Mae £24 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi ar unwaith er mwyn adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru, datganodd Julie James, y Gweinidog Tai, heddiw.
Bydd y cyllid ychwanegol yn help i gyflymu rhaglen Llywodraeth Cymru i ddarparu20,000 yn fwy o gartrefi fforddiadwy ar draws Cymru erbyn 2021, drwy roi hwb ariannol sydyn i gynlluniau sy’n barod i ddechrau ar draws y wlad.
Datgelodd y Gweinidog heddiw fod 13,143 o’r 20,000 o gartrefi newydd y gwnaeth Llywodraeth Cymru addo erbyn 2021 eisoes wedi cael eu darparu (erbyn ddiwedd mis Mawrth 2019). Mae hyn yn cynnwys 2,592 o unedau tai fforddiadwy ar draws Cymru yn 2018/19, sydd 12% yn uwch nag yn 2017/18 a’r cyfanswm blynyddol uchaf erioed.
Bydd £6 miliwn o’r swm ychwanegol hwn yn cael ei neilltuo fel cyllid cyfalaf i’r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol (GTC), sydd yn chwarae rôl allweddol wrth gynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol a chanolradd newydd fel ei gilydd. Bydd hyn yn helpu i adeiladu 70 o gartrefi newydd ychwanegol ar draws Cymru.
Mae’r arian hwn ar ben y £50 miliwn ychwanegol a neilltuwyd fel rhan o’r pecyn buddsoddiad cyfalaf a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019, sydd yn dod â chyfanswm y dyraniad i raglen grantiau’r GTC i £127.2 miliwn yn 2019/20.
Hefyd mae gwerth £17.8 miliwn o gyllid cyfalaf trafodiadol (benthyciadau) yn mynd i’r cynlluniau Cymorth i Brynu Cymru a Benthyciad Eiddo.
Mae Cymorth i Brynu Cymru eisoes wedi rhagori ar ei darged o gefnogi 6,000 o bobl i brynu cartref newydd yn ystod tymor y llywodraeth hon, gan gwblhau mwy na 6,500 o drafodiadau erbyn 30 Medi 2019.
Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James:
Gwneud yn siŵr bod gan bawb gartref fforddiadwy o ansawdd uchel yw fy mhrif flaenoriaeth fel Gweinidog Tai Cymru. Felly, rwy’n falch iawn i fedru datgan ein bod ar y trywydd iawn i ddarparu’r20,000 o gartrefi newydd fforddiadwy y gwnaethon ni addo fel rhan o’n Rhaglen Lywodraethu – gan fod 65% o’r cartrefi eisoes wedi eu hadeiladu.
Ond rydym yn awyddus i adeiladu mwy fyth o gartrefi, yn gyflym ac ar raddfa eang. Bydd y buddsoddiad ychwanegol yr wyf yn ei ddatgan heddiw yn golygu y bydd modd inni wireddu’r addewid hwnnw, gan roi hwb i’r sector adeiladu a sicrhau bod pobl yn cael y cartrefi sydd eu hangen arnynt, cartrefi sy’n eu galluogi i fyw bywydau iach, llwyddiannus a ffyniannus.
Erbyn diwedd tymor y llywodraeth bresennol, mi fyddwn wedi buddsoddi mwy na £2 biliwn mewn tai ar draws Cymru – sydd yn arwydd clir o ba mor bwysig yw hi i ni ddarparu mwy o gartrefi o ansawdd uchel, a fydd yn ffurfio sail gadarn i gymunedau da ac yn fodd i unigolion a theuluoedd ffynnu ym mhob agwedd o’u bywydau.
Mae’r cyllid yn rhan o ail gyllideb atodol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol (2019/20). Mae’r gyllideb yn cynnwys £108 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol fel buddsoddiad i hybu blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru.