Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi cyhoeddi swm o £300,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect arloesol Tai yn Gyntaf yng Nghasnewydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, bydd y prosiect yn cael ei weithredu gan y rhaglen Pobl a bydd yn darparu llety ar gyfer 25 o bobl sydd â hanes o fod yn ddigartref dros gyfnod o 12 mis. Bydd hefyd yn eu helpu i ddod o hyd i lety hirdymor.

Bwriad Tai yn Gyntaf yw rhoi cymorth i bobl y mae angen lefelau sylweddol o gymorth arnynt i gefnu ar ddigartrefedd. Mae pobl sy’n derbyn cymorth yn cael cynnig lle i fyw ac yna maent yn cael cymorth hirdymor wedi’i deilwra i’w galluogi i reoli eu tenantiaeth yn annibynnol.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

Gall Tai yn Gyntaf helpu pobl sydd wedi bod yn ddigartref am amser hir i gynnal tenantiaeth. Gall gefnogi pobl a fydd o bosib yn dioddef o salwch meddwl difrifol, problemau â cham-drin cyffuriau ac alcohol, iechyd corfforol gwael ac sydd o bosib heb rwydwaith ehangach o gymorth.

Gwyddom nad Tai yn Gyntaf yw’r ateb i bawb sydd heb gartref – mae angen iddo fod yn rhan o strategaeth ehangach sy’n canolbwyntio ar gymryd camau cyflym i gynnig cartref arall i bobl, gan gynnwys cymryd camau eraill sy’n cael eu harwain gan anghenion tai a thai cymorth. Mae ganddo fodd bynnag rôl bwysig i’w chwarae yn cefnogi pobl, yn arbennig pobl sydd wedi bod yn cysgu allan am amser hir, a dyna pam rydyn ni’n cefnogi’r prosiect yma yng Nghasnewydd yn rhan o’n dulliau gweithredu cenedlaethol ehangach o weld Tai yn Gyntaf yn ymsefydlu yng Nghymru.

Mae’r gost o gefnogi pobl ar y stryd o ran y cyllidebau iechyd, y gwasanaethau brys a’r heddlu gryn dipyn yn uwch na’r gost o fynd i’r afael â digartrefedd. Ein nod yw cefnogi’r bobl hynny sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru ac mae Tai yn Gyntaf yn fuddsoddiad cadarn all arbed arian, a bywydau hefyd, yn y pen draw.

Dywedodd Harry McKeown, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Grŵp Pobl:

Bydd yr arian hanfodol yma yn caniatáu i ni, drwy weithio gyda phartneriaid, wneud gwahaniaeth gwirionedd i bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddigartrefedd a byw ar y stryd yng Nghasnewydd. Ar y cyd â’r tai a’r gwasanaethau cymorth sydd eisoes yn bodoli, credwn y gall Tai yn Gyntaf chwarae rôl bwysig drwy sicrhau mai cyfnodau byrhoedlog a phrin yw’r cyfnodau hynny o fod heb gartref ac nad oes patrwm ailadroddus yn datblygu.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox, Arweinydd Cyngor Sir Casnewydd:

Mae’r Cyngor yn croesawu’r arian i ddatblygu cynllun Tai yn Gyntaf yn rhan o’n camau gweithredu holistig o fynd i’r afael â digartrefedd o fewn y ddinas a’i leihau. Rydyn ni’n hynod o falch ein bod yn gweithio gyda’r rhaglen Pobl ar wireddu’r cyfle hwn ar gyfer y ddinas.

Ychwanegodd y Cynghorydd Jane Mudd, Aelod Cabinet Cyngor Sir Casnewydd dros Adfywio a Thai:

Bydd Tai yn Gyntaf yn cael ei ymgorffori o fewn y gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli ac wedi hen sefydlu yn y ddinas. Bydd yn creu mwy o dai cynaliadwy a chymorth, gan leihau’r effaith negyddol y gall digartrefedd ei chael ar fywydau a chyfleoedd pobl.

Mae Tai yn Gyntaf yn rhoi’r cyfle i ni sicrhau gwell deilliannau i fywydau pobl ac, yn y pen draw, i wella bywydau pobl.