Mae tai gwag yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi’u trawsnewid yn gartrefi diolch i swm o £3.25 miliwn o fuddsoddiad adfywio gan Lywodraeth Cymru.
Mae hyd at 120 o eiddo yn cael eu hadnewyddu drwy grantiau a benthyciadau er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o eiddo gwag hirdymor a gwella’r stoc dai yn y sector rhentu preifat. Mae’r tai yn cael eu gosod ar les ar rent fforddiadwy am ddeng mlynedd.
Dywedodd Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn:
Mae’n galonogol gweld sut mae’r arian yma yn gwneud gwahaniaeth ac yn golygu bod eiddo’n cael eu trosglwyddo’n ôl yn gartrefi.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu mwy o dai fforddiadwy ledled Cymru ac mae’r buddsoddiad hwn hefyd yn cefnogi swyddi yn y diwydiant adeiladu yn lleol ac yn adfywio rhannau o ganol ein trefi.
Mae Mr Emyr Roberts, EM & W Roberts, wedi trosglwyddo siop barbwr wag yn chwe fflat un stafell wely ar Stryd Fawr Bangor diolch i grant Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio gan Lywodraeth Cymru a benthyciad Troi Tai’n Gartrefi – yn ogystal â chymorth gan Gyngor Gwynedd.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Dai, y Cynghorydd Craig ab Iago:
Rydyn ni’n falch bod y gwaith positif sy’n cael ei wneud yma yng Ngwynedd i drawsnewid eiddo gwag yn dai wedi’i gydnabod yn enghraifft o arfer dda.
Mae’r prosiect arbennig yma wedi sicrhau bod defnydd da yn cael ei wneud o adeilad gwag ar y stryd fawr ym Mangor. Mae’n cynnig fflatiau un stafell wely y mae galw mawr amdanynt yn rhan o ymdrechion sy’n parhau i sicrhau cymysgedd addas o dai fforddiadwy ar gyfer trigolion Gwynedd.
Mae’r buddsoddiad yn rhan o raglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig £100 miliwn o gyllid dros gyfnod o dair blynedd er mwyn helpu prosiectau adfywio a buddsoddiad ychwanegol pellach o £60 miliwn o leiaf gan sefydliadau a busnesau eraill.
O ganlyniad i strategaeth adfywio gyffredinol Llywodraeth Cymru bydd £800 miliwn yn cael ei fuddsoddi rhwng 2014 a 2023. Mae hyn yn cynnwys tua £250 miliwn gan Lywodraeth Cymru gyda dros £550 miliwn gan sefydliadau a busnesau eraill.