Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (dydd Mawrth, 21 Gorffennaf), mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi 2.8% o gynnydd yng nghyflog meddygon a deintyddion Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cynnydd yn cyd-fynd ag argymhellion 48fed Adroddiad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion a osodwyd gerbron Senedd y Deyrnas Unedig heddiw.

Dywedodd Mr Gething:

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi y byddaf yn derbyn argymhellion y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion yn llawn.

Mae hyn yn cynnwys 2.8% o gynnydd yng nghyflog sylfaenol pob grŵp o feddygon a deintyddion. Mae’r cynnydd hwn yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’n meddygon a’n deintyddion diwyd, a’u cyfraniad at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi gweithlu’r GIG, sydd unwaith eto wedi dangos ei ymroddiad diwyro drwy ddarparu gofal iechyd rhagorol mewn amgylchiadau eithriadol o anodd yn ddiweddar.

Bydd pob grŵp o feddygon a deintyddion yn cael y 2.8% o gynnydd, gan gynnwys ymgynghorwyr, meddygon dan hyfforddiant, meddygon arbenigol ac arbenigol cyswllt, ymarferwyr cyffredinol sy'n derbyn cyflog a deintyddion.

Mae’r cynnydd yng nghyflog ymarferwyr cyffredinol a deintyddion contractwyr yn rhan o newidiadau contract cyffredinol a bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r cyrff cynrychiadol.

Ychwanegodd Mr Gething:

Nid yw Trysorlys y DU wedi darparu cyllid ychwanegol i helpu i dalu am gost unrhyw gynnydd dros 1% a argymhellir ac felly bydd angen i’r cyllid ychwanegol ddod o gyllidebau presennol.