Neidio i'r prif gynnwy

A diwrnod VJ yn agosáu, mae Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, wedi cyhoeddi £250,000 heddiw i gefnogi plant y lluoedd arfog mewn ysgolion ledled Cymru yn ystod 2020/21.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyllid yn helpu ysgolion i gynnig cymorth ychwanegol i blant o deuluoedd y lluoedd arfog. Mae gorfod symud o un ysgol i’r llall yn sgil symud lleoliad gwaith rhiant yn creu heriau, a gall yr arian hwn helpu i leihau’r effeithiau hyn. Gall helpu hefyd i leihau effeithiau gweld rhieni neu warcheidwaid sydd yn y lluoedd arfog yn symud oddi cartref, i wneud gwaith penodol neu ar gyfer hyfforddiant hirdymor. 

Bydd y cyllid yn sicrhau bod prosiect cymorth cyffredinol Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg, a sefydlwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn parhau, a bydd yn rhoi cymorth mwy penodol i ysgolion. Eleni, mae’r broses ar gyfer dosbarthu’r cyllid yn cael ei datblygu gan CLlLC, i’w chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.  

Dywedodd Kirsty Williams:

Sicrhau’r un mynediad at addysg i bob plentyn a pherson ifanc yw un o’m prif flaenoriaethau, ac rwy’n cydnabod yr heriau penodol y gall plant y lluoedd arfog eu hwynebu.

Mae Prosiect a Chronfa Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru wedi bod yn hynod lwyddiannus mewn blynyddoedd a fu, ac felly rwy’n falch o gael parhau i gyllido’r maes hwn am flwyddyn arall.

Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Ardal y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru:

Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn gwbl ganolog i rwydwaith cenedlaethol sy’n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog, gan sicrhau na chaiff eu cyfraniad unigryw ei anghofio byth. Mae’n beth cywir ein bod ni, a hithau’n benwythnos nodi Diwrnod VJ 75, yn ystyried hefyd gymuned y lluoedd arfog heddiw a’r aberthau y maen nhw’n eu gwneud.

Rydyn ni’n croesawu’r penderfyniad i adnewyddu’r gronfa hon ar gyfer plant ein lluoedd arfog heddiw. Ers ei chyflwyno, rydyn ni wedi gweld defnydd da yn cael ei wneud ohoni wrth gefnogi’r disgyblion hyn, ac edrychwn ymlaen at weld hynny’n parhau i’r dyfodol.

Dywedodd y Cyng Ian Roberts, Llefarydd Addysg CLlLC:

Mae ysgolion yng Nghymru yn gwneud gwaith gwych yn nodi’r heriau y mae plant y lluoedd arfog yn eu hwynebu o ran eu haddysg, ac maen nhw’n gweithio gyda Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru i sicrhau nad ydyn nhw o dan anfantais oherwydd eu cefndir.

Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect, a sefydlwyd gan CLlLC, yn croesawu cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Addysg y bydd y cyllid yn parhau am flwyddyn arall. Bydd yn help mawr i sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau a bod arferion da yn cael eu rhannu.