Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn dyblu trydydd cam ei Chronfa Cadernid Economaidd i bron £300 miliwn er mwyn helpu busnesau sy’n dal i deimlo effeithiau COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Ken Skates y byddai £140 miliwn ar gael fel rhan o drydydd cam Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, o ganlyniad i’r cyfnod atal byr a fydd yn dechrau ddydd Gwener, 23 Hydref ac yn para tan ddydd Llun 9 Tachwedd pan fydd gofyn i amrywiaeth o fusnesau gau eu drysau neu leihau eu gweithgareddau, caiff cam diweddaraf y gronfa fwy na’i ddyblu i sicrhau bod rhagor o help ar gael i fusnesau ledled y wlad.

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, sy’n ategu cynlluniau cymorth Llywodraeth y DU, yn rhan o becyn cymorth o £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau Cymru i ddelio ag effeithiau economaidd y coronafeirws.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates:

Rydym ni yn Llywodraeth Cymru yn gorfod gwneud penderfyniadau pwysig i arafu’r coronafeirws a diogelu ein GIG ac iechyd ein pobl. Ond rydym yn gwbl ymwybodol bod y penderfyniadau hyn yn cael effaith ar ein heconomi ac ar ein busnesau yn ystod blwyddyn sydd eisoes wedi bod yn neilltuol o anodd iddynt.

Rydym wedi bod yn trafod yn hir ac yn fanwl gyda’n partneriaid busnes am effaith barhaus y coronafeirws ac effeithiau’r cyfyngiadau’r rydym yn gorfod eu gosod i arafu ei ledaeniad.

Un neges rydym yn ei chlywed yn glir yw bod busnesau am gael eglurder er mwyn gallu cynllunio a pharatoi, a bod angen pecyn clir o gymorth arnynt i helpu i oroesi’r cyfnod anodd hwn.

A dyna yn union y bydd y pecyn cryfach hwn o gymorth sy’n dyblu trydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd ac yn cael arian yn gyflym i’n busnesau i’w helpu trwy’r cyfnod atal byr hwn a thu hwnt, yn ei wneud.

Dyma fydd yn y pecyn economaidd newydd a chryfach hwn:

  • Taliadau o £1,000 i fusnesau sy’n gymwys am y cymorth ardrethi i fusnesau bach â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.
  • Taliadau o hyd at £5,000 i fusnesau adwerthu, lletygarwch a hamdden sy’n gorfod cau ac sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £50,000.
  • Grant chwyddo dewisol o £2,000 i fusnesau sydd wedi gorfod cau dros y cyfnod atal byr neu y bydd y cyfnod atal wedi cael effaith faterol arnynt.
  • Grant dewisol arall o £1,000 i fusnesau y cafodd y cyfyngiadau lleol effaith faterol arnynt am 21 niwrnod neu fwy cyn dechrau’r cyfnod atal byr.

Mae Llywodraeth Cymru’n darparu £20 miliwn arall ar gyfer Grantiau Busnes sy’n golygu y bydd £100 miliwn ar gael at y diben hwn. O’r blaen, roedd disgwyl i fusnesau allu darparu canran o’r cyllid er mwyn gallu hawlio’r grantiau hyn, ond mae 

Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau bellach y bydd yn darparu 100% o’r grant i fusnesau sydd wedi cael eu gorfodi i gau yn ystod y cyfnod atal byr.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Trwy ddyblu trydydd cam y gronfa, rydym yn neilltuo bron i £300 miliwn o gymorth ariannol i’n cyflogwyr bach a chanolig ac i fusnesau yn y sector lletygarwch, twristiaeth a hamdden sy’n gorfod cau’u drysau dros y cyfnod atal byr.

“Bydd hynny’n golygu y bydd £150 miliwn yn ychwanegol yn mynd yn syth i goffrau busnesau Cymru i’w helpu i dalu eu biliau ac i wrthsefyll yr wythnosau a’r misoedd anodd o’n blaenau.

“Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd, a gafodd ei chreu i gau’r bylchau ym mhecyn cymorth Llywodraeth y DU, eisoes wedi bod yn allweddol wrth amddiffyn cwmnïau ledled Cymru rhag effeithiau difrifol y coronafeirws, gan ddiogelu rhagor na 100,000 o swyddi.

“Bydd y cyhoeddiad hwn, sydd unwaith eto’n ychwanegol at yr hyn a gynigir gan Lywodraeth y DU, yn helpu i sicrhau bod llawer o fusnesau Cymru’n gallu cadw eu pennau uwchlaw’r dŵr, cynllunio ar gyfer y dyfodol a diogelu’r swyddi y mae’n cymunedau’n dibynnu arnynt.

“Bydd y gronfa’n agor wythnos nesaf a byddwn yn gweithio’n galed i gael yr arian i fusnesau mor gyflym ag y gallwn ni.”

Cewch fwy o wybodaeth ar gael am Busnes Cymru. Byddwn yn ei diweddaru’n rheolaidd wythnos hon.