Neidio i'r prif gynnwy

Mae Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi cael ei estyn am ddwy flynedd arall, gyda chyllid sylweddol gwerth £26 miliwn ar gael i gefnogi canol trefi ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwynwyd y Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi ym mis Mawrth 2021 i gyfuno nifer o grantiau adfywio llai yn un rhaglen grant cyfalaf symlach.

Mae'n cefnogi amrediad eang o ymyriadau fel gwella eiddo masnachol, rhagor o fannau i fyw ynddyn nhw yng nghanol y dref a mannau cyhoeddus o ansawdd gwell. Bydd hefyd yn cefnogi gwneud canol ein trefi'n fwy gwyrdd ynghyd â chyfleusterau hamdden newydd fel parciau bach a mannau chwarae.

Mae'r grant uchaf sydd ar gael fesul cais wedi cynyddu o £250,000 i £300,000 fesul, gan ddarparu rhagor o gymorth i brosiectau Creu Lleoedd unigol.

Gall prosiectau gael eu cyflawni gan awdurdodau lleol eu hunain, neu gan drydydd partïon fel cynghorau tref, Ardaloedd Gwella Busnes, sefydliadau ac unigolion yn y trydydd sector a'r sector preifat. Mae ceisiadau'n cael eu blaenoriaethu a'u prosesu gan awdurdodau lleol.

Helpodd y rownd flaenorol o gyllid grant i drawsnewid eiddo gwag ledled Cymru, gan gynnwys yr hen Woolpack yng Nglyn-nedd sydd bellach yn gartref i siop goffi toesenni gyda phedwar fflat un gwely uwchben yn dilyn ailwampio helaeth.

Cafodd yr hen Canterbury Arms yng Nghastell-nedd hefyd hailwampio'n helaeth i greu tair uned fasnachol ar y llawr gwaelod gyda phedwar fflat preswyl uwchben.

Yn y cyfamser, defnyddiodd Cyngor Gwynedd y cyllid grant i wella Canol Dinas Bangor drwy osod mynegbyst a byrddau gwybodaeth newydd am dirnodau lleol, gan dywys trigolion ac ymwelwyr a'u hannog i archwilio'r atyniadau unigryw sydd ar gael ym Mangor.

Canmolodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, lwyddiant y rhaglen yn ei haraith i Gynhadledd Adfywio Cymru Gyfan ym mis Chwefror:

Drwy fuddsoddi yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd, rydyn ni nid yn unig yn gwella'r amgylchedd ffisegol ond hefyd yn meithrin twf economaidd a gwella ansawdd bywyd trigolion.

Mae rhoi pwrpas newydd i eiddo gwag, gan roi bywyd newydd ganol ein trefi a dinasoedd, yn ganolog i'n strategaeth adfywio yma yng Nghymru.

Mae parhau â'r rhaglen grantiau, gyda rhagor o gyllid a grantiau uwch, yn gwneud cyllid ar gyfer prosiectau adfywio yn fwy hygyrch, gan ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiannau rydyn ni eisoes wedi'u sicrhau.