir yn ganolog. 

Ym mis Mawrth, edrychwyd ar dudalennau dros 3.2 miliwn o weithiau a mewngofnodwyd i'r safle dros 28 mil o weithiau bob dydd ar gyfartaledd, sydd gryn dipyn yn uwch na'r hyn a ddisgwylid ar y dechrau.  Mae datblygiadau diweddar i Hwb wedi darparu gwell profiad i athrawon a dysgwyr, gan ei gwneud yn bosibl i gael gafael ar y cyfarpar ac adnoddau a ddefnyddir amlaf yn gyflymach. Datblygwyd y newidiadau yn sgil sylwadau gan athrawon.