Bydd adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau yng Nghymru yn cael cyfran o £2.7m i wella amgylcheddau a gwella profiad y claf a'r staff.
Bydd y cyllid a rennir yn cefnogi gwahanol gynigion a gyflwynir gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth eang o faterion megis:
- gwella hygyrchedd
- gwella mynediad at wybodaeth
- mesurau atal a rheoli heintiau
- gwella diogelwch
- addasiadau ar gyfer defnyddio gofod yn fwy effeithiol
- a gwelliannau cyffredinol i'r ystâd
Bydd y buddsoddiad hwn yn cynnwys creu ardaloedd aros a chynyddu nifer y ciwbiclau asesu a thriniaeth, ychwanegu at gapasiti adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau drwy greu mwy o le a lleihau'r pwysau sy'n digwydd oherwydd bod ardal dan ei sang â phobl, er mwyn ei gwneud yn haws darparu gofal i gleifion mewn modd amserol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
Fe gawson ni adborth hynod gadarnhaol oddi wrth staff a chleifion yn dilyn ein buddsoddiadau a'n huwchraddiadau mewn adrannau argyfwng ac unedau mân anafiadau y llynedd.
Rydyn ni’n bwriadu parhau i wneud hyn er mwyn helpu i wella gofal cleifion a staff.
Dylai ein buddsoddiad o £2.7 miliwn wella profiad y claf a'r staff mewn ystafelloedd aros, ac wrth iddynt gyrchu neu ddarparu gofal a thriniaeth ar draws yr adrannau.
Mae ein hadrannau argyfwng bob amser ar agor, ac yn barod i gefnogi'r rhai sydd â chyflyrau sy'n peryglu bywyd a chyflyrau sy'n gofyn am ymateb brys.
Serch hynny, gall pob un ohonom chwarae ein rhan drwy helpu i leihau rhywfaint o'r pwysau sydd ar ein gwasanaethau argyfwng, drwy ystyried a oes gwir angen inni fynd i adran argyfwng, neu a fyddai opsiwn gwell a chyflymach, fel defnyddio uned mân anafiadau pwrpasol neu wasanaeth am ddim GIG 111 Cymru a gwasanaethau fferyllwyr cymunedol.