Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi dweud ei bod wedi cytuno gyda Llywodraeth y DU ar gyllid gwerth £31m i gefnogi gwaith atgyweirio hanfodol yn dilyn llifogydd yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi galw’n gyson ar Lywodraeth y DU i fodloni’r costau eithriadol sy’n gysylltiedig â’r stormydd garw ym mis Chwefror – stormydd a gafodd effaith anghymesur hynod negyddol ar gymunedau Cymru.
Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi cadarnhau heddiw yn dilyn cyfarfod â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, fod cais Llywodraeth Cymru am ragor o gyllid ar gyfer y flwyddyn hon wedi bod yn llwyddiannus.
Pwysleisiodd Rebecca Evans unwaith yn rhagor yr achos dros gael setliad cyllid hirdymor i ddiogelu cymunedau yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan yr hen dipiau glo sydd wedi’u lleoli ynddynt.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw yn gyson am gymryd camau gweithredu ar fyrder i sicrhau cyllid ar gyfer talu costau gwaith atgyweirio yn dilyn llifogydd a’r risgiau sy'n gysylltiedig â hanes diwylliannol Cymru, a hynny heb effeithio ar gyllideb Cymru sydd eisoes o dan ormod o bwysau.
Dywedodd Rebecca Evans:
“Rydw i’n falch, fel cam cyntaf, fod ein galwadau brys am y cyllid sydd ei angen ar Gymru i gychwyn er mwyn ymateb i’r stormydd difrifol wedi cael eu bodloni.
“Ni ddylid disgwyl i gymunedau yng Nghymru ysgwyddo’r gost o unioni’r materion sydd wedi codi yn sgil y tipiau glo. Roedd y tipiau glo yma cyn dyddiau datganoli, ac mae Cymru yn cael ei heffeithio mewn ffordd anghymesur.
“Byddwn ni’n parhau i bwyso am setliad hirdymor a rhaglen waith ar y cyd i ddiogelu cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio.”
Yn ystod y cyfarfod, ailadroddodd y Gweinidog ei galwadau cyson ar Lywodraeth y DU i roi’r tegwch, yr hyblygrwydd a’r sicrwydd sydd ei hangen ar Gymru ar gyfer cefnogi a diogelu ei chymunedau a’i busnesau. Pwysleisiodd hefyd nad yw’r cyllid presennol yn adlewyrchu maint y materion y mae Cymru yn eu hwynebu.