Mae dwy raglen sydd â hanes hir o chwalu'r rhwystrau i gael gwaith ar gyfer miloedd o bobl ar fin cael eu hestyn gyda thros £29 miliwn o arian yr UE, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Ken Skates.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae'r rhaglenni Cymunedau am Waith (CfW) a Gofal Plant a Chyflogaeth i Rieni (PaCE) ill dwy yn derbyn nawdd Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac yn cael eu darparu ar y cyd â'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), awdurdodau lleol a'r trydydd sector. Byddan nhw nawr yn gallu para tan 30 Mehefin 2022. 

Caiff £23.4m o arian ychwanegol yr UE ei neilltuo i'r rhaglen CfW a £5.6m yn ychwanegol i PaCE. Dyna ddod â chyfanswm cyfraniadau'r UE, Llywodraeth Cymru a'r DWP i'r ddwy raglen i £123 miliwn dros eu hoes. 

Mae'r CfW yn cefnogi'r rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur ac sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, os oes gobaith realistig eu symud yn nes i'r gwaith ac i swydd. Yr un pryd, mae PaCE yn helpu rhieni i gael hyfforddiant neu waith os mai gofal plant yw'r rhwystr pennaf. 

Ers eu cyflwyno yn 2015, mae bron 35,000 o bobl yng Nghymru wedi cael help Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol Llywodraeth Cymru, sef CfW, PaCE a Chymundau am Waith a Mwy, gyda thros 12,000 ohonyn nhw wedi cael gwaith. 

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

"Mae cael help i'ch gwneud yn fwy cyflogadwy yn hanfodol mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd ac yn hynod bwysig i bobl sydd, beth bynnag yw'r rheswm, yn cael eu hunain wedi'u datgysylltu oddi wrth y farchnad lafur. Rwy'n arbennig o falch bod ein Rhaglen Cyflogadwyedd Cymunedol yn cael effaith bositif ar rai o bobl fwyaf difreintiedig ein cymunedau ac rwyf wir wedi cael fy synnu gan eu llwyddiant i gael pobl yn ôl i weithio. 

"Gan weithio yng nghalon ein cymunedau, mae'r rhaglenni hyn yn ategu Cymru'n Gweithio i sicrhau gwasanaeth difwlch a phersonol i unigolion sy'n gobeithio cael gwaith neu fynd yn ôl i weithio.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles sy'n gyfrifol am brosiectau Ewropeaidd yn Llywodraeth Cymru:

"Rydyn ni'n wynebu problemau digynsail o ran cyllid cyhoeddus a hefyd o ran cael at farchnadoedd llafur, felly mae'n hynod bwysig ein bod yn datgloi pob cyfle i weithwyr yng Nghymru ac yn rhoi pob hwb i helpu'r economi i dyfu. 

"Rydyn ni wedi elwa'n fawr ar fod yn aelod o'r UE, gan gynnwys ar y tua £4 biliwn o Arian Strwythurol y degawd diwethaf sydd wedi cael effaith aruthrol ar fusnesau, sgiliau a swyddi yng Nghymru. Mae'n hanfodol felly cadw'r ffrwd ariannu hwn at y dyfodol a rhag ofn y byddwn yn gadael yr UE, rydyn ni'n cydweithio'n glos â rhanddeiliaid ledled Cymru i greu fframwaith newydd ar gyfer buddsoddi yn y rhanbarthau.

Yn y degawd diwethaf, mae prosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan yr UE yng Nghymru wedi creu mwy na 48,000 o swyddi ac 13,000 o fusnesau newydd a helpu 86,000 yn ôl i'r gwaith.